O ble mae eich ynni yn dod
Sut mae ynni yn symud o ble mae'n cael ei wneud i ble mae'n cael ei ddefnyddio, pwy sy'n gyfrifol am bob cam a beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Sut y caiff ynni ei wneud
Mae Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) yn cael ynni o amrywiaeth o ffynonellau. Mae rhywfaint o'r ynni yn cael ei wneud, neu ei ‘gynhyrchu’, yma, er enghraifft:
- trydan o ffynonellau adnewyddadwy neu lân fel ynni gwynt, ynni solar neu ynni niwclear
- nwy o danwyddau ffosil, fel glo neu olew
Caiff rhywfaint o'r ynni ei gynhyrchu yn rhywle arall a'i fewnforio, er enghraifft:
- nwy a thrydan o Ewrop, sy'n cael eu cludo drwy biblinellau a rhyng-gysylltwyr, sef ceblau tanfor mawr
- nwy naturiol hylifedig sy'n cael ei gludo yma o wledydd fel Qatar a'r Unol Daleithiau
Ar ôl iddo gael ei gynhyrchu neu ei gludo yma, mae bellach yn rhan o'r system ynni. Y Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO) (yn agor tudalen Saesneg) sy'n gyfrifol am sicrhau bod digon i ateb y galw.
Sut y caiff ynni ei symud dros bellterau mawr
Yr enw ar y broses o symud ynni dros bellterau mawr o ble y caiff ei gynhyrchu i ble y gellir ei ddosbarthu'n lleol yw ‘trawsyrru’. Caiff hyn ei wneud ar foltedd uchel ar gyfer trydan, ac ar bwysedd uchel ar gyfer nwy.
Mae tri pherchennog trawsyrru yn rheoli'r cyfarpar sydd ei angen i drawsyrru trydan, gan gynnwys llinellau pŵer, peilonau, ceblau ac is-orsafoedd. Mae'r rhain fel a ganlyn:
- National Grid Electricity Transmission (yn agor tudalen Saesneg) yng Nghymru a Lloegr
- SP Energy Networks (yn agor tudalen Saesneg) yn ne a chanol yr Alban
- Scottish and Southern Electricity Networks Transmission (yn agor tudalen Saesneg) yng ngogledd yr Alban ac ynysoedd yr Alban
Mae National Gas Transmission (yn agor tudalen Saesneg) yn rheoli'r cyfarpar sydd ei angen i drawsyrru nwy, gan gynnwys pibellau, cywasgwyr a gorsafoedd lleihau pwysedd.
Sut mae ynni yn cyrraedd eich ardal leol
Nid yw trydan foltedd uchel a nwy pwysedd uchel yn ddiogel i chi eu defnyddio yn eich cartref. Yr enw ar y broses o symud yr ynni o'r rhwydweithiau trawsyrru a'i droi yn ynni y gallwch ei ddefnyddio'n ddiogel yw ‘dosbarthu’.
Mae gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu trydan yn rheoli'r cyfarpar sydd ei angen i ddosbarthu trydan, gan gynnwys:
- llinellau pŵer foltedd isel a foltedd canolig
- is-orsafoedd
- newidyddion, sy'n cael eu defnyddio i ‘ostwng’ o folteddau uchel i folteddau isel
Cysylltwch â nhw os hoffech roi gwybod am doriad pŵer, cysylltu eich cartref â'r rhwydwaith, neu osod technoleg ynni adnewyddadwy newydd fel paneli solar.
Dysgwch pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith trydan (yn agor tudalen Saesneg) a sut i gysylltu ag ef.
Mae gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu nwy yn rheoli'r cyfarpar sydd ei angen i ddosbarthu nwy, gan gynnwys:
- prif bibellau a phibellau nwy pwysedd is
- gorsafoedd lleihau pwysedd
- systemau monitro a rheoli
Cysylltwch â nhw os hoffech ychwanegu neu newid cysylltiad â'r rhwydwaith, neu i roi gwybod am achos o nwy yn gollwng (os byddwch yn arogleuo nwy, ffoniwch 0800 111 999 ar unwaith).
Dysgwch pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith nwy (yn agor tudalen Saesneg) a sut i gysylltu ag ef.
Beth mae cyflenwr ynni yn ei wneud
Mae cyflenwr ynni yn prynu trydan neu nwy gan gynhyrchwyr, ac yn eu gwerthu i chi ar y tariff rydych wedi cytuno arno. Mae'n cyfrifo ac yn cyflwyno eich biliau yn seiliedig ar faint o ynni rydych wedi'i ddefnyddio yn ystod y cyfnod bilio.
Mae angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr i ofyn cwestiynau am bethau fel bilio, mesuryddion neu gael cymorth ychwanegol.
Eich costau ynni
Mae cost i bob un o'r camau yn y broses o gynhyrchu a symud ynni i gartrefi a busnesau. Caiff y costau hyn eu hychwanegu at eich biliau trydan a nwy fel rhan o'ch cyfradd fesul uned a'r tâl sefydlog rydych yn ei dalu.
Eich cyfradd fesul uned yw'r pris rydych yn ei dalu am bob uned o nwy neu drydan a ddefnyddir gennych. Caiff ei mesur mewn oriau cilowat (kWh).
Mae'r gost hon yn cwmpasu'r swm mae eich cyflenwr wedi talu cynhyrchwr am yr ynni hwnnw.
Cost wedi'i gosod gan eich cyflenwr yw'r tâl sefydlog, sy'n cwmpasu cost y canlynol:
- symud ynni o ble mae'n cael ei wneud i'ch cartref neu eich busnes
- cydbwyso'r cyflenwad a'r galw yn y system ynni
- enillion cyflenwyr
- gosod a chynnal a chadw mesuryddion trydan a nwy
- talu tuag at rai o gynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth, fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes (yn agor tudalen Saesneg)
Sut mae sero net yn effeithio ar y system ynni
Bydd angen uwchraddio'r system ynni i ateb y galw cynyddol, ac i'n helpu i gael mwy o'n hynni o ffynonellau carbon isel. Bydd angen talu am y gwaith uwchraddio hwn, a fydd yn golygu biliau ynni uwch yn y byrdymor.
Dysgwch fwy am ein rôl wrth gyflawni sero net.
Ein rôl yn y system ynni
Rydym yn rheoleiddio'r cwmnïau sy'n gwneud, yn symud ac yn gwerthu ynni. Rydym hefyd yn gweithredu i amddiffyn yr amgylchedd a defnyddwyr a busnesau.
Rydym yn gwneud hynny drwy'r canlynol:
- rhoi trwyddedau a gosod amodau trwydded
- rhoi arweiniad i gwmnïau ynni
- rheoli newidiadau i godau diwydiant
- sicrhau bod cwmnïau ynni yn dilyn y rheolau, a chymryd camau gweithredu os nad ydynt yn gwneud hynny
- gosod y cap ar brisiau ynni