Cael help os na allwch fforddio eich biliau ynni

Gall eich cyflenwr ynni helpu os byddwch yn cael anawsterau â'ch biliau nwy a thrydan. Gallwch gael grantiau a budd-daliadau eraill hefyd. Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar eich sefyllfa

  1. Cytuno ar gynllun talu

    Cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch os ydych yn poeni am dalu eich biliau ynni neu os ydych mewn dyled i'ch cyflenwr.

    Bydd yn rhaid i gyflenwyr gydweithio â chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio o dan reolau Ofgem. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun rydych wedi cytuno arno o'r blaen.

    Gallwch ofyn am:

    • adolygiad o'ch taliadau a'ch ad-daliadau o ddyledion
    • seibiannau talu neu ostyngiadau 
    • mwy o amser i chi dalu
    • arian o gronfeydd caledi
    • cyngor ar sut i ddefnyddio llai o ynni
    • Cofrestriad Gwasanaeth â Blaenoriaeth – gwasanaeth cymorth am ddim os ydych mewn sefyllfa fregus.

    Os na allwch gytuno ar ffordd o dalu, gofynnwch i Cyngor am Bopeth neu Advice Direct Scotland am help. Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch mewn sefyllfa fregus. 

    Cyngor ar Bopeth

      • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
      • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.

    Advice Direct Scotland

  2. Gwirio cynlluniau, grantiau a budd-daliadau

    Gan gyflenwyr

    Mae llawer o gwmnïau ynni yn cynnig cynlluniau neu grantiau i helpu gyda chostau ynni a gwresogi cartref. Er enghraifft, drwy wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon neu drwy gynnig gwiriadau boeleri am ddim neu uwchraddio offer. Nid oes raid i chi fod yn gwsmer er mwyn ymuno â rhai o'r cynlluniau hyn.  

    Mae Cyngor ar Bopeth yn rhestru grantiau a gynigir gan gyflenwyr mwy o faint

    Siaradwch â'ch cyflenwr am grantiau a chynlluniau sydd ganddyn nhw hefyd. 

    Help gan y Llywodraeth

    Gallwch fod yn gymwys i gael y canlynol:

    Os ydych yn byw yng Nghymru a'r Alban;

    Gall Cynllun Tanwydd Uniongyrchol hefyd eich helpu i ad-dalu dyled o daliadau budd-daliadau. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith (neu eich canolfan bensiwn os ydych yn cael Credyd Pensiwn) i wneud cais.

    Mae'r Llywodraeth hefyd wedi sefydlu pecyn cymorth i helpu cartrefi â chostau ynni cynyddol yn 2023/24.

    Gan elusennau

    Mae gan Charis wybodaeth am grantiau a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.  

    Mae gan Turn2us gyfrifiannell budd-daliadau ac adnodd chwilio am grantiau i'ch helpu i gael gwybod pa gymorth y gallwch ei gael ynghyd ag adnoddau dod o hyd i gynghorydd. Mae ganddo wybodaeth am fudd-daliadau a gwybodaeth am help i dalu biliau ynni a dŵr.

  3. Cael cyngor ar ddyledion

    Gallwch gael cyngor ar reoli dyledion a chyllidebu drwy'r:

    Dechreuwch drwy weithio allan pa ddyledion sydd angen i chi ddelio â nhw gyntaf. 

    Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhai a all achosi problemau difrifol os na allwch wneud dim yn eu cylch. Maent yn cynnwys pethau fel eich biliau ynni, rhent neu forgais a'r dreth gyngor. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddyledion â blaenoriaeth a dyledion eraill ar wefan Cyngor ar Bopeth. Gall yr offeryn cyllidebu ar y wefan hefyd eich helpu i reoli eich arian.

    Cynllun Lle i Anadlu

    Cynllun am ddim gan y llywodraeth yw Lle i Anadlu (a elwir weithiau'n Gynllun Seibiant Dyledion), a allai gadw credydwyr draw am hyd at 60 diwrnod er mwyn i chi ganolbwyntio ar gael cyngor ar ddyledion a threfnu ffordd o'u talu.

    Os byddwch yn gwneud cais a'ch bod yn gymwys, hysbysir pob un o'r credydwyr a rhaid iddynt roi'r gorau i unrhyw weithgarwch casglu neu orfodi. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rheolaidd os gallwch fforddio gwneud hynny.

    Gall StepChange eich helpu i wneud cais

  4. Argymhellion eraill

    Newidiwch y dull talu ar gyfer eich biliau os gallwch chi. Mae Debyd Uniongyrchol fel arfer yn rhatach.

    Edrychwch i weld a allwch leihau costau drwy newid o'ch tariff ynni neu gyflenwr presennol.

    Defnyddiwch gyfrifiannell Simple Energy Advice i weld sut y gallwch wella eich effeithlonrwydd ynni. Gallwch hefyd ddysgu am gynlluniau a gaiff eu rhedeg gan eich cyngor lleol. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn cynnwys pethau fel gwresogi'r cartref, cael boeler newydd am ddim ac inswleiddio'r to.

    Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Cyngor ar Bopeth a National Energy Action hefyd gyngor defnyddiol ar ffyrdd o arbed ynni, lleihau defnydd a lleihau eich biliau ynni ar eu gwefannau.

    Gallwch hefyd ffonio Simple Energy Advice os ydych yng Nghymru neu yn Lloegr, neu Home Energy Scotland os ydych yn yr Alban.

    • Simple Energy Advice: 0800 444 202
    • Home Energy Scotland: 0808 808 2282

Cymorth pellach

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych yn ansicr o’ch opsiynau ac os oes angen rhagor o gymorth arnoch. Os ydych yn agored i niwed, gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol gymryd eich achos. 

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:

Yng Nghymru, ar gyfer cyngor ar ddyledion ac arian, gallwch hefyd gysylltu ag Advicelink Cymru.