Ein strategaeth
Ein gweledigaeth strategol
Cyhoeddwyd Strategaeth Amlflwyddyn Ofgem ‘Protect, Build, Change, Deliver’ am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2024, ac mae'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae'r Strategaeth Amlflwyddyn yn cynnwys ein gwaith rheoleiddio a'r gwaith o weinyddu cynlluniau ynni carbon isel a chynlluniau cymdeithasol rydym yn eu cyflawni ar ran llywodraeth y DU.
Ein blaenoriaethau strategol yw:
- llunio marchnad fanwerthu sy'n gweithio i ddefnyddwyr
- galluogi seilwaith i sicrhau sero net yn gyflym
- sefydlu system ynni effeithlon, deg, a hyblyg
- hyrwyddo datgarboneiddio drwy gynlluniau ynni carbon isel a chynlluniau cymdeithasol
- cryfhau Ofgem fel sefydliad
Lawrlwythwch ein strategaeth
Datblygiadau newydd
Ers cyhoeddi ein Strategaeth Amlflwyddyn ym mis Mawrth 2024, cafwyd datblygiadau sylweddol yn y sector ynni.
Pŵer Glân 2030
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i Brydain gael system pŵer glân erbyn 2030. Mae hefyd wedi tynnu sylw at ei phrif genhadaeth i hyrwyddo twf economaidd. Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae yn llwyddiant y ddwy genhadaeth hyn fel yr adlewyrchir yn ein Blaenraglen Waith.
Adolygiad o Ofgem
Ym mis Rhagfyr 2024, cyhoeddodd yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net adolygiad trylwyr o'n rôl, ein pwerau a'n galluoedd fel rheoleiddiwr ynni.
Cyhoeddwyd yr adolygiad ar 22 Ebrill 2026. Mae'n cynnwys argymhellion i'n helpu i wneud y canlynol:
- cryfhau trefniadau amddiffyn defnyddwyr
- cefnogi buddsoddiad, arloesedd a thwf
- sicrhau proses reoleiddio fwy rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
Rydym yn ymrwymedig i ymgorffori argymhellion yr adolygiad wrth weithio gyda'r llywodraeth, grwpiau defnyddwyr a'r sector ynni i wneud y newidiadau hyn.
Darllenwch yr adolygiad o Ofgem: yr adroddiad terfynol ar wefan GOV.UK.
Newidiadau i'n strategaeth
Rydym yn ymrwymedig i adolygu ein Strategaeth Amlflwyddyn yn rheolaidd a sicrhau ei bod yn ymateb i newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, datblygiadau newydd yn y sector ynni, ac unrhyw newidiadau i'n rôl a'n cyfrifoldebau.
Er y gall adolygiad y llywodraeth o Ofgem olygu bod angen i ni wneud newidiadau i'n strategaeth yn y dyfodol, rydym yn credu bod ein blaenoriaethau a'n hamcanion ar gyfer eleni yn parhau i fod yn gyson ag anghenion y sector ynni.
Ein cynllun blynyddol
Mae ein Blaenraglen Waith yn pennu'r gwaith y byddwn yn ei wneud yn y flwyddyn sydd i ddod i gyflawni ein hamcanion strategol.
Darllenwch ein Blaenraglen Waith am 2025 i 2026.