Ein bwrdd a'n cyfarwyddwyr
Bywgraffiadau ein bwrdd yr Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA) a chyfarwyddwyr yr Uwch-bwyllgor Gweithredol.
Aelodau'r bwrdd
Mark McAllister
Penodwyd Mark McAllister yn Gadeirydd ein bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd.
Cyn hynny, Mark oedd Cadeirydd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a gwasanaethodd ar Bwyllgor Rheoli Fforwm y Cadeiryddion Cyhoeddus. Mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi gweithredol yn y diwydiant ynni a dyfarnwyd Doethuriaeth Dechnoleg er Anrhydedd iddo yn 2009 am wasanaethau yn y diwydiant olew.
Mae wedi gweithio mewn nifer o rolau anweithredol yn y sector elusennau ac ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Oasis.
Jonathan Brearley
Jonathan Brearley yw ein Prif Swyddog Gweithredol ers mis Chwefror 2020 a chafodd ei ailbenodi am bum mlynedd arall yn 2025. Mae'n aelod gweithredol o'n bwrdd a chyn hynny, ef oedd ein Cyfarwyddwr Systemau a Rhwydweithiau.
Mae ganddo brofiad eang o weithio yn y diwydiant ynni a newid hinsawdd, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Swyddfa Newid Hinsawdd lle arweiniodd y gwaith o ddatblygu'r Ddeddf Newid Hinsawdd. Arweiniodd hefyd ddiwygiadau i'r farchnad drydan fel Cyfarwyddwr Marchnadoedd Ynni a Rhwydweithiau yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC).
Alena Kozakova
Cafodd Alena Kozakova ei phenodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd. Ar hyn o bryd, mae'n cyd-arwain practis Llundain E.CA Economics.
Mae ganddi brofiad sylweddol ym meysydd cystadleuaeth a rheoleiddio economaidd, yn ogystal â llunio polisïau a diogelu defnyddwyr.
Cyn hynny, Alena oedd y Prif Economegydd yn Ofwat. Mae hefyd wedi gweithio i'r Comisiwn Cystadleuaeth (neu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd), y Swyddfa Masnachu Teg, ac Adran Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cystadleuaeth y Comisiwn Ewropeaidd.
Barry Panayi
Cafodd Barry Panayi ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Mawrth 2020 am bum mlynedd. Cafodd y cyfnod hwn ei estyn am ddwy flynedd arall yn 2025. Ar hyn o bryd, ef yw Prif Swyddog Data a Gwybodaeth John Lewis.
Mae'n arbenigo mewn data a thrawsnewid digidol. Mae Barry wedi arwain timau data, gwybodaeth a digidol mewn sefydliadau fel Ernst & Young, Bupa, Virgin a Lloyds Banking Group.
Mae Barry yn hyrwyddo pŵer data ac mae wedi gweithio ar nifer o fentrau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn ogystal â hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau digidol yn ein cymdeithas.
Graham Mather
Cafodd Graham Mather ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd. Ef yw llywydd y Fforwm Seilwaith ar hyn o bryd.
Mae gan Graham brofiad ym meysydd cystadleuaeth, rheoleiddio, y gyfraith ac economeg. Cyn hynny, roedd yn un o gyfarwyddwyr anweithredol Ofcom a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, a hefyd yn aelod o'r Comisiwn Monopolïau a Chyfuniadau a'r Tribiwnlys Apeliadau Cystadleuaeth.
Yn 2017, cafodd ei benodi'n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau ym maes rheoleiddio economaidd, cystadleuaeth a datblygu seilwaith.
Jonathan Kini
Cafodd Jonathan Kini ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd. Ar hyn o bryd, mae'n un o gyfarwyddwyr anweithredol Ofwat. Ef hefyd yw Prif Swyddog Gweithredol egin fusnes telathrebu sy'n profi technoleg band eang newydd.
Cyn hynny, gweithiodd Jonathan fel Cyfarwyddwr i Virgin Media a Vodafone, fel Rheolwr Gyfarwyddwr Is-adran Defnyddwyr a Menter TalkTalk, ac yn Drax Plc fel Prif Swyddog Gweithredol ei fusnesau manwerthu. Mae wedi gweithio mewn rolau cynghori ym Manc Lloegr ac ar hyn o bryd, mae'n gynghorydd yn Rebalance Earth.
Nick Winser
Cafodd Nick Winser ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Ebrill 2025. Ef yw Comisiynydd Rhwydweithiau Trydan cyntaf y DU, gan gynnig argymhellion annibynnol er mwyn cyflymu'r broses o roi seilwaith trawsyrru trydan ar waith.
Mae'n Gomisiynydd Pŵer Glân 2030, Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol yn Greencoat UK Wind, ac mae'n gyn gadeirydd Energy Systems Catapult, gan wasanaethu ar eu bwrdd am dros 9 mlynedd.
Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad ym maes rhwydweithiau trydan, mae Nick wedi bod yn allweddol wrth gynghori'r llywodraeth a'r diwydiant ar bolisi ynni.
Tony Curzon Price
Cafodd Tony Curzon Price ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd. Ar hyn o bryd, mae'n gydymaith polisi yn Nesta ac Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain.
Mae Tony yn economydd sy'n ymddiddori mewn technoleg, ynni, yr amgylchedd, a rheoleiddio economaidd, ac mae wedi bod yn ymwneud â pholisi ynni a'r amgylchedd y DU ers dros 30 mlynedd. Fel entrepreneur ym maes technoleg a'r cyfryngau, treuliodd Tony bedair blynedd yn Silicon Valley.
Cyn hynny, bu'n gynghorydd yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa'r Cabinet, Rhif 10, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Warren Buckley
Cafodd Warren Buckley ei benodi'n aelod o'n bwrdd ym mis Tachwedd 2023 am bum mlynedd. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd ein Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth ac mae hefyd yn aelod o fwrdd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Cyn hynny, ef oedd Cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth, ar ôl gwasanaethu ar ei bwrdd am dros 10 mlynedd, a bu hefyd yn Gadeirydd y Fforwm Anabledd Busnes.
Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Warren wedi gweithio mewn rolau arwain gwasanaeth cwsmeriaid yn y sector corfforaethol a'r sector elusennau. Mae hyn yn cynnwys arwain timau darparu gwasanaethau a manwerthu mawr mewn cwmnïau fel Vodafone, Orange, BT, Openreach, HSBC a Thames Water.
Aelodau'r Uwch-bwyllgor Gweithredol
Jonathan Brearley
Jonathan Brearley yw ein Prif Swyddog Gweithredol ers mis Chwefror 2020 a chafodd ei ailbenodi am bum mlynedd arall yn 2025. Mae'n aelod gweithredol o'n bwrdd a chyn hynny, ef oedd ein Cyfarwyddwr Systemau a Rhwydweithiau.
Mae ganddo brofiad eang o weithio yn y diwydiant ynni a newid hinsawdd, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Swyddfa Newid Hinsawdd lle arweiniodd y gwaith o ddatblygu'r Ddeddf Newid Hinsawdd. Arweiniodd hefyd ddiwygiadau i'r farchnad drydan fel Cyfarwyddwr Marchnadoedd Ynni a Rhwydweithiau yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC).
Akshay Kaul
Ymunodd Akshay Kaul ag Ofgem yn 2017. Ef yw'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Seilwaith. Mae ei adran yn arwain ar systemau ynni a rheoleiddio rhwydweithiau ar gyfer ynni niwclear, dal a storio carbon, hydrogen, storio ynni am gyfnod hir a rhyng-gysylltu, seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial.
Cyn ymuno ag Ofgem, roedd Akshay ar secondiad o Drysorlys EF (lle bu'n gweithio am bum mlynedd) yn Transport for London. Yn gynnar yn eirfa, gweithiodd ym maes bancio buddsoddi, gwasanaethau ariannol a chyllid prosiectau.
Melinda Johnson
Ymunodd Melinda Johnson ag Ofgem ym mis Awst 2023. Hi yw'r Prif Swyddog Gweithredu presennol ac mae'n un o gyfarwyddwyr anweithredol y Sefydliad Ansawdd Prydeinig a GS1 UK. Ei phrif flaenoriaethau yw gwella'r gwasanaethau corfforaethol sy'n ein galluogi i gyflawni ein cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol a'n gweithgareddau rheoleiddio.
Cyn ymuno ag Ofgem, hi oedd cyfarwyddwr masnachol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Adran Drafnidiaeth, a dirprwy gyfarwyddwr ariannol a masnachol yr Adran Addysg. Treuliodd 17 mlynedd yn gweithio mewn rolau masnachol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ehangach cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil.
Neil Kenward
Ymunodd Neil Kenward ag Ofgem ym mis Ebrill 2020. Ar hyn o bryd, ef yw'r Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Strategaeth, Economeg, Ymchwil a Sero Net. Mae ei gyfarwyddiaeth yn nodi ein blaenoriaethau strategol, yn darparu dadansoddiad a gwybodaeth i lywio penderfyniadau am y rhain, ac yn gweithio gyda'r Llywodraeth i'w cyflawni.
Cyn ymuno ag Ofgem, bu Neil yn Bennaeth Polisi Ynni a'r Amgylchedd a Gwariant yn Nhrysorlys EF am bum mlynedd. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes ynni, economeg a strategaeth yn Llywodraeth y DU a'r sector preifat gan gynnwys gweithio yn Uned Strategaeth Tony Blair a rhedeg rhwydwaith economeg y Swyddfa Dramor.
Neil Lawrence
Ymunodd Neil Lawrence ag Ofgem ym mis Gorffennaf 2021. Ef yw'r Cyfarwyddwr Cyflawni a Chynlluniau presennol. Mae ei gyfarwyddiaeth yn gweinyddu 12 o gynlluniau ynni carbon isel a chymdeithasol sydd â gwerth blynyddol o £12 biliwn, gan gyflawni uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd a hyrwyddo datgarboneiddio.
Cyn ymuno ag Ofgem, treuliodd Neil naw mlynedd yn Deloitte yn darparu gwasanaethau proffesiynol i gleientiaid yn y sector ynni ac adnoddau. Dechreuodd ei yrfa yn y sector ynni yn gweithio i gwmnïau ynni integredig.
Priya Brahmbhatt-Patel
Ymunodd Priya Brahmbhatt-Patel ag Ofgem ym mis Ionawr 2021 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Mae ei chyfarwyddiaeth yn cwmpasu holl feysydd materion corfforaethol, gan gynnwys cyfathrebu strategol, cyswllt â'r cyfryngau a materion cyhoeddus, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a'r wefan a'i sianeli digidol.
Cyn ymuno ag Ofgem, bu'n Gyfarwyddwr ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu ar draws llywodraeth, rheoleiddio a gwleidyddiaeth.
Sinead Murray
Ymunodd Sinead Murray ag Ofgem yn 2021 fel Cwnsler Cyffredinol. Ei blaenoriaethau yw sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol a llywodraethu yn cael eu rhedeg mewn ffordd sy'n ein helpu i gyflawni ein hamcanion, gan ddiogelu buddiannau defnyddwyr a helpu i gyflawni sero net ar yr un pryd. Mae hefyd yn noddi rhwydwaith EnAble Ofgem ar y cyd.
Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr yn Adran Gyfreithiol y Llywodraeth, yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac yn Gyfarwyddwr Treth Bersonol a Gwasanaethau Corfforaethol yn CThEF.
Yn ystod ei gyrfa gynnar, arweiniodd brosiectau fel y cais i gynnal y Gemau Olympaidd, sefydlu Asiantaeth Ffiniau’r DU a chynghori ar faterion troseddol rhyngwladol.
Tim Jarvis
Ymunodd Tim Jarvis ag Ofgem ym mis Medi 2023. Ef yw'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Marchnadoedd ar hyn o bryd. Mae ei Grŵp yn gweithio i sicrhau prisiau teg a safonau gwasanaeth cwsmeriaid uchel, gan wella cydnerthedd ariannol a'r gallu i fuddsoddi ar draws y sector manwerthu ar yr un pryd. Rydym yn defnyddio ein pwerau monitro a gorfodi i wella ymddygiad, perfformiad, a chanlyniadau.
Cyn ymuno ag Ofgem, roedd yn un o gyfarwyddwyr Trysorlys EF. Cyn hynny, gweithiodd i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Mae ganddo fwy na 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes polisi cyhoeddus a rheoleiddio, gan arwain ymchwiliadau i farchnadoedd, adolygiadau rheoli prisiau, ac ymholiadau uno.