Beth fydd yn digwydd os bydd cyflenwr ynni eich busnes yn mynd i'r wal?

Bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am beth sy'n digwydd pan fydd cyflenwyr ynni busnes yn mynd allan o fusnes. Os ydych yn gwsmer ynni cartref, darllenwch ein canllawiau yma: Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal 

Os yw eich cyflenwr ynni busnes wedi mynd i'r wal

Cymerwch ddarlleniad mesurydd, arhoswch a pheidiwch â newid cyflenwr 

Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi'n fuan er mwyn esbonio sut y bydd yn derbyn eich cyfrif. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw ddebydau uniongyrchol. 

Os byddwch wrthi'n newid i gyflenwr arall, bydd y broses honno'n parhau 

Arhoswch i Ofgem benodi cyflenwr newydd 

Nid oes angen i chi wneud dim. Ni fydd unrhyw beth yn tarfu ar eich cyflenwad ac ni ddylai gymryd mwy nag ychydig ddiwrnodau, hyd at uchafswm o 14 diwrnod. Bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn diogelu eich cyflenwad felly ni fyddwch yn sylwi bod unrhyw beth yn wahanol. Os bydd Ofgem yn dod o hyd i gyflenwr newydd i chi, bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.  

Mewn amgylchiadau eithriadol, gallwn benodi gweinyddwr i redeg eich cyflenwr presennol yn hytrach na'ch symud i un newydd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich cyflenwr presennol yn cysylltu â chi am hyn ac yn esbonio beth sy'n digwydd.  

Pan fydd y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi 

Gofynnwch am y tariffau busnes y gall eu cynnig i chi. Cyn i chi gytuno i gontract newydd, gallwch hefyd ddewis chwilio am y fargen orau a newid cyflenwr  os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

Cyflenwyr sydd wedi ymadael â'r farchnad yn ddiweddar a'r cyflenwyr sydd wedi cymryd drosodd

Pryd 

Hen gyflenwr 

Sail cwsmeriaid 

Cyflenwr newydd 

9 Gorffennaf 2022 

UK Energy Incubator Hub (UKEIH) 

  • 3000 domestig 

Octopus Energy 

18 Chwefror 2022 

Whoop Energy 

  • 50 domestig 

  • 212 annomestig 

Yü Energy Retail Limited 

18 Chwefror 2022 

Xcel Power Ltd 

  • 274 annomestig 

Yü Energy Retail Limited 

18 Ionawr 2022 

Together Energy Retail Ltd 

  • 176,000 domestig 

  • 1 annomestig 

British Gas o 24 Ionawr 2022 

Eich cyflenwad ynni busnes

A fydd toriad yn fy nghyflenwad? 

Na fydd. Ni fydd unrhyw beth yn tarfu ar eich cyflenwad ynni busnes. Byddwn yn dewis darparwr newydd i ymdrin â'ch cyflenwad.  

Ein cyngor yw y dylech gymryd darlleniad mesurydd. Peidiwch â gwneud unrhyw beth nes i ni benodi cyflenwr newydd ac iddo gysylltu â chi.  

Pwy fydd yn dewis cyflenwr ynni newydd fy musnes? 

Bydd Ofgem yn dewis eich cyflenwr newydd drwy broses gystadleuol. Gwnawn hyn i gael y fargen orau bosibl i chi o dan yr amgylchiadau. 

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Ofgem a'r llywodraeth ofyn i'r Llys benodi gweinyddwr i redeg eich cyflenwr presennol os bydd yn cael anawsterau ariannol, yn hytrach na'ch symud i un newydd. Gelwir hyn yn Gyfundrefn Gweinyddu Arbennig (SAR). Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich cyflenwr presennol yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn ac yn esbonio beth sy'n digwydd – byddwch yn rhydd i newid i gyflenwr arall fel y dymunwch a chaiff eich balans credyd ei ddiogelu. Dysgwch fwy isod yn ‘Beth fydd yn digwydd os bydd gweinyddwr yn cymryd drosodd fy nghyflenwr?’ 

Beth fydd yn digwydd os bydd gweinyddwr yn cymryd drosodd fy nghyflenwr? 

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y bydd Ofgem a'r llywodraeth yn penodi gweinyddwr i redeg eich cyflenwr os bydd mewn trafferth ariannol. Gelwir hyn yn Gyfundrefn Gweinyddu Arbennig (SAR).  

Bydd y gweinyddwr yn sicrhau bod eich cyflenwr yn parhau i weithredu. Bydd yn edrych ar ffyrdd o achub y cyflenwr ac mae'n bosibl y bydd yn edrych ar ffyrdd o drosglwyddo cwsmeriaid i gyflenwr arall. Y peth pwysig i'w gofio yw na fydd eich cyflenwad ynni yn cael ei darfu.  

Os bydd gweinyddwr yn cymryd drosodd eich cyflenwr  

  1. Nid oes angen i chi wneud dim – byddwch yn parhau i gael ynni gan eich cyflenwr. Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi i roi gwybod beth sy'n digwydd.  

  1. Peidiwch â chanslo eich debyd uniongyrchol – byddwch yn parhau i gael ynni a chael eich bilio amdano.  

  1. Nid oes raid i chi aros gyda'ch cyflenwr os na fyddwch am wneud hynny – rydych yn rhydd i siopa o gwmpas a newid i gynnig arall.  

  1. Yn y dyfodol, gall y gweinyddwr gau eich cyflenwr i lawr a'ch symud i gyflenwr arall. Os bydd hyn yn digwydd bydd yn rhoi gwybod i chi beth yn union sy'n digwydd ymlaen llaw.  

Eto, ni fydd eich cyflenwad yn cael ei darfu ac ar ôl cael eich symud i'ch cyflenwr newydd byddech yn rhydd i siopa o gwmpas a newid os byddech am wneud hynny. 

Pryd y byddaf yn gwybod pwy yw'r cyflenwr newydd yn ogystal â'r dyddiad y byddaf yn cael fy symud iddo?  

Byddwn yn penderfynu ar gyflenwr newydd cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi'r manylion hyn ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y cyflenwr newydd hefyd yn cysylltu â chi yn fuan ar ôl cael ei benodi gennym ni. 

Byddwn yn gofyn i gyflenwyr gyflwyno ceisiadau i dderbyn cwsmeriaid. Drwy wneud hynny, gallwn geisio cael y fargen orau bosibl i chi o dan yr amgylchiadau. 

Dim ond ychydig ddiwrnodau y dylai ei gymryd i ni benodi cyflenwr newydd, hyd at uchafswm o 14 diwrnod. Rydym yn ceisio gwneud hyn cyn gynted â phosibl. 

Ein cyngor yw byddwch yn amyneddgar, peidiwch â newid cyflenwr ac arhoswch nes bod y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi. Bydd hyn yn sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl. 

Pan fydd y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi, gofynnwch am y tariffau busnes sydd ar gael i chi. Cyn i chi gytuno i gontract newydd, gallwch hefyd ddewis chwilio am y fargen orau a newid cyflenwrhttps://www.ofgem.gov.uk/node/167411  os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

Beth fydd yn digwydd os oes gen i fesurydd deallus? 

Cewch eich trosglwyddo i gyflenwr newydd pan fyddwn yn ei benodi. Ni fydd unrhyw beth yn tarfu ar eich cyflenwad ynni. 

Byddwn yn ceisio dod o hyd i gyflenwr a all rhoi'r fargen orau i chi o dan yr amgylchiadau. Os na all y cyflenwr newydd rydym yn ei ddewis weithredu eich mesurydd deallus yn y modd deallus, bydd yn ei weithredu fel mesurydd traddodiadol. Mae hyn yn golygu y gall fod angen i chi gymryd darlleniadau mesurydd a'u cyflwyno i'ch cyflenwr newydd, neu bydd yn trefnu bod eich mesurydd yn cael ei ddarllen. 

Mae'n debygol y bydd eich mesurydd yn gallu gweithio yn y modd deallus eto yn y dyfodol. Er enghraifft, os byddwch yn dewis chwilio am dariff neu gyflenwr arall, neu pan fydd pob mesurydd wedi'i gofrestru ar y gwasanaeth cyfathrebu mesuryddion deallus cenedlaethol. 

Cofnodion cyfrif a darlleniadau mesurydd

Beth y dylwn ei wneud os na allaf gael gafael ar gofnodion fy nghyfrif, na biliau na chyfriflenni blaenorol? 

Pan fydd cwmni’n rhoi'r gorau i fasnachu, gall dynnu ei wasanaethau gwefan i lawr. Ein cyngor yw cymryd darlleniad mesurydd a pheidio â gwneud dim nes bydd y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi. Caiff cofnodion eich cyfrif a ddelir gan eich hen gyflenwr eu trosglwyddo i'r cyflenwr newydd.  

Bydd y cyflenwr newydd a benodir gennym yn cadarnhau unrhyw falans credyd neu ddebyd sydd gennych yn seiliedig ar y cofnodion hyn. Yna, bydd yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf, gan gynnwys sut y byddwch yn cael balans cyfrif yn ôl neu'n ei ad-dalu. 

Ni allaf gymryd darlleniad mesurydd. Beth y dylwn ei wneud? 

Os na allwch gymryd darlleniad mesurydd am nad yw eich mesurydd yn gweithio, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth (Cymru a Lloegr) neu Advice Direct Scotland.  

Os yw'n anodd i chi gymryd darlleniad mesurydd eich hun, ceisiwch ofyn i rywun arall rydych yn ymddiried ynddo fel cymydog, aelod o'r teulu neu ffrind ddarllen y mesurydd ar eich cyfer os yw hynny'n bosibl. 

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau yng Nghymru a Lloegr. 

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs

  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth. 

  • Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol  ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus. 

Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth. 

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu: 

I gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni, ewch i'n tudalen Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau

Eich contract ynni busnes

A fyddaf ar gontract ynni busnes gwahanol gyda fy nghyflenwr newydd? 

Byddwch. Bydd eich hen dariff yn dod i ben. 

Yn hytrach, bydd eich cyflenwr newydd yn eich rhoi ar gontract 'tybiedig' arbennig. Ystyr hyn yw contract nad ydych wedi'i ddewis. Bydd y contract hwn yn para cyhyd ag y byddwch yn ei ddymuno. Holwch y cyflenwr newydd am eich opsiynau ynni busnes pan fydd yn cysylltu â chi.  

Cyn i chi gytuno i gontract newydd, gallwch hefyd ddewis chwilio am y fargen orau a newid cyflenwrhttps://www.ofgem.gov.uk/node/167411 os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch.  

A fydd fy miliau yn cynyddu? 

Bydd eich cyflenwr newydd yn eich cychwyn ar gontract 'tybiedig' arbennig. Ystyr hyn yw contract nad ydych wedi'i ddewis. 

Gall contractau tybiedig fod yn ddrud am fod y cyflenwr yn cymryd mwy o risg (e.e. efallai y bydd yn prynu ynni cyfanwerthol ychwanegol ar fyr rybudd), felly gallai eich biliau godi. Serch hynny, bydd Ofgem yn ceisio sicrhau'r fargen orau posibl i chi os byddwch yn y sefyllfa hon. Ni fyddwch wedi eich clymu i'r contract tybiedig - gallwch newid tariff neu gyflenwr unrhyw bryd. 

Arhoswch i rywun gysylltu â chi er mwyn diogelu unrhyw falans credyd y gall fod gennych. Pan fydd rhywun yn cysylltu â chi, gofynnwch am gael eich rhoi ar y tariff rhataf neu chwiliwch am y fargen orau a newidiwch gyflenwr os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

Pa gyfradd y byddaf yn ei thalu gyda'm contract ynni busnes newydd? 

Bydd eich cyflenwr newydd yn eich rhoi ar gontract 'tybiedig' arbennig. Ystyr hyn yw contract nad ydych wedi'i ddewis.  

Bydd eich cyflenwr newydd yn dweud wrthych beth fydd y gyfradd 'dybiedig' newydd. Daw'r gyfradd hon yn weithredol pan gaiff eich cyflenwad ei drosglwyddo. Ein nod yw gwneud penderfyniad ar y cyflenwr newydd cyn gynted â phosibl. Wrth ddewis cyflenwr newydd, byddwn yn ceisio cael y fargen orau bosibl i chi.  

Pan fydd y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi, gofynnwch am y tariffau busnes sydd ar gael i chi. Cyn i chi gytuno i gontract newydd, gallwch hefyd ddewis chwilio am y fargen orau a newid cyflenwr  os byddwch am wneud hynny. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

Newid cyflenwr

A ddylwn newid fy nghyflenwr nawr?  

Na ddylech. Ein cyngor i chi yw peidio â newid cyflenwr, ond y dylech aros i'r cyflenwr newydd gysylltu â chi. Bydd hyn yn sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl. Pan fydd y broses wedi'i chwblhau, byddwch yn rhydd i symud i dariff neu gyflenwr arall. Ni chodir ffioedd gadael arnoch. 

Rwyf wrthi eisoes yn newid cyflenwr, ond nid yw'r broses wedi'i chwblhau eto. A fydd y broses newid yn llwyddiannus ac a gaiff fy malans credyd ei ddiogelu?  

Nid oes angen i chi boeni. Os ydych wrthi'n newid cyflenwr, cewch eich symud i'r cyflenwr newydd rydych wedi'i ddewis. Ni ddylai fod angen i chi wneud dim. 

Pan fydd y broses o newid cyflenwr wedi'i chwblhau, dylai eich debyd uniongyrchol â'ch cyn-gyflenwr gael ei ganslo. Os nad yw'r debyd uniongyrchol wedi'i ganslo, efallai y bydd angen i chi ei gau drwy eich banc.  

Bydd Ofgem bob amser yn ceisio penodi cyflenwr newydd a fydd yn ystyried yr holl gredyd sy'n ddyledus gan y cyflenwr presennol, neu rywfaint ohono – ond nid oes gwarant o hyn. 

Nid yw'r rhwyd ddiogelwch yn cwmpasu balansau credyd cwsmeriaid busnes oherwydd gall cwsmeriaid busnes wneud cais i weinyddwyr cyflenwr ynghylch eu balansau credyd. Dyma y byddech yn ei wneud hefyd pe byddai unrhyw un o'ch darparwyr gwasanaethau eraill yn mynd i'r wal. 

Cyfrifon Ynni Busnes mewn dyled neu gredyd

Os ydych yn ad-dalu dyled i'ch hen gyflenwr 

Bydd angen i chi ad-dalu'r ddyled i'ch cyflenwr newydd os bydd yn trefnu i dderbyn dyledion cwsmeriaid o'ch cyn-gyflenwr.  

Ni fydd angen i chi ad-dalu'r ddyled i'ch cyflenwr newydd os nad yw'n gwneud y trefniant hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i ad-dalu eich cyn-gyflenwr neu ei weinyddwr. 

Bydd y cyflenwr newydd yn esbonio sut y bydd pethau'n gweithio ar ôl i ni ei benodi. 

Rwyf wedi cau fy nghyfrif yn ddiweddar. A fyddaf yn cael y credyd sy'n ddyledus i mi yn ôl? 

Ni chaiff balansau credyd cwsmeriaid busnes eu diogelu gan Rwyd Ddiogelwch Ofgem. Bydd Ofgem bob amser yn ceisio penodi cyflenwr newydd a fydd yn ystyried yr holl gredyd sy'n ddyledus gan y cyflenwr a fethodd, neu rywfaint ohono – ond nid oes gwarant o hyn.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi gysylltu â gweinyddwr eich cyn-gyflenwr ynghylch eich balans credyd. Dyma y byddech yn ei wneud hefyd pe byddai unrhyw un o'ch darparwyr gwasanaethau eraill yn mynd i'r wal. 

Pam nad yw Ofgem yn diogelu balansau cwsmeriaid busnes? 

Bydd Ofgem bob amser yn ceisio penodi cyflenwr newydd a fydd yn ystyried yr holl gredyd sy'n ddyledus gan y cyflenwr a fethodd, neu rywfaint ohono – ond nid oes gwarant o hyn.  

Nid yw'r rhwyd ddiogelwch yn cwmpasu balansau credyd cwsmeriaid busnes oherwydd gall cwsmeriaid busnes wneud cais i weinyddwyr cyflenwr ynghylch eu balansau credyd. Dyma y byddech yn ei wneud hefyd pe byddai unrhyw un o'ch darparwyr gwasanaethau eraill yn mynd i'r wal. 

Taliadau drwy ddebyd uniongyrchol

A ddylwn ganslo fy nebyd uniongyrchol?  

Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi'n fuan er mwyn esbonio sut y bydd yn derbyn eich cyfrif. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw ddebydau uniongyrchol. 

Neu, bydd eich cyflenwr presennol yn cysylltu â chi os bydd gweinyddwr wedi'i gymryd drosodd. Yn y sefyllfa hon bydd yn parhau i gyflenwi eich ynni a byddwch yn cael ei bilio fel arfer. 

Yn y naill achos neu'r llall, gallwch ganslo eich debyd uniongyrchol cyn cael cyswllt pellach, os hoffech wneud hynny. Byddwch yn gallu adfer eich debyd uniongyrchol, neu sefydlu un newydd gyda'r cyflenwr newydd yn ddiweddarach. 

Beth y dylwn ei wneud os wyf eisoes wedi canslo fy nebyd uniongyrchol? 

Os ydych eisoes wedi canslo eich debyd uniongyrchol, arhoswch i'ch cyflenwr newydd gysylltu â chi.  

Bydd yn eich helpu i drefnu cyfrif newydd ac yn gallu dweud wrthych beth fydd yn digwydd i unrhyw gredyd a all fod gennych.  

Cwynion

Os gwnaethoch gŵyn i'ch hen gyflenwr ac nad yw wedi'i datrys eto, codwch y mater eto gyda'r cyflenwr newydd ar ôl i ni ei ddewis. 

Bydd y cyflenwr newydd yn adolygu'r gŵyn i weld a yw'n berthnasol o hyd, gan eich bod wedi symud, neu os ellir ei chau. 

Dysgwch fwy am sut i wneud cwyn

Cymorth pellach

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau yng Nghymru a Lloegr.  

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs

  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.  

  • Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol  ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus. 

Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth.  

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu: 

I gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni, ewch i'n tudalen Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau.