Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal

Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl os bydd yn digwydd i chi.

Cyngor i gwsmeriaid busnes

Cwsmer ynni busnes? Darllenwch ein canllawiau a'n cymorth ar gyfer beth i'w wneud os bydd eich cyflenwr ynni busnes yn mynd i'r wal

Os yw eich cyflenwr wedi mynd i'r wal

  1. Cymerwch ddarlleniad mesurydd, arhoswch a pheidiwch â newid cyflenwr

    Byddwch yn parhau i symud i'ch cyflenwr dewisol os byddwch eisoes wedi dechrau ar y broses o newid cyflenwr.

  2. Arhoswch i Ofgem benodi cyflenwr newydd

    Nid oes angen i chi wneud dim. Ni fydd unrhyw beth yn tarfu ar eich cyflenwad ac ni ddylai gymryd mwy nag ychydig ddiwrnodau. Bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn diogelu eich cyflenwad ac unrhyw falans credyd. Os bydd Ofgem yn dod o hyd i gyflenwr newydd i chi, bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol. 

    Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i'r Llys benodi gweinyddwr i redeg eich cyflenwr presennol, yn hytrach na'ch symud i gyflenwr newydd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich cyflenwr presennol yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn ac yn esbonio beth sy'n digwydd – byddwch yn rhydd i newid i gyflenwr arall fel y dymunwch a chaiff eich balans credyd ei ddiogelu. 

  3. Pan fydd y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi

    Gofynnwch am gael eich rhoi ar ei dariff rhataf neu chwiliwch am y fargen orau a newidiwch gyflenwr os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

    Bydd hefyd yn esbonio'r ffordd y bydd yn rheoli balans eich cyfrif, yn cynnwys unrhyw ad-daliadau credyd. 

Cyflenwyr sydd wedi ymadael â'r farchnad yn ddiweddar a'r cyflenwyr sydd wedi cymryd drosodd

Aeth Bulb Energy i ddwylo gweinyddwyr cwmni cyflenwi ynni o dan Gyfundrefn Gweinyddu Arbennig ar 24 Tachwedd 2021. Mae'r broses arbennig hon yn diogelu gwasanaethau hanfodol a all fel arall gael eu torri pe bai prosesau ansolfedd arferol yn cael eu defnyddio. Mae Bulb yn gwasanaethu tua 1.6 miliwn o gwsmeriaid domestig a 12,000 o gwsmeriaid annomestig. Gweler ein canllawiau ar gyfer cwsmeriaid Bulb Energy

Pryd

Hen gyflenwr

Sail cwsmeriaid

Cyflenwr newydd

9 Gorffennaf UK Energy Incubator Hub (UKEIH)
  • 3000 domestig
Octopus Energy
18 Chwefror 2022 Whoop Energy
  • 50 domestig
  • 212 annomestig
Yü Energy Retail Limited
18 Chwefror 2022 Xcel Power Ltd
  • 274 annomestig
Yü Energy Retail Limited
18 Ionawr 2022 Together Energy (Retail) Ltd
  • 176,000 domestig
  • 1 annomestig
British Gas ers 24 Ionawr 2022
1 Rhagfyr 2021 Zog Energy Limited
  • 11,700 domestig
EDF ers 4 Rhagfyr 2021

25 Tachwedd 2021

Entice Energy

  • 5,400 domestig

Scottish Power ers 1 Rhagfyr 2021

25 Tachwedd 2021

Orbit Energy Limited

  • 65,000 domestig

Scottish Power ers 1 Rhagfyr 2021

16 Tachwedd 2021

Neon Reef Limited

  • 30,000 domestig

British Gas ers 21 Tachwedd 2021

16 Tachwedd 2021

Social Energy Supply Ltd

  • 5,500 domestig

British Gas ers 21 Tachwedd 2021

3 Tachwedd 2021

CNG Energy Limited

  • 41,000 annomestig

Pozitive Energy ers 7 Tachwedd 2021

2 Tachwedd 2021

Omni Energy Limited

  • tua 6,000
  • domestig

Utilita ers 7 Tachwedd 2021

2 Tachwedd 2021

MA Energy Limited

  • tua 300 annomestig

SmartestEnergy ers 7 Tachwedd 2021

2 Tachwedd 2021

Zebra Power Limited

  • tua 14,800 domestig

British Gas ers 7 Tachwedd 2021

2 Tachwedd 2021

Ampoweruk Ltd

  • tua 600 domestig
  • tua 2,000 annomestig

Yü Energy ers 7 Tachwedd 2021

1 Tachwedd 2021

Bluegreen Energy Services Limited

  • tua 5,900 domestig
  • annomestig

British Gas ers 7 Tachwedd 2021

18 Hydref

GOTO Energy

  • tua 22,000 domestig

Shell Energy ers 21 Hydref 2021

14 Hydref

Daligas

  • tua 9,000 domestig ac annomestig

Shell Energy ers 17 Hydref 2021

13 Hydref

Pure Planet

  • tua 235,000 domestig

Shell Energy ers 17 Hydref 2021

13 Hydref

Colorado Energy

  • tua 15,000 domestig

Shell Energy ers 17 Hydref 2021

29 Medi

ENSTROGA

  • tua 6,000 domestig

E.ON Next ers 3 Hydref 2021

29 Medi

Igloo Energy

  • tua 179,000 domestig

E.ON Next ers 3 Hydref 2021

29 Medi

Symbio Energy

  • tua 48,000 domestig
  • annomestig

E.ON Next ers 3 Hydref 2021

22 Medi

Avro Energy

  • tua 580,000 domestig

Octopus Energy ers 26 Medi 2021

22 Medi

Green Supplier Limited ('Green.')

  • tua 255,000 domestig
  • annomestig

Shell Energy ers 27 Medi 2021

14 Medi

People's Energy

  • tua 350,000 domestig
  • tua 1,000 annomestig

British Gas ers 19 Medi 2021

14 Medi

Utility Point

  • tua 220,000 domestig

EDF ers 18 Medi 2021

7 Medi

PFP Energy

  • 82,000 domestig
  • 5,600 annomestig

British Gas ers 11 Medi 2021

7 Medi

MoneyPlus Energy

  • tua 9,000 domestig

British Gas ers 11 Medi 2021

9 Awst

Hub Energy

  • tua 6,000 domestig
  • tua 9,000 annomestig

E.ON Next ers 13 Awst 2021

27 Ionawr

Green Network Energy

  • tua 360,000 domestig
  • annomestig

EDF ers dydd Sul 31 Ionawr 2021

27 Ionawr

Simplicity Energy

  • tua 50,000 domestig

British Gas Evolve ers 31 Ionawr 2021

Eich cyflenwad

Cofnodion cyfrif a darlleniadau mesurydd

Eich contract

Newid cyflenwr

Cyfrifon mewn dyled neu gredyd

Taliadau drwy ddebyd uniongyrchol

Cynlluniau'r llywodraeth a chynlluniau cymdeithasol

Cwynion a chysylltiadau

Rôl Ofgem

Darllenwch fwy am ein pwerau i ddiogelu defnyddwyr pan fydd cyflenwyr yn mynd i'r wal yn ein canllawiau.

Proses Cyflenwr Dewis Olaf Ofgem