Dod o hyd i'ch cyflenwr ynni

Gwybod pryd a sut i gysylltu â'ch cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.

Pwy y dylech gysylltu â nhw 

Efallai y bydd angen i chi gysylltu naill ai â'ch cyflenwr ynni (y cwmni sy'n darparu eich ynni) neu'ch gweithredwr rhwydwaith (y cwmni sy’n gyfrifol am y pibellau a'r gwifrau sy'n cario trydan a nwy). 

Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni: 

  • os oes gennych gwestiynau am eich bil 
  • os hoffech wneud cwyn i'ch cyflenwr 
  • os ydych yn symud allan o'ch eiddo 

Cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith

Dod o hyd i gyflenwr nwy neu drydan

Os oes gennych fil ynni diweddar neu gyfrif ar-lein, dylech allu dod o hyd i fanylion cyswllt eich cyflenwr ynni cyfredol yma.

Pwy yw fy nghyflenwr trydan?

Os nad oes gennych fil trydan diweddar, bydd angen i chi yn gyntaf ganfod pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith, ac yna gofyn iddo am fanylion eich cyflenwr. Dilynwch y camau hyn:

  1. ewch i adnodd chwilio'r Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni
  2. rhowch eich cod post
  3. cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith lleol i gael manylion eich cyflenwr

Gallwch hefyd gael gwybod eich Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd (MPAN) trydan, sy'n dweud wrth eich cyflenwr ynni ble mae eich mesurydd a rhif eich cyflenwad trydan.

Pwy yw fy nghyflenwr nwy?

Gall y Gwasanaeth Gweinyddu Pwynt Mesurydd ddweud wrthych pwy yw eich cyflenwr nwy.

Gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio ei adnodd chwilio ar-lein Find My Supplier  
  • ei ffonio ar 0870 608 1524 (codir tâl o 7c y funud, ynghyd â thâl mynediad eich cwmni ffôn ar gyfer galwadau i'r rhif hwn)
  • cael gwybod eich Rhif Cyfeirnod Pwynt Mesurydd (MPRN), sy'n dweud wrth eich cyflenwr ynni ble mae eich mesurydd a rhif eich cyflenwad nwy.