Telerau ac amodau cyflogaeth

Telerau ac amodau cyflogaeth Ofgem

Cyfnod prawf

Bydd yn rhaid i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn foddhaol cyn cael eich penodi.

Oriau

Disgwylir i chi weithio wythnos waith pum diwrnod, 36 awr heb gynnwys amser cinio yn Llundain, 37 awr yn Glasgow. Mae oriau gweithio hyblyg a gwaith rhan amser ar gael, fel arfer ar ffurf gweithio llai o oriau/diwrnodau bob wythnos. Rydym yn annog staff i sicrhau cydbwysedd synhwyrol rhwng bywyd a gwaith, sydd er budd yr unigolyn ac Ofgem. Mae'n ofynnol i Uwch-weision Sifil (SCS) Ofgem weithio 37 awr yr wythnos (heb gynnwys amser cinio) ni waeth beth fo'r lleoliad.

Symudedd

Mae'r rolau wedi'u lleoli yn Llundain (Canary Wharf) neu yng nghanol dinas Glasgow – nodir yr union leoliad ar yr hysbyseb swydd unigol. Gall fod angen rhyw fath o deithio ar gyfer pob rôl.

Smygu

Mae polisi dim smygu yn y gweithle ar waith gennym.

Diogelu data

Caiff unrhyw wybodaeth a roddwch yn ystod y broses recriwtio ei thrin yn gyfrinachol a dim ond fel y nodir isod y caiff ei datgelu a bydd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau y caiff unrhyw ddata personol, yn cynnwys data personol sensitif, eu defnyddio â'ch cydsyniad a gan barchu eich preifatrwydd. Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy (‘testun data’); person naturiol adnabyddadwy yw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn arbennig wrth gyfeirio at ddyfais adnabod fel enw, rhif adnabod, data lleoliad, dyfais adnabod ar-lein neu un neu fwy o ffactorau penodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.

Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth y gwyddoch sy'n ffug, neu os byddwch yn dal gwybodaeth berthnasol yn ôl, gall hyn arwain at wrthod eich cais neu, os ydych eisoes wedi cael eich penodi, at eich diswyddo.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Fel cyflogwr rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb. Rydym am fod yn sefydliad y mae pobl yn falch o fod yn rhan ohono. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'n cymunedau amrywiol.

Ein nod yw sicrhau cyfle cyfartal yn ein harfer a'n prosesau cyflogaeth. Bydd hyn waeth beth fo'ch anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, oedran, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gysylltiad crefyddol a chred, patrwm gwaith a'ch cyfrifoldeb am ddibynyddion.

Credwn y dylai pob cyflogai gael ei drin â gonestrwydd a pharch, gan fod yn agored hefyd. Ni fyddwn yn goddef triniaeth annheg na gwahaniaethu. Rydym yn anelu at gael gweithlu sy'n adlewyrchu'r gymuned amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hon mewn talent ac yn manteisio ar y dalent honno fel bod ein pobl yn cyflawni eu potensial ac yn creu'r amodau i lwyddo mewn busnes.

Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Mae Ofgem yn ymrwymedig i recriwtio gweithlu amrywiol, sy'n cynrychioli Prydain fodern. Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn gweithio tuag at y nod hwn ar ein tudalen ar Bolisïau Corfforaethol.

Rheolau Penodiadau Busnes 

Gellir dod o hyd i fanylion y Rheolau Penodiadau Busnes sy'n llywodraethu cyflogaeth ôl-Ofgem yn y Canllawiau'r Rheolau Penodiadau Busnes ar gyfer Rheolwyr a Phob Cyflogai.

Gwybodaeth ychwanegol

Cynhelir y broses o recriwtio ar gyfer pob rôl drwy wasanaeth Swyddi'r Gwasanaeth Sifil, gan ddefnyddio'r fethodoleg Proffiliau Llwyddiant, ac yn unol ag egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith drwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses recriwtio, cysylltwch â ni drwy glicio isod.

E-bostiwch y tîm recriwtio