Gwneud cwyn am eich cyflenwr ynni
Os ydych yn anfodlon ar wasanaeth cwmni ynni, dilynwch ein canllaw cam wrth gam ar sut i reoli cwyn a'r help y gallwch ei gael ar y ffordd.
-
Siaradwch â nhw
Mae'n rhaid i gyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith gael proses gwyno. Rhaid iddynt hefyd ymateb i gwynion a dod i benderfyniad o fewn 8 wythnos.
Eglurwch beth yw'r broblem a beth rydych am iddynt ei wneud.
Gallwch gwyno drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.
Cadwch gofnod o'r cyswllt a gewch â'r cwmni.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cwmni ar fil ynni diweddar.
Os nad ydych yn siŵr am fanylion eich cyflenwad presennol, ewch i Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.
-
Cael cymorth
Mae gan Cyngor ar Bopeth lythyrau cwynion engheifftiol y gallwch eu defnyddio. Gall hefyd helpu gyda chwyn. Weithiau, bydd ei bwerau yn golygu y gall weithredu ar eich rhan.
Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os ydych mewn sefyllfa fregus neu os gallai eich ynni gael ei ddatgysylltu. Gall hefyd eich cyfeirio at sefydliadau eraill i helpu. Mae'r gwasanaeth hwn sy'n rhad ac am ddim yn cynnwys cymorth i fusnesau bach.
Gall adnoddau ar-lein ac apiau fel Resolver.co.uk hefyd eich helpu i olrhain a rheoli cwyn cam wrth gam.
Yng Nghymru a Lloegr, gall Cyngor ar Bopeth gynnig rhagor o gyngor os bydd ei angen arnoch
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch y cyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth.
Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:
- Ewch i wefan energyadvice.scot
- Ffoniwch 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs
- E-bostiwch energyadvice.scot
-
Mynd â'r mater ymhellach
Gwnewch gŵyn i'r Ombwdsmon Ynni os bydd wyth wythnos wedi pasio a'ch bod dal yn anfodlon ag ymateb y cwmni.
Dylai cwmnïau ynni ysgrifennu atoch i ddweud wrthych sut i wneud hyn ar ôl wyth wythnos neu pan fyddwch yn cyrraedd pwynt lle na allwch wneud rhagor. Bydd hyn pan na fydd yr un ohonoch yn gallu dod i gytundeb.
Gallwch gyfeirio achos at yr Ombwdsmon o fewn 12 mis i gael llythyr o'r fath. Weithiau, gall ymchwilio cwyn hŷn os na fyddwch wedi cael llythyr o'r fath.
Gall yr Ombwdsmon wneud i gwmni gywiro problem, ymddiheuro ac esbonio'r hyn a ddigwyddodd. Gall hefyd wneud i gwmni dalu iawndal. Mae ei benderfyniadau yn gyfrwymol ar y cwmni ynni.
Gwnewch gŵyn i Ofgem os na allwch ddatrys problem â gweithredwr rhwydwaith neu wefan gymharu a achredwyd gan ein Cod Hyder.
Cysylltu
- Ffurflen gwyno'r Ombwdsmon Ynni neu ffoniwch 0330 440 1624.
- Cwynion am wefan cymharu gweithredwyr rhwydwaith a'r Cod Hyder: E-bostiwch Ofgem neu ffoniwch 020 7901 7295.