Cyngor rheolau penodiadau busnes
Yn amlinellu'r broses rheolau penodiadau busnes, i bwy y mae'n berthnasol, a ble i ddod o hyd i'n data a gyhoeddwyd.
Mae uwch-weision sifil yn Ofgem yn uwch-aelodau o staff sy'n gwneud penderfyniadau strategol, yn datblygu gwaith polisi, ac yn goruchwylio blaenoriaethau'r llywodraeth. Maent yn rhan o'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA) a'r Uwch-bwyllgor Gweithredol.
Mae'n rhaid i bob uwch-aelod o staff a gyflogir gennym ddilyn rheolau penodiadau busnes y llywodraeth os byddant yn bwriadu gadael a derbyn swydd newydd y tu allan i Ofgem. Gall hyn fod â thâl neu'n ddi-dâl.
Mae'r rheolau yn gymwys i'r canlynol:
- ysgrifenyddion parhaol
- cyfarwyddwyr
- dirprwy gyfarwyddwyr
- cyfarwyddwyr cyffredinol
- cynghorwyr arbennig
- rolau cyfatebol eraill
Cyflwyno cais
Mae'n rhaid i'r uwch-aelod o staff roi gwybod i ni cyn derbyn y swydd newydd drwy lenwi ffurflen gais, oni bai ei fod yn:
- symud i un o adrannau eraill y llywodraeth
- ymddeol
- teithio ac nad yw wedi cadarnhau pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith
Mae'n bosibl y bydd y rheolau ar waith naill ai am 1 flwyddyn neu 2 flynedd, gan ddibynnu ar ei lefel neu rôl uwch-was sifil. Mae'n bosibl y bydd angen i gyn-aelodau o staff ddilyn y broses hon os byddant wedi gadael Ofgem yn ystod y 2 flynedd diwethaf.
Ar ôl i ni dderbyn ceisiadau
Byddwn yn adolygu pob cais gan uwch-aelodau o staff sy'n bwriadu gadael Ofgem.
Os bydd gennym bryderon, efallai y byddwn yn rhoi cyfyngiadau ar waith. Mae'n rhaid i'r uwch-aelod o staff ddilyn y cyfyngiadau tan ei ddiwrnod gwaith olaf. Mae amgylchiadau lle mae'n rhaid dilyn hyn, hyd yn oed ar ôl gadael Ofgem.
Ceisiadau a adolygwyd fesul blwyddyn
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am uwch-aelodau o staff sydd wedi gadael Ofgem bob tri mis. Caiff y data eu cyhoeddi o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn. Caiff y set nesaf o ddata ei gyhoeddi ym mis Mai 2025.
Caiff unrhyw benderfyniadau sy'n berthnasol i staff yr uwch wasanaeth sifil ar lefel 3 eu cyhoeddi gan y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes.
2024
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Hydref - Rhagfyr 2024
Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, ni chyhoeddodd Ofgem unrhyw benderfyniadau ar unrhyw geisiadau a gyflwynwyd o dan y rheolau penodiadau busnes.
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Gorffennaf – Medi 2024
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Ebrill – Mehefin 2024
Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2024, ni chyhoeddodd Ofgem unrhyw benderfyniadau ar unrhyw geisiadau a gyflwynwyd o dan y rheolau penodiadau busnes.
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Ionawr - Mawrth 2024
Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2024, ni chyhoeddodd Ofgem unrhyw benderfyniadau ar unrhyw geisiadau a gyflwynwyd o dan y rheolau penodiadau busnes.
2023
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Hydref – Rhagfyr 2023
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Gorffennaf – Medi 2023
Cyngor rheolau penodiadau busnes: Ebrill – Mehefin 2023
Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2023, ni chyhoeddodd Ofgem unrhyw benderfyniadau ar unrhyw geisiadau a gyflwynwyd o dan y rheolau penodiadau busnes.