Canllaw i ddefnyddwyr Economy 7

Canllaw ar dariff trydan Economy 7 sy'n cynnig cyfraddau rhatach yn ystod oriau allfrig a chyfraddau drutach yn ystod oriau brig.

Beth yw Economy 7?

Tariff trydan yw Economy 7 sy'n cynnig cyfraddau rhatach yn ystod oriau allfrig a chyfraddau drutach yn ystod oriau brig.

Gan ddibynnu pryd yn ystod y diwrnod rydych yn defnyddio trydan fwyaf, gall tariff Economy 7 eich helpu i arbed arian.

Er enghraifft, os oes gennych wresogydd stôr neu gerbyd trydanol y byddwch yn ei wefru yn ystod oriau allfrig yna mae'n bosibl y byddai tariff Economy 7 yn eich helpu i arbed arian.

Sut mae Economy 7 yn gweithio?

Gyda thariff Economy 7, codir cyfraddau gwahanol arnoch am eich defnydd o drydan yn ystod oriau brig ac oriau allfrig.

Bydd eich cyflenwr yn nodi saith awr allfrig y tariff wrth i chi gofrestru ar ei gyfer. Mae'r oriau hyn fel arfer yn rhedeg rhwng hanner nos a 7am, ond gallant amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad a'ch cyflenwr.

Mae cartrefi sydd â thariff Economy 7 yn defnyddio mesurydd trydan dwy gyfradd (neu ‘gyfradd ddeuol’) sy'n cofnodi eu defnydd o drydan yn ystod oriau brig ac oriau allfrig ar wahân.

Economy 7 a'r Cap ar Bris Ynni

Mae'r Cap ar Brisiau Ynni yn pennu'r pris uchaf y gall cyflenwyr ei godi ar gyfer pob awr cilowat (kWh) o ynni a ddefnyddir gan gwsmeriaid. Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint o KWh o ynni rydych yn ei ddefnyddio.

Mae'r Cap ar Brisiau yn tybio bod 42% o'r defnydd o ynni yn cael ei weithredu yn ystod y cyfnod allfrig ar gyfer tariff Economy 7, felly mae'n bosibl y byddai rhai cwsmeriaid yn arbed arian gydag Economy 7 drwy ddefnyddio mwy o ynni yn ystod yr oriau allfrig yn hytrach na'r oriau brig.

Fodd bynnag, os nad ydych yn defnyddio llawer o ynni yn ystod y nos mae'n bosibl y byddai tariff cyfradd sengl yn well i chi.

A ddylwn newid?

Mae rhai cyflenwyr yn parhau i gynnig tariff Economy 7. Gall eu prisiau ar gyfer cyfraddau allfrig a chyfraddau brig amrywio, ar yr amod nad yw'r gyfradd gyfartalog yn uwch na'r Cap ar Bris Ynni.

Felly, os byddwch yn defnyddio llawer o ynni yn ystod y nos mae'n bosibl y byddai o werth i chi chwilio am y fargen orau. Er enghraifft:

  • os oes gennych gerbyd trydanol (EV) neu
  • os ydych yn defnyddio gwresogydd storio trydan.

Os ydych eisoes ar dariff Economy 7 ond nad ydych yn defnyddio gwresogyddion stôr, neu'n defnyddio trydan am reswm arall yn ystod y nos, yna mae'n debygol y byddai cynnig arall yn fwy addas i chi.

Darllen eich mesurydd a gwirio eich tariff

Gwnewch yn siŵr bod gennych fesurydd Economy 7 (neu fesurydd deallus a all gynnig gwahanol gyfraddau yn ystod gwahanol gyfnodau) os ydych ar dariff Economy 7 ar hyn o bryd.

Efallai bod nifer fach o gwsmeriaid wedi cael mesurydd Economy 7 ond ei fod wedi cael ei symud, ond eu bod wedi parhau ar dariff Economy 7. Byddai hyn yn golygu y gallant ond defnyddio'r gyfradd yn ystod y dydd. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch cyflenwr.