Newid tariff neu gyflenwr ynni

Gall cymharu a newid cyflenwr neu dariff ynni wneud gwahaniaeth mawr i'ch biliau nwy a thrydan. Dilynwch y camau hyn i weld faint y gallwch ei arbed.

Sut i newid

  1. Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch

    Mae'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ganlynol:

    • Eich cod post.
    • Enw eich cyflenwr presennol.
    • Enw eich tariff ynni presennol.
    • Eich defnydd neu gostau ynni blynyddol.

    Mae eich tariff, eich cyflenwr a gwybodaeth flynyddol i'w gweld ar fil ynni diweddar. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein os nad ydych yn cael biliau papur.

    Os nad ydych yn siŵr am fanylion eich cyflenwad presennol, ewch i Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.

  2. Canfod tariffau a chyflenwyr

    Defnyddiwch wefan cymharu prisiau neu ffoniwch gyflenwyr ynni gwahanol i weld faint y gallwch ei arbed drwy newid. 

    Os byddwch yn canfod cynnig gwell yn rhywle arall, gallwch ofyn i'ch cyflenwr a fydd yn fodlon rhoi cynnig cyfatebol i chi.

    Gwefannau cymharu prisiau wedi'u hachredu gan Ofgem

    Mae'r gwefannau hyn yn bodloni ein cod ymarfer a byddant yn dangos ein dilysnod: Y Cod Hyder.

  3. Pwyso a mesur eich opsiynau

    Meddyliwch am bethau fel:

    • Gwasanaeth cwsmeriaid cyflenwr.
    • Ai'r cynnig hwn yw'r rhataf, yr un mwyaf ecogyfeillgar neu a yw'n cynnig hyblygrwydd i adael heb ffi gadael.
    • A allwch gael arian yn ôl neu gymhellion eraill am ddim fel rhan o'ch cynnig i newid.
    • A oes gwarant newid. Bydd rhai cyflenwyr yn cynnig hyn i'ch helpu i newid yn hyderus.
  4. Cadarnhau eich newid

    Y cam olaf yw cadarnhau eich contract a'ch dull o dalu. Bydd talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn arbed arian fel arfer. 

    Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi gyda dyddiad newid. Gall gymryd hyd at 21 diwrnod i gwblhau'r broses newid. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n cymryd tua 17 diwrnod.

    Os byddwch yn newid eich meddwl

    Bydd gennych 14 diwrnod i ganslo o'r dyddiad y byddwch yn cytuno ar gontract.

Help wrth newid

Galwadau gwerthu a gwerthwyr ar garreg y drws: ein hawgrymiadau

Ynni a gamwerthwyd a chysylltiadau gwerthu digroeso

Os byddwch o'r farn bod cynnig ynni wedi'i gam-werthu i chi, cysylltwch â'r cyflenwr i unioni hyn. Os nad ydych yn fodlon ar ei ymateb, gwnewch gwyn.

Os byddwch o'r farn eich bod wedi cael eich twyllo neu fod rhywun sy'n ceisio eich twyllo wedi cysylltu â chi:

  • Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch ei ffurflen ar-lein
  • Yn yr Alban, ffoniwch Heddlu'r Alban ar 101. 
  • Dylech bob amser ffonio 999 mewn argyfwng, os byddwch yn teimlo dan fygythiad neu'n anniogel.

I gael cyngor cyffredinol ar sut i reoli galwadau a negeseuon digroeso, ewch i wefan Ofcom.

I reoli llythyrau marchnata a gwerthu digymell, cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Post.

Gall y Swyddfa Safonau Masnach neu'r Gwasanaeth Safonau Masnach yng Nghymru roi cyngor ar drefnu ‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’ yn eich ardal leol.