Sut rydym yn gweithio

Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sut rydym yn bwriadu cyflawni ein nodau a'n strwythur a'n prosesau.

Caiff ein pwerau a'n dyletswyddau fel rheoleiddiwr marchnadoedd ynni eu nodi ym mholisi ynni'r llywodraeth ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) a Deddf Ynni 2023. Rydym yn penderfynu beth yw ein blaenoriaethau strategol a sut y dylai canlyniad polisi gael ei gyflawni.  

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r llywodraeth, y diwydiant ynni, grwpiau defnyddwyr, elusennau a chyrff cyhoeddus fel y Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol.

Ein strategaeth a'n cynlluniau

Mae ein blaenoriaethau yn cyd-fynd â pholisïau'r llywodraeth ar y canlynol:

  • ynni glân a sero net
  • diogelu defnyddwyr
  • gwneud yn siŵr bod y system ynni yn diwallu anghenion y dyfodol

Gweld ein strategaeth a'n blaenoriaethau.

Cynllun ac adroddiad blynyddol

Bob blwyddyn, rydym yn creu cynllun o'r gweithgareddau byddwn yn eu blaenoriaethu i gefnogi ein nodau strategol.

Gweld ein Blaenraglen Waith ar gyfer 2025 i 2026.

Rydym yn edrych yn ôl ar ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth) a'r cynnydd rydym wedi'i wneud.

Gweld ein hadroddiadau blynyddol.

Ein llywodraethiant a thryloywder

Rydym yn agored o ran sut mae Ofgem yn gwneud penderfyniadau a phwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein bwrdd a'n cyfarwyddwyr, ein prosesau sefydliadol a'n gwariant ar ein gwefan.

Ein harweinyddiaeth

Sut y caiff Ofgem ei redeg, pwy sy'n gosod ein strategaeth, a beth mae ein bwrdd a'n pwyllgorau yn gyfrifol amdanynt.

Darllen am ein harweinwyr.

Polisïau a gweithdrefnau

Sut rydym yn ymddwyn fel corff cyhoeddus ac fel cyflogwr, a gwybodaeth am ein prosesau sefydliadol.

Gweld ein polisïau a'n gweithdrefnau.

Cyllid

Sut rydym yn cael ein hariannu, ar beth rydym yn gwario arian, a sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi ein gwaith.

Darllen am ein cyllid.