Pam ein bod yn archwilio

Rydym yn talu arian cyhoeddus felly mae'n rhaid i ni sicrhau y caiff ei wario'n gywir a bod pobl yn dilyn y rheolau. Mae gwiriadau archwilio yn un ffordd o wneud hyn. Maent yn ein helpu i nodi a diogelu yn erbyn camgymeriadau a thwyll.

Gellir dewis unrhyw un ar gyfer gwiriad archwilio ar unrhyw adeg. Rydym yn dewis systemau gwresogi yn seiliedig ar nifer o resymau gan gynnwys samplau ar hap.

Beth mae gwiriad archwilio yn ei olygu?

Ceir dau fath gwahanol a gellir dewis eich system wresogi ar gyfer naill a'r llall:

Archwiliadau cyn Achrediad

Dyma ble rydym yn cynnal archwiliad ar eich cais cyn iddo gael ei basio. Gall hwn gynnwys ni'n gofyn i chi am ddogfenni neu gofyn i allu archwilio eich system gwresogi er mwyn cadarnhau ei fod yn dderbynniol.

Archwiliadau ar ôl Achrediad

  1. Archwiliad desg, sy'n golygu ein bod yn gofyn i chi ddarparu dogfennau a chofnodion penodol.
  2. Archwiliad safle, sy'n cael ei gwblhau ar safle, lle mae angen i ni archwilio'r system wresogi a hefyd weld dogfennau a chofnodion penodol. Cynhelir hwn gan archwilwyr allanol. Mae angen i berchnogion-ddeiliaid gyflwyno datganiad sy'n cadarnhau eich bod yn caniatau i ni gael mynediad i'r safle i archwilio'r system wresogi. Mae angen i landlordiaid gyflwyno datganiad sy'n cadarnhau bod tenant yr eiddo yn rhoi mynediad er mwyn archwiliad.

Gofynnwn am eich cydweithrediad neu efallai y bydd yn rhaid i ni atal eich taliadau.

Dogfennau y mae angen i chi eu cadw

Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth bellach hefyd - er enghraifft, tystiolaeth ffotograff ar gyfer eich system wresogi neu fesurydd, copïau o filiau cyfleustodau, copïau o ohebiaeth ar gyfer arian grant a chopi o'r rhestr wirio mesur er mwyn cael taliad y mae eich gosodwr yn ei roi i chi, os yw eich system wresogi ar fesurydd.

Twyll

Nid ydym yn goddef achosion o dwyll ac mae gennym Dîm Atal Twyll er mwyn ei ddarganfod, ei atal a'i rwystro. Mae enghreifftiau o anonestrwydd er budd ariannol o'r cynllun yn cynnwys:

  • peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau'n fwriadol
  • ymgeiswyr neu unigolion eraill yn y gadwyn gyflenwi yn cyflwyno dogfennau ffug neu gamarweiniol er mwyn cael mynediad i'r cynllun, neu i gynyddu taliadau sy'n daladwy o'r cynllun.

Lle rydym yn amau twyll neu arferion anfoesol, byddwn yn cyfeirio'r unigolion dan sylw i'r awdurdodau perthnasol a allai gynnwys Action Fraud, yr Heddlu neu Safonau Masnach.

Os oes gennych bryderon am achosion o amheuon o dwyll, cysylltwch â ni:

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwe-dudalen Atal Twyll.