Cysylltiadau buddsoddwyr

Mae'r tîm Cysylltiadau Buddsoddwyr yn rheoli cysylltiadau â'r gymuned fyd-eang o fuddsoddwyr sydd â diddordeb yn y sectorau nwy a thrydan yn y DU.

Mae'r tîm yn cynnal cysylltiadau parhaus â buddsoddwyr, dadansoddwyr, bancwyr buddsoddi a bancwyr corfforaethol, asiantaethau statws credyd ac unrhyw gyfranogwyr eraill sydd â diddordeb yn y farchnad buddsoddi.

Rydym yn cynnal cyflwyniadau a galwadau cynadledda drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn hapus i ateb ymholiadau dros y ffôn neu drefnu cyfarfodydd un i un er mwyn trafod meysydd o ddiddordeb yn fanwl.

Os hoffech gael eich cynnwys yn ein rhestr ddosbarthu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau a'n penderfyniadau mwyaf perthnasol, yn ogystal â chael gwahoddiadau i'n digwyddiadau, cysylltwch â:

  • Jamie Tunnicliffe, Pennaeth Cysylltiadau Buddsoddwyr
  • Aidan Stringfellow, Uwch-reolwr, Cysylltiadau Buddsoddwyr

E-bostiwch y Tîm Cysylltiadau Buddsoddwyr