Pwy ydym ni

Gwybodaeth am Ofgem a'r hyn a wnawn fel y rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban).

Ofgem yw Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Ni yw'r rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr. Ein rôl yw diogelu buddiannau defnyddwyr ynni. Rydym yn un o adrannnau anweinidogol y llywodraeth. Mae hyn yn golygu y cawn ein harwain gan uwch was sifil yn lle gweinidog. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ynni, grwpiau defnyddwyr, elusennau, llywodraeth, a Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol ar system ynni lân, deg a diogel.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn rheoleiddio marchnadoedd ynni.Mae angen trwyddedau ar gwmnïau ynni er mwyn cymryd rhan mewn marchnadoedd a rhwydweithiau ynni. Y trwyddedau hyn sy'n gosod y rheolau ar sut y dylai cwmnïau wneud, cludo, a gwerthu ynni. Mae hyn yn cynnwys faint y gall cwmnïau ei godi am ynni a sut mae cwsmeriaid yn cael eu trin. Rydym yn ysgrifennu'r rheolau hyn, yn monitro sut mae cwmnïau ynni yn gweithredu, ac yn cymryd camau os na fyddant yn dilyn y rheolau.

Fel rhan o'n dyletswydd, rydym hefyd yn ystyried sut mae unrhyw benderfyniadau rydym yn eu gwneud yn effeithio ar economi'r DU. Byddwn yn parhau i gefnogi twf economaidd cynaliadwy yn y sector ynni gan wella buddsoddiad, cynhyrchiant, a sefydlogrwydd yn yr hirdymor.

Rydym yn gweithio gydag adrannau'r llywodraeth, Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol, y diwydiant ynni ac eraill er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050. Sero net yw polisi'r llywodraeth lle na ddylwn gynhyrchu mwy o nwyon tŷ gwydr nag y gallwn eu tynnu. Ein rôl yw sicrhau y gall y system ynni symud i ffwrdd o danwyddau ffosil i ffynonellau ynni glân, a defnyddio technoleg fel storio carbon mewn modd effeithiol ac effeithlon.  

Mae ein rheolau a'n cynlluniau yn cefnogi twf economaidd, sero net ac arloesi, er enghraifft drwy wneud buddsoddiadau mewn prosiectau ynni glân yn fwy deniadol. Rydym hefyd yn gweinyddu cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol ar ran y llywodraeth. 

Darllen ein strategaeth.

Ein bwrdd

Ein bwrdd yw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA). Cadeirydd ein bwrdd yw Mark McAllister. Ein Prif Swyddog Gweithredol yw Jonathan Brearley.

Darllen am ein harweinwyr.