Amdanom ni

Gwybodaeth am Ofgem a'r hyn a wnawn fel y rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban).

Pwy ydym ni

Ofgem yw Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Ni yw'r rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr. Ein rôl yw diogelu buddiannau defnyddwyr ynni. 

Rydym yn un o adrannnau anweinidogol y llywodraeth. Mae hyn yn golygu y cawn ein harwain gan uwch was sifil yn lle gweinidog. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ynni, grwpiau defnyddwyr, elusennau, llywodraeth, a Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol ar system ynni lân, deg a diogel.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn rheoleiddio marchnadoedd ynni.Mae angen trwyddedau ar gwmnïau ynni er mwyn cymryd rhan mewn marchnadoedd a rhwydweithiau ynni. Y trwyddedau hyn sy'n gosod y rheolau ar sut y dylai cwmnïau wneud, cludo, a gwerthu ynni. Mae hyn yn cynnwys faint y gall cwmnïau ei godi am ynni a sut mae cwsmeriaid yn cael eu trin. Rydym yn ysgrifennu'r rheolau hyn, yn monitro sut mae cwmnïau ynni yn gweithredu, ac yn cymryd camau os na fyddant yn dilyn y rheolau.

Fel rhan o'n dyletswydd, rydym hefyd yn ystyried sut mae unrhyw benderfyniadau rydym yn eu gwneud yn effeithio ar economi'r DU. Byddwn yn parhau i gefnogi twf economaidd cynaliadwy yn y sector ynni gan wella buddsoddiad, cynhyrchiant, a sefydlogrwydd yn yr hirdymor.

Rydym yn gweithio gydag adrannau'r llywodraeth, Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol, y diwydiant ynni ac eraill er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050. Sero net yw polisi'r llywodraeth lle na ddylwn gynhyrchu mwy o nwyon tŷ gwydr nag y gallwn eu tynnu. Ein rôl yw sicrhau y gall y system ynni symud i ffwrdd o danwyddau ffosil i ffynonellau ynni glân, a defnyddio technoleg fel storio carbon mewn modd effeithiol ac effeithlon.  

Mae ein rheolau a'n cynlluniau yn cefnogi twf economaidd, sero net ac arloesi, er enghraifft drwy wneud buddsoddiadau mewn prosiectau ynni glân yn fwy deniadol. Rydym hefyd yn gweinyddu cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol ar ran y llywodraeth. 

Sut rydym yn gweithio

Caiff ein pwerau a'n dyletswyddau fel rheoleiddiwr marchnadoedd ynni eu nodi ym mholisi ynni'r llywodraeth ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) a Deddf Ynni 2023. Rydym yn penderfynu beth yw ein blaenoriaethau strategol a sut y dylai canlyniad polisi gael ei gyflawni.

Ein strategaeth a'n cynlluniau

Mae ein blaenoriaethau yn cyd-fynd â pholisïau'r llywodraeth ar y canlynol:

  • ynni glân a sero net
  • diogelu defnyddwyr
  • gwneud yn siŵr bod y system ynni yn diwallu anghenion y dyfodol

Gweld ein strategaeth a'n blaenoriaethau.

Ein llywodraethiant a thryloywder

Rydym yn agored o ran sut mae Ofgem yn gwneud penderfyniadau a phwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein bwrdd a'n cyfarwyddwyr, ein prosesau sefydliadol a'n gwariant ar ein gwefan.

Ein harweinyddiaeth

Sut y caiff Ofgem ei redeg, pwy sy'n gosod ein strategaeth, a beth mae ein bwrdd a'n pwyllgorau yn gyfrifol amdanynt.

Darllen am ein harweinwyr.

Polisïau a gweithdrefnau

Sut rydym yn ymddwyn fel corff cyhoeddus ac fel cyflogwr, a gwybodaeth am ein prosesau sefydliadol.

Gweld ein polisïau a'n gweithdrefnau.

Cyllid

Sut rydym yn cael ein hariannu, ar beth rydym yn gwario arian, a sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi ein gwaith.

Darllen am ein cyllid.