Osgoi sgamiau ynni a rhoi gwybod amdanynt

Mae’n bwysig rhoi gwybod am sgamiau er mwyn helpu i ddiogelu pobl eraill rhag cael eu dal allan. Dysgwch beth i gadw llygad amdano a phwy y gallwch gysylltu â nhw.

Sgamiau ynni

Weithiau, bydd sgamwyr yn cysylltu â chi yn esgus eu bod yn gweithio i Ofgem. Er enghraifft, gall sgamiwr ffonio yn dweud ei fod yn gweithio i Ofgem, awgrymu y dylech newid cyflenwr ac yna ofyn am eich manylion banc. Efallai y bydd yn ceisio cysylltu â chi drwy'r dulliau canlynol:

  • curo ar eich drws
  • galwad ffôn
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • e-bost
  • neges naid ar wefan
  • neges uniongyrchol
  • neges destun.

Sgamiau ynni yw'r rhain. Ni fyddai Ofgem byth yn gwerthu ynni i chi, ni fyddai'n gofyn am wybodaeth bersonol nac yn dod i'ch eiddo.

Rhowch wybod i Action Fraud am y sgam, sef y ganolfan adrodd am achosion o dwyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, ffoniwch Heddlu'r Alban ar 101.

Os ydych wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol fel eich manylion banc, cysylltwch â'ch banc ar unwaith i gael help.

Cysylltu ag Ofgem ynghylch sgamiau neu gamwedd

Ar ôl i chi roi gwybod i Action Fraud neu Heddlu'r Alban am sgam a amheuir, gallwch hefyd ddweud wrthym ni drwy e-bostio neu drwy ffonio 020 7901 7295.

Ar gyfer cwynion cyffredinol, er enghraifft os ydych yn meddwl bod cyflenwr ynni, cwmni rhwydwaith neu osodwr cynnyrch ynni wedi camweddu, dilynwch ein canllaw ar gwynion.

Os byddwch am chwythu'r chwiban ynghylch camwedd a amheuir, dilynwch ein canllaw ar chwythu'r chwiban.

Cadw llygad am sgamiau ‘Ofgem’

  1. Aros

    Dylech wrthod neu anwybyddu cyswllt gan ‘Ofgem’ sy'n edrych neu'n swnio'n anarferol, fel cais am eich manylion banc neu eich manylion personol. Ni fyddwn byth yn gofyn am y wybodaeth hon. 

  2. Gwirio

    Edrychwch yn ofalus ar gyfeiriadau e-bost. Bydd unrhyw negeseuon e-bost yn ymwneud ag Ofgem bob amser yn cynnwys @ofgem.gov.uk.

    Edrychwch yn ofalus ar y brandio. Bydd logo Ofgem bob amser i'w weld ar ein gohebiaeth. Ni ddylai fyth edrych fel pe bai wedi'i ymestyn, yn aneglur nac wedi'i ystumio.

  3. Diogelu

    Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro neu achosi i chi fynd i banig. 

    Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os byddwch yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo. Rhowch wybod i Action Fraud os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, ac i Heddlu'r Alban yn yr Alban. 

    Dysgwch sut i adnabod ac osgoi sgamiau ar wefan Take Five to Stop Fraud.

Gyda phwy y dylid cysylltu

Os byddwch o'r farn eich bod wedi cael eich twyllo neu fod rhywun sy'n ceisio eich twyllo wedi cysylltu â chi:

  • Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch ei ffurflen ar-lein
  • Yn yr Alban, ffoniwch Heddlu'r Alban ar 101
  • Dylech bob amser ffonio 999 mewn argyfwng, os byddwch yn teimlo dan fygythiad neu'n anniogel.

I gael cyngor cyffredinol ar sut i reoli galwadau a negeseuon digroeso, ewch i wefan Ofcom.

I reoli llythyrau marchnata a gwerthu digymell, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Post.

Gall y Swyddfa Safonau Masnach neu'r Gwasanaeth Safonau Masnach yng Nghymru hefyd roi cyngor ar drefnu ‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’ yn eich ardal leol.

Os ydych yn pryderu ynghylch trosedd ynni, fel dwyn eich nwy neu drydan: