Search

Egluro'r cap ar brisiau ynni

Y cap ar brisiau ynni yw'r swm uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi arnoch fesul uned o ynni a thâl sefydlog os ydych chi ar dariff amrywiol safonol.

Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2026, bydd y cap ar brisiau ynni yn cael ei osod ar £1,641 y flwyddyn ar gyfer cartref nodweddiadol sy'n defnyddio nwy a thrydan ac yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae hyn yn ostyngiad o 6.6% gymharu â'r cap a osodwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2026 (£1,758).

Mae'r cap ar brisiau yn seiliedig ar ddefnydd ynni cartref nodweddiadol. Darllenwch sut y caiff defnydd ynni cartref nodweddiadol ei gyfrifo yn ein canllawiau ar Ddefnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd.

Mae'r cap ar brisiau hefyd yn sicrhau bod y prisiau i bobl ar dariff amrywiadwy safonol (tariff diofyn) yn deg a'u bod yn adlewyrchu cost ynni.

Mae cap ar bris eich contract os ydych yn talu am eich trydan a nwy drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • credyd safonol (gwneir y taliad pan fyddwch yn cael eich bil trydan a nwy)
  • Debyd Uniongyrchol
  • mesurydd rhagdalu
  • Mesurydd Economi 7 (E7)

Prisiau uned a thaliadau sefydlog trydan a nwy, 1 Ebrill i 30 Mehefin 2026

 

Cap ar brisiau ynni fesul uned a'r tâl sefydlog  

1 Ionawr i 31 Mawrth 2026

Cap ar brisiau ynni fesul uned a'r tâl sefydlog  

1 Ebrill i 30 Mehefin 2026

Trydan  

 27.69 ceiniog fesul kWh  

Tâl sefydlog dyddiol o 54.75 ceiniog

 24.67 ceiniog fesul kWh  

Tâl sefydlog dyddiol o 57.21 ceiniog 

Nwy  

 5.93 ceiniog fesul kWh  

Tâl sefydlog dyddiol o 35.09 ceiniog

 5.74 ceiniog fesul kWh  

Tâl sefydlog dyddiol o 29.09 ceiniog 

Caiff y ffigurau eu talgrynnu i ddau le degol ac maent yn seiliedig ar y cyfartaledd ar gyfer pobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys 5% o TAW.

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni eich rhanbarth

Bydd yr union gyfradd a godir arnoch am bob uned yn dibynnu ar lle rydych chi'n byw, sut rydych yn talu eich bil a'r math o fesurydd sydd gennych. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth

Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau ynni

Mae gwahanol gostau wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau. Bydd unrhyw newidiadau i'r costau hyn yn effeithio ar swm y cap ar brisiau ynni pan gaiff ei adolygu. Er enghraifft, os bydd swm yr hyn sy'n rhaid i gyflenwr ei dalu yn cynyddu, bydd lefel y cap ar brisiau yn cynyddu. Os bydd y gost yn gostwng, bydd lefel y cap ar brisiau yn gostwng.

Mae'r costau wedi cael eu talgrynnu ac mae'n bosibl nad ydynt yn gyfwerth â'r cyfanswm.

Darllenwch sut y mae'r costau wedi newid ar bob lefel y cap ar brisiau

Darllenwch am y costau sy'n rhan o'r tâl sefydlog a'r costau sydd wedi'u cynnwys.

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2026, talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Cost Ionawr i Fawrth 2026 Ebrill i Fehefin 2026  Newid  
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu) £690 £652 -£38
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith) £397 £463 £66 
Costau busnes y cyflenwr (costau gweithredu, dyled a chostau diwydiant) £279 £275 -£5
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi) £236 £106 -£130
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £44 £42 -£1
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd) £18 £16 -£3
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)  £10 £9 -£0
TAW (5%) £84 £78 -£6
Cyfanswm  £1,758 £1,641 -£117  

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2026, talu drwy fesurydd rhagdalu

Cost  Ionawr i Fawrth 2026  Ebrill i Fehefin 2026  Newid  
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu) £690 £652 -£38
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith) £392 £457 £65
Costau busnes y cyflenwr (costau gweithredu, dyled a chostau diwydiant) £305 £301 -£2
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi) £236 £106 -£130
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £44 £43 -£1
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £19 £16 -£3
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)  -£56 -£54 £1
TAW (5%) £81 £76 -£5
Cyfanswm  £1,711 £1,597 -£114

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2026, talu drwy gredyd safonol

Cost Ionawr i Fawrth 2026 Ebrill i Fehefin 2026 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu) £690 £652 -£38
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)   £397 £463 £66
Costau busnes y cyflenwr (costau gweithredu, dyled a chostau diwydiant) £415 £405 -£10
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi) £236 £106 -£130
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £45 £44 -£1
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd) £20 £18 -£3
TAW (5%) £90 £84 -£6
Cyfanswm  £1,894 £1,772 -£122

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2026, talu drwy tariff Economy 7 (Ddebyd Uniongyrchol)

Cost Ionawr i Fawrth 2026  Ebrill i Fehefin 2026  Newid  
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £485 £482 -£2
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith) £251 £276 £25
Costau busnes y cyflenwr (costau gweithredu, dyled a chostau diwydiant) £150 £146 -£5
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi) £241 £111 -£130
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £26 £25 -£1
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd) £13 £11 -£2
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu) £5 £4 -£0
TAW (5%) £59 £53 -£6
Cyfanswm £1,229 £1,108 -£121

Rydym yn monitro cyflenwyr i sicrhau nad yw cyfraddau tariff amrywiol safonol (tariff diofyn) yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a osodir gan y cap ar brisiau ynni.

Dyddiadau lefel y cap ar brisiau ynni

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis. Bydd y lefelau ar gyfer y cyfnodau nesaf yn cael eu cyhoeddi erbyn: 

  • 27 Mai 2026 – cyfnod o 1 Gorffennaf 2026 i 30 Medi 2026
  • 26 Awst 2026 – cyfnod o 1 Hydref 2026 i 31 Rhagfyr 2026
  • 25 Tachwedd 2026 – cyfnod o 1 Ionawr 2027 i 31 Mawrth 2027