Cymorth ar gyfer cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth

Yn Ofgem, rydym yn gwerthfawrogi pob cydweithiwr, ni waeth beth fo'i rywedd, ei gefndir, ei ethnigrwydd, ei oedran, ei genedligrwydd, ei arbenigedd na'i brofiad. Rydym yn well ac yn gryfach po fwyaf amrywiol yr ydym. Rydym am arwain y ffordd o ran sicrhau bod ein sefydliad ni ein hunain, a'r sector ehangach a reoleiddir gennym, yn fwy cynhwysol, cyfartal ac amrywiol er mwyn cynrychioli'r bobl a wasanaethir gennym.

Caiff ein rhwydweithiau eu rhedeg gan gydweithwyr ar gyfer cydweithwyr. Maent ar gael i bob aelod o staff Ofgem, yn hyrwyddo ac yn cefnogi mentrau cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithle a'n diwylliant. Dysgwch fwy amdanynt isod.