Hawlio iawndal am faterion cyflenwad ynni

Mae'n bosibl y gallwch hawlio iawndal os byddwch yn cael problemau â'ch cyflenwad ynni.

Cadarnhewch a ydych yn gymwys i gael iawndal

Cwmnïau rhwydwaith sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cyflenwad grid a thrwsio toriadau yn y pŵer. 

Efallai y byddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad trydan neu nwy yn diffodd. Mae'r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar p'un a oedd y toriad yn y cyflenwad wedi'i gynllunio, yr hyd y gwnaeth barhau, neu ai'r cwmni rhwydwaith oedd ar fai ai peidio.

Mae gwefan Powercut 105 hefyd yn esbonio beth i'w wneud yn ystod toriad yn y cyflenwad.

Os bydd eich cyflenwad wedi'i dorri oherwydd mesurydd ynni diffygiol neu os byddwch yn rhedeg allan o gredyd yn eich mesurydd rhagdalu, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni.

Iawndal ar gyfer toriadau yn y pŵer mewn tywydd arferol

Mae gan eich cwmni rhwydwaith lleol naill ai 12 awr neu 24 awr i adfer cyflenwadau os caiff eich pŵer ei dorri. Mae'r amser y bydd yn ei gymryd yn dibynnu ar faint o gartrefi yr effeithiwyd arnynt gan un nam.

Toriad yn y cyflenwad mewn llai na 5,000 o gartrefi

Os bydd eich cyflenwad wedi torri am 12 awr neu fwy, gallwch hawlio £95 fel cwsmer domestig neu £180 fel cwsmer annomestig.

Gallwch gael £40 pellach am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb gyflenwad.

Toriad yn y cyflenwad i fwy na 5,000 o gartrefi

Os bydd eich cyflenwad wedi torri am 24 awr neu fwy, gallwch hawlio £95 fel cwsmer domestig neu £180 fel cwsmer annomestig.

Gallwch gael £40 yn fwy am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb drydan, hyd at gyfanswm o £360.

Os bydd toriad yn eich cyflenwad fwy na phedair gwaith mewn blwyddyn, am o leiaf dair awr ar bob achlysur, gallwch hawlio £95 arall fel cwsmer domestig neu annomestig. 

Mae'r flwyddyn yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth.

Iawndal am doriadau yn y pŵer mewn tywydd difrifol

Mae lefel eich iawndal yn dibynnu ar gategori'r tywydd difrifol a hyd eich diffyg cyflenwad pŵer.

Storm categori 1

Gallwch hawlio £85 am doriad yn eich pŵer sy'n para 24 awr. 

Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio.

Storm categori 2

Gallwch hawlio £85 am doriad yn eich pŵer sy'n para 48 awr. 

Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio. 

Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd y toriad yn y cyflenwad yn digwydd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.

Iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd

Os byddwch wedi cael gwybod gan eich gweithredwr rhwydwaith lai na saith diwrnod cyn i'ch cyflenwad nwy gael ei ddiffodd, gallwch hawlio £50 fel cwsmer domestig. Gallwch hawlio £120 fel cwsmer annomestig.

Os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd heb unrhyw rybudd, gallwch hawlio £70 fel cwsmer domestig a £120 fel cwsmer annomestig am bob 24 awr y bydd eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd. 

Gallwch hawlio mwy o iawndal os bydd eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd am fwy na 24 awr. Mae'r swm yn cynyddu yn dibynnu ar ba mor hir y mae eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd.

Os yw eich cartref wedi'i gynnwys ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich rhwydwaith, gallwch gael cymorth ychwanegol os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd. Mae gennych hawl i gael iawndal ychwanegol os na fydd eich darparwr rhwydwaith yn darparu gwasanaethau eraill i chi. Darllenwch sut i gynllunio ar gyfer toriad yn y cyflenwad.

Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i doriadau mewn cyflenwad heb eu cynllunio, neu o fewn mis i doriadau mewn cyflenwad wedi'u cynllunio lle na roddwyd rhybudd i chi. 

Gallwch hawlio drwy eich cwmni rhwydwaith lleol.

Ein rôl

Os bydd problemau'n codi, byddwn am sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu hadfer yn gyflym. 

Byddwn yn monitro pa mor dda y mae cwmnïau rhwydwaith yn gwneud hyn a pha mor dda y maent wedi paratoi i ddelio ag effeithiau ar y rhwydwaith.

Os byddwn o'r farn nad yw cwmnïau yn bodloni eu rhwymedigaethau i gwsmeriaid, byddwn yn gweithredu.