Cael help os na allwch fforddio eich biliau ynni
Gall eich cyflenwr ynni helpu os byddwch yn cael anawsterau â'ch biliau nwy a thrydan. Gallwch gael grantiau a budd-daliadau eraill hefyd. Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Cymorth yn ystod y Coronafeirws (COVID-19)
Ni fydd cyflenwyr ynni yn datgysylltu eich nwy neu drydan os byddwch yn methu taliad ar hyn o bryd. Gofynnwch am 'gredyd brys' os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdalu na allwch ychwanegu credyd ato.
Ffoniwch eich cyflenwr os ydych yn poeni. Mae cyflenwyr wedi cytuno ar fesurau brys â'r Llywodraeth yn ystod y pandemig. Mae'r rhan fwyaf wedi ymrwymo hefyd i ymrwymiadau newydd a luniwyd ar y cyd ag Ofgem a chorff masnach y diwydiant Energy UK i'ch helpu y gaeaf hwn.
Mae gan Gadewch i ni Siarad wiriwr cymhwystra budd-daliadau. Mae'n cynnwys cyngor ar fudd-daliadau os yw'r coronafeirws yn effeithio arnoch.
-
Cytuno ar gynllun talu
Cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch os byddwch yn poeni am dalu eich biliau ynni.
Bydd yn rhaid i gyflenwyr gydweithio â chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio o dan reolau Ofgem. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun rydych wedi cytuno arno o'r blaen.
Gallwch ofyn am:
- adolygiad o'ch taliadau ac ad-daliadau dyled
- seibiannau talu neu ostyngiadau
- mwy o amser i dalu
- mynediad i gronfeydd caledi
- Cofrestru ar gyfer Gwasanaeth â Blaenoriaeth – gwasanaeth cymorth am ddim os ydych yn agored i niwed.
Os na allwch gytuno ar ffordd i dalu, gofynnwch i Cyngor am Bopeth am help. Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch mewn sefyllfa fregus.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
-
Gwirio cynlluniau, grantiau a budd-daliadau
Gan gyflenwyr
Mae llawer o gwmnïau ynni yn cynnig cynlluniau neu grantiau i helpu gyda chostau ynni a gwresogi cartref. Er enghraifft, drwy wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon neu drwy gynnig gwiriadau boeleri am ddim neu uwchraddio offer. Nid oes raid i chi fod yn gwsmer er mwyn ymuno â rhai o'r cynlluniau hyn.
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhestru grantiau a gynigir gan gyflenwyr mwy o faint.
Siaradwch â'ch cyflenwr am grantiau a chynlluniau sydd ganddyn nhw hefyd.
Gan y llywodraeth
Gallwch fod yn gymwys i gael y canlynol:
- Taliad Tanwydd Gaeaf – taliad tanwydd £100 i £300 i bobl a anwyd ar neu cyn 5 Hydref 1954.
- Taliad Tywydd Oer – taliad £25 am bob 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth.
- Gostyngiad Cartrefi Cynnes – gostyngiad o £140 i rai pobl sy'n cael Credyd Pensiwn neu i rai pobl mewn aelwydydd incwm isel.
- Cronfa Gymorth i Gartrefi – pecyn cyllid i helpu cartrefi sy'n agored i niwed y gaeaf hwn. Cysylltwch â'ch cyngor lleol am gyngor a help i fanteisio ar y gronfa.
Os ydych yn byw yng Nghymru a'r Alban;
- Cymorth Gwres y Gaeaf i Blant – taliad blynyddol o £202 fesul plentyn a pherson ifanc anabl dan 19 oed sy'n byw yn yr Alban.
- Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf – taliad blynyddol o £200 i gartrefi yng Nghymru sy'n cael rhai budd-daliadau.
Gall Cynllun Tanwydd Uniongyrchol hefyd eich helpu i ad-dalu dyled o daliadau budd-daliadau. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith (neu eich canolfan bensiwn os ydych yn cael Credyd Pensiwn) i wneud cais.
Mae gan Gadewch i ni Siarad wiriwr cymhwystra budd-daliadau. Mae'n cynnwys canllawiau ar fudd-daliadau os yw'r coronafeirws yn effeithio arnoch.
-
Cael cyngor ar ddyledion
Gallwch gael cyngor ar reoli dyledion a chyllidebu drwy'r:
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Llinell Ddyled Genedlaethol
Elusen Dyledion StepChange.Dechreuwch drwy weithio allan pa ddyledion sydd angen i chi ddelio â nhw yn gyntaf.
Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhai a all achosi problemau difrifol os na allwch wneud dim yn eu cylch. Maent yn cynnwys pethau fel eich biliau ynni, rhent neu forgais a'r dreth gyngor. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddyledion â blaenoriaeth a dyledion eraill ar wefan Cyngor ar Bopeth. Gall yr offeryn cyllidebu ar y wefan hefyd eich helpu i reoli eich arian.
Cynllun Lle i Anadlu
Cynllun am ddim gan y llywodraeth yw Lle i Anadlu (a elwir weithiau'n Gynllun Seibiant Dyledion), a allai gadw credydwyr draw am hyd at 60 diwrnod er mwyn i chi ganolbwyntio ar gael cyngor ar ddyledion a threfnu ffordd o'u talu.
Os byddwch yn gwneud cais a'ch bod yn gymwys, hysbysir pob un o'r credydwyr a rhaid iddynt roi'r gorau i unrhyw weithgarwch casglu neu orfodi. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rheolaidd os gallwch fforddio gwneud hynny.
-
Argymhellion eraill
Edrychwch i weld a allwch leihau costau drwy newid o'ch tariff ynni neu gyflenwr presennol.
Newidiwch y dull talu ar gyfer eich biliau os gallwch chi. Mae Debyd Uniongyrchol fel arfer yn rhatach.
Defnyddiwch gyfrifiannell Simple Energy Advice i weld sut y gallwch wella eich effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys y Fargen Werdd. Gallwch hefyd ddysgu am gynlluniau a gaiff eu rhedeg gan eich cyngor lleol. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn cynnwys pethau fel gwresogi'r cartref, cael boeler newydd am ddim ac inswleiddio'r to.
Gallwch hefyd ffonio Simple Energy Advice os ydych yng Nghymru neu'n Lloegr, neu Home Energy Scotland os ydych yn yr Alban.
- Simple Energy Advice: 0800 444 202
- Home Energy Scotland: 0808 808 2282
Cymorth pellach
Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os nad ydych yn siŵr beth yw'ch opsiynau a bod angen mwy o gymorth arnoch chi. Os ydych yn rhywun sy'n agored i niwed, gallai rhywun yn yr Uned Cymorth Ychwanegol ddelio â'ch achos.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.