Camau i arbed ynni

Arbed arian drwy ddysgu sut i leihau'r ynni a ddefnyddir ac atal gwres rhag cael ei golli

Gall y camau a'r awgrymiadau isod eich helpu i arbed arian drwy roi mwy o reolaeth i chi dros y gwres a'r ynni yn eich cartref. Er y gall rhai o'r rhain fod yn gyfarwydd i chi eisoes, mae'r wybodaeth isod yn tynnu sylw at amrywiaeth o gamau gwahanol a all fod yn berthnasol i chi ac mae'n rhoi manylion pwysig am sut i gyflawni'r rhain mewn modd diogel a chyfforddus.

Mae pedwar math o gam y gallwch eu cymryd:

  • Camau ‘Gosod ac anghofio’ – camau untro, cyflym yw'r rhain y gallwch eu cymryd i leihau faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio ar unwaith. Fel arfer, nid oes unrhyw gostau'n gysylltiedig â'r camau hyn.
  • Camau bach pob dydd – mae'r camau hyn nad oes angen llawer o ymdrech ar eu cyfer yn cynnig newidiadau i'r modd rydym yn defnyddio teclynnau yn ein cartref yn rheolaidd, ond fel arfer, nid oes unrhyw gostau'n gysylltiedig â nhw.
  • Gwelliannau sylfaenol i'r cartref – mae'r camau hyn yn amlinellu gwelliannau bach er mwyn helpu i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon. Fel arfer maent yn golygu bod angen gwario rhwng £10 a £150, ond unwaith y byddant wedi'u gosod, byddant yn ffordd dda o leihau biliau.
  • Gwelliannau mwy i'r cartref – mae'r camau hyn yn awgrymu newidiadau mwy i'ch cartref. Fel arfer, mae angen mwy o gostau ymlaen llaw ar gyfer y camau hyn ond byddant yn lleihau eich defnydd o ynni am flynyddoedd lawer i ddod.Mae rhai cartrefi (gan gynnwys rhentwyr preifat, tenantiaid tai cymdeithasol a pherchnogion tai) yn gymwys i gael amrywiaeth o grantiau ynni sy'n cwmpasu rhai o'r costau a delir ymlaen llaw. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael grantiau ar inswleiddio'r cartref neu osod boeler newydd.

Dewch o hyd i Dystysgrif Perfformiad Ynni eich cartref. Dylai eich cartref gael Tystysgrif Perfformiad Ynni, p'un a ydych yn berchen arno neu'n ei rentu. Dyma “basport” ynni eich cartref, ac mae'n dangos pa fesurau effeithlonrwydd ynni sydd gennych eisoes a beth y gellid ei wella. Mae'r dystysgrif yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am eich math o eiddo (e.e., p'un a yw eich waliau wedi cael eu hinswleiddio a ble y gellid gwella eich cartref).

Mae pob cartref yn unigryw ac mae'r defnydd o ynni a biliau yn dibynnu ar y math o gartref rydych yn byw ynddo, y teclynnau a'r systemau sydd gennych a sut rydych yn eu defnyddio.

‘Gosod ac anghofio’

Camau bach pob dydd

Gwelliannau sylfaenol i'r cartref

Pam y mae'n ddefnyddiol? Mae mesurydd deallus yn golygu y gallwch weld yn union faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio, ac mae'n rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich defnydd o ynni. Sut mae'n gweithio? Mae mesuryddion deallus yn olrhain eich defnydd o ynni f

Mae angen mwy o arian ymlaen llaw ar gyfer y gwelliannau mwy hyn i'r cartref ond gallant arwain at fwy o arbedion a lleihau eich biliau ynni.

Hefyd, yn ogystal â lleihau biliau, gall y gwelliannau hyn hefyd wella iechyd a llesiant. Gall uwchraddio eich cartref helpu i leihau lleithder, llwydni, drafftiau a phroblemau cyddwyso.

Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnig rhagor o gyngor ar gamau sy'n arwain at lawer o arbedion.

Rhagor o gyngor

Ewch i wefannau'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a National Energy Action i gael rhagor o gyngor ar fesurau arbed ynni.

Gall eich cyflenwr ynni helpu os byddwch yn cael anawsterau â'ch biliau nwy a thrydan. Gallwch gael grantiau a budd-daliadau eraill hefyd. Darllenwch ein canllawiau ar gael help os na allwch fforddio eich biliau ynni.