Gallwch gael help gan eich cyflenwr - Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim sy'n sicrhau bod help ychwanegol ar gael i bobl sydd mewn sefyllfa fregus.

  1. Cadarnhewch a ydych yn gymwys

    Rydych yn gymwys:

    • os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
    • os ydych yn anabl neu â chyflwr meddygol hirdymor
    • os ydych yn gwella ar ôl anaf
    • os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich golwg
    • os oes gennych gyflwr iechyd meddwl
    • os ydych yn feichiog neu os oes gennych blant ifanc
    • os oes gennych anghenion cyfathrebu ychwanegol (er enghraifft os nad ydych yn siarad na darllen Cymraeg na Saesneg yn dda)
    • os oes angen i chi ddefnyddio cyfarpar meddygol sy'n defnyddio cyflenwad pŵer
    • os nad oes gennych lawer o synnwyr arogleuo os o gwbl
    • os byddech yn cael trafferth ateb y drws neu gael help mewn argyfwng.

    Efallai y gallwch gofrestru o hyd am resymau eraill os nad yw eich sefyllfa wedi'i rhestru. Er enghraifft, os bydd angen cymorth byrdymor arnoch ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. 

  2. Sut i gofrestru

    Bydd cyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith yn cadw Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Os ydych o'r farn y dylech gael eich ychwanegu at un o'r rhain cysylltwch â’ch cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.

    Rhowch eich manylion cyswllt iddo ynghyd â chymaint o wybodaeth ag y bo modd am eich anghenion. 

    Gall eich cyflenwr drosglwyddo eich manylion i'ch gweithredwr rhwydwaith er mwyn iddo eich ychwanegu chi at ei gofrestr hefyd. Mae'n syniad da gofyn iddo wneud hyn os ydych yn dibynnu ar eich cyflenwad ynni am resymau meddygol. 

    Os oes gennych gyflenwr gwahanol ar gyfer eich nwy a'ch trydan, mae angen i chi gysylltu â'r ddau ohonynt.

    Bydd angen i chi gofrestru eto ag unrhyw gyflenwr newydd os byddwch yn newid cyflenwr. 

  3. Yr help y gallwch ei gael

     

    • Pryd bynnag y bo'n bosibl, dylid rhoi rhybudd ymlaen llaw o doriadau trydan wedi'u cynllunio.Os ydych yn dibynnu ar eich cyflenwad ynni am resymau meddygol, gall eich gweithredwr rhwydwaith roi gwybod i chi am unrhyw doriadau trydan wedi'u cynllunio. Er enghraifft, pan fydd yn bwriadu gwneud gwaith peirianyddol.
    • Cymorth â blaenoriaeth mewn argyfwng.
    • Cymorth â blaenoriaeth wrth ffonio eich gweithredwr rhwydwaith.
    • Cynllun adnabod a chyfrinair. Gallai hyn gynnwys trefnu cyfrinair neu gytuno ar gardiau llun os bydd angen i unigolion ymweld â chi neu gysylltu â chi. Fel hyn, gallwch deimlo'n hyderus eu bod yn ddilys. 
    • Cynllun enwebai. Gallwch enwebu rhywun i gael gohebiaeth a biliau gan eich cyflenwr. Er enghraifft, aelod o'r teulu, gofalwr neu rywun rydych yn ymddiried ynddo.
    • Help i allu cyrraedd mesurydd rhagdalu. Er enghraifft, symud mesurydd rhagdalu os na allwch ei gyrraedd yn ddiogel er mwyn ychwanegu credyd ato.
    • Gwasanaethau darllen mesurydd rheolaidd. Er enghraifft, os na all neb ddarllen eich mesurydd.
    • Gwybodaeth hygyrch. Er enghraifft, gwybodaeth am gyfrifon a biliau mewn print bras neu mewn braille.
    • Help i ailgysylltu eich cyflenwad nwy, os bydd ei angen arnoch.

     

    Gallai cyflenwyr a gweithredwyr rhwydwaith gynnig gwasanaethau cymorth eraill. Gofynnwch iddynt sut y gallant eich helpu. 

  4. Gwasanaethau cymorth tebyg

    Gall cyflenwyr gynnig archwiliadau diogelwch nwy yn rhad ac am ddim bob 12 mis. Galwch ofyn am gael archwiliad diogelwch os ydych yn cael budd-dal yn seiliedig ar brawf modd a bod un o'r rhain yn berthnasol:

      • rydych yn byw gyda phlentyn dan bump oed
      • rydych yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill ac wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
      • rydych yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill ac rydych yn anabl neu mae gennych salwch cronig
      • rydych yn byw gyda phobl eraill sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth neu sy'n anabl, sydd â salwch cronig, neu sydd o dan 18 mlwydd oed. 

    Fel arfer, mae landlordiaid yn gyfrifol am gadw eich cyfarpar nwy yn ddiogel os nad ydych yn berchen ar eich cartref eich hun. Ceir rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau landlordiaid ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.  

    Mae gwasanaethau am ddim sy'n debyg i'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth ar gael yn y sector dŵr, y sector telathrebu a'r sector trafnidiaeth gyhoeddus. Holwch eich cyflenwr amdanynt. 

Help gyda biliau ynni uchel

Os ydych yn cael trafferth talu am ynni neu'n credu y gallech gael anhawster, cysylltwch â'ch cyflenwr. Darllenwch wybodaeth am sut i gael gafael ar eich cyflenwr.

Gwyddom y bydd y cynnydd yn y Cap ar Brisiau Ynni a achosir gan ffactorau ynni byd-eang yn peri pryder mawr i lawer o bobl. Rydym yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i sicrhau na fydd defnyddwyr yn talu mwy na'r hyn sydd ei angen ac yn cael eu cefnogi gan gyflenwyr sut bynnag y bo modd.

Mae ein rheolau'n golygu bod yn rhaid i gyflenwyr gynnig cynlluniau talu y gallwch eu fforddio a gallwch ofyn am ‘gredyd brys’ os byddwch yn defnyddio mesurydd rhagdalu ac na allwch ychwanegu credyd.

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Cymorth Biliau Ynni i helpu pobl i ddelio â biliau sy'n codi.

Mae gan Turn2us adnodd gwirio cymhwysedd ar gyfer grantiau a budd-daliadau a gall eich helpu drwy'r broses gwneud cais.

Cael help gan un o wirfoddolwyr y GIG