Egluro'r cap ar brisiau ynni

Cyfyngiad ar y pris y mae pobl yn ei dalu am eu hynni yw'r cap ar brisiau ynni. Mae'r cap ar brisiau wedi'i ddisodli gan y Warant Pris Ynni fel y cap ar brisiau ynni defnyddwyr hyd at fis Ebrill 2024.

Beth yw'r cap ar brisiau ynni?

Mae'r cap ar brisiau ynni yn pennu'r pris uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr ar gyfer pob awr cilowat (kWh) o ynni a ddefnyddir ganddynt. Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.

Amddiffyniad y llywodraeth yw'r cap, a gaiff ei gyfrifo gan Ofgem. Yn Ofgem, rydym yn rheoleiddio cyflenwyr ynni, ond nid ydym yn rheoleiddio'r sector cynhyrchu olew a nwy. Mae'r cap yn sicrhau bod cap ar yr elw a wneir gan gyflenwyr ynni.

Mesur ychwanegol dros dro yw'r warant pris ynni, i amddiffyn defnyddwyr rhag y cynnydd sylweddol diweddar mewn prisiau nwy cyfanwerthol. Sefydlwyd y warant ar 1 Hydref 2022 a bydd hyn para hyd at fis Ebrill 2024. Mae'n golygu y bydd defnyddwyr yn talu llai am eu hynni nag y byddent yn ei wneud o dan y cap ar brisiau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Warant Pris Ynni ar y Daflen ffeithiau cymorth biliau ynni – GOV.UK (www.gov.uk).
 

Pam mae cap ar brisiau?

Mae cwsmeriaid nad ydynt yn chwilio am y fargen orau ac sy'n aros ar dariff ynni diofyn sylfaenol eu cyflenwr dan anfantais yn y farchnad ynni.  

Caiff y cap ar brisiau ei gymhwyso i gwsmeriaid sydd ar dariff ynni diofyn, p'un a ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, credyd safonol, mesurydd rhagdalu, neu fesurydd Economy 7 (E7). Mae'r cap yn sicrhau bod prisiau ar gyfer cwsmeriaid sydd ar dariffau ynni diofyn yn deg ac yn adlewyrchu costau.  

Sut y caiff y cap ar brisiau ynni ei bennu?

Ni all cyflenwyr godi swm mwy arnoch am bob awr cilowat (kWh) na’r cap a bennir gennym a byddwn yn monitro cyflenwyr i sicrhau bod eu cyfraddau tariff diofyn yn cydymffurfio.

Dyma rai enghreifftiau o'r pethau rydym yn eu cynnwys wrth gyfrifo'r cap ar brisiau:

  • Costau ynni cyfanwerthu. Dyma'r swm y bydd cyflenwyr yn ei dalu am yr ynni a gyflenwir ganddynt i ddefnyddwyr.
  • Costau rhwydwaith. Mae'r rhain yn ymwneud ag adeiladu a chynnal y rhwydweithiau ynni sy'n cludo ynni i gartrefi defnyddwyr.
  • Costau polisi. Mae'r rhain yn ymwneud â chynlluniau'r llywodraeth i arbed ynni, lleihau allyriadau a hyrwyddo ynni adnewyddadwy.
  • Costau gweithredu cyflenwyr
  • TAW: Ychwanegir 5% o dreth at lefel y tariff.

Rydym yn cyfrifo'r cap ar brisiau gan ddefnyddio defnyddiwr domestig nodweddiadol gyda defnydd canolig o ynni. Rhagor o wybodaeth am ddefnydd ynni cyfartalog.

Nid yw'r cap ar brisiau yn capio cyfanswm eich bil, a fydd yn newid yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Bydd y ffordd rydych yn talu am eich ynni, ble rydych chi'n byw, eich math o fesurydd, ynghyd â'ch defnydd yn effeithio ar eich bil ynni.

Rydym yn diweddaru'r lefel bob tri mis er mwyn adlewyrchu chwyddiant a newidiadau mewn costau sylfaenol.

Cyfnod y Cap ar Brisiau

Dyddiad cyhoeddi 
01/04/23 - 30/06/23  27/02/2023 
01/07/23 - 30/09/23 

26/05/2023

01/10/23 - 31/12/23  25/08/2023 

Beth sy’n digwydd i filiau tanwydd?

Ar hyn o bryd, mae prisiau nwy yn anwadal, sy'n effeithio ar bawb ledled y byd. O ganlyniad, mae'r swm y mae cyflenwyr yn ei dalu i brynu ynni ar y farchnad gyfanwerthu wedi codi'n gyflym.

Ac am fod nwy yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan, mae hyn yn gwthio biliau trydan manwerthu i fyny ynghyd â biliau nwy manwerthu.

Beth mae Ofgem yn ei wneud?

Rhan o'n dyletswydd fel rheoleiddiwr yw gweithio i chi fel talwr biliau. Mae ein harbenigwyr yn gwylio'r farchnad ac yn gweithio i bennu cap teg ar brisiau sy'n adlewyrchu'r sefyllfa fyd-eang.

Mae'r llywodraeth hefyd yn gwneud ei rhan i gyflwyno cynllun cefnogi'r biliau ynni newydd a'r warant pris ynni.

Rydym hefyd yn gwneud pethau eraill i sefydlogi'r farchnad dros y tymor hwy er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar nwy a helpu i ddiogelu cwsmeriaid rhag ergydion pris tebyg yn y dyfodol. Am ragor o wybodaeth, gweler:

-    Ad-daliad Biliau Ynni: Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu helpu o ran biliau cynyddol
-    Cyngor a gwasanaethau os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau ynni

I gael rhagor o wybodaeth am y Warant Pris Ynni, darllenwch y daflen ffeithiau ar filiau ynni - GOV.UK (www.gov.uk).

Bydd y cap ar brisiau ynni yn parhau i gael ei gyfrifo ac mae'n nodi beth y byddai defnyddwyr tariff diofyn yn ei dalu pe na fyddai'r Warant Pris Ynni yn bodoli.

Gwarant Pris Ynni

Er mwyn helpu i ddiogelu defnyddwyr, cyhoeddodd y Llywodraeth y Warant Pris Ynni a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2022.

Bydd hyn yn lleihau cost trydan a nwy fesul uned fel y byddai cartrefi â defnydd nodweddiadol o ynni ym Mhrydain Fawr yn talu, ar gyfartaledd, tua £2,500 y flwyddyn ar eu bil ynni hyd at 31 Mawrth 2023 a thua £3,000 y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024. Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar gartref sydd â defnydd nodweddiadol ar fil trydan a nwy deuol a delir drwy ddebyd uniongyrchol.

Bydd y swm a dalwch yn dibynnu ar faint o ynni y byddwch yn ei ddefnyddio, ble rydych yn byw, faint rydych yn ei dalu am ynni, a'ch trefniant o ran eich mesurydd.

Cwsmer â defnydd nodweddiadol, sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol* 

Mae'r tabl isod yn dangos y cyfraddau cyfartalog wedi'u capio ar gyfer cwsmer sydd â defnydd nodweddiadol sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol ar dariff diofyn.

 

Gwarant Pris Ynni - O 1 Hydref 2022

Trydan 

£0.34 fesul kWh
Tâl sefydlog dyddiol: £0. 46

 Nwy

£0.10 fesul kWh
Tâl sefydlog dyddiol: £0. 28

*Cyfraddau cyfartalog a nodir a byddant yn amrywio yn ôl rhanbarth, dull o dalu a math o fesurydd. Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybodaeth wedi'i phersonoli.

Taliadau Sefydlog 

Bydd taliadau sefydlog cyfartalog ar gyfer cwsmeriaid ar dariffau diofyn yn parhau i fod wedi'u capio yn unol â'r lefelau a bennir ar gyfer y cap tariff diofyn ar gyfer cwsmer tanwydd deuol nodweddiadol sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol.

Ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau ynni?

Os ydych chi'n poeni neu'n cael trafferth talu eich biliau ynni, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl. Rydym yn gweithio'n agos gyda chwmnïau ynni i sicrhau eu bod yn eich helpu sut bynnag y bo modd. Mae ein rheolau'n golygu y gallwch ofyn am gytuno ar gynlluniau ad-dalu a gallech fod yn gymwys i gael help ychwanegol gyda'ch gwasanaethau neu filiau ynni.