Beth yw MyRHI?

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais RHI Domestig byddwch hefyd wedi sefydlu eich ardal aelod eich hun. Gelwir hyn yn MyRHI.

Drwy fewngofnodi i'r dudalen hon gallwch wirio statws eich cais (ceisiadau) a gweld a oes unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud (os na chawsoch eich derbyn ar y cynllun yn awtomatig).

Gallwch weld eich ceisiadau presennol, gwirio eich cynllun taliadau, llofnodi eich datganiadau blynyddol, cyflwyno darlleniadau mesurydd a diweddaru eich manylion personol. Mae gennym daflen gymorth er mwyn egluro sut mae MyRHI yn gweithio.

Mae'r system sy'n derbyn eich ceisiadau yn awtomatig, ond weithiau rydym angen mwy o wybodaeth gennych cyn allwn ddewis os yw eich cais yn dderbynniol. Os oes angen arolygi eich cais, mi fydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi o fewn pum dydd er mwyn esbonio pam. Yn ogystal mae rhai ceisiadau yn cael eu arolygi ar hap am rhesymau sicrhau ansawdd. Am fwy o wyboadaeth, fe allwch ddarllen ein Dogfen Cymorth: Beth i wneud os mae fy nghais yn cael ei arolygi.

A oes angen i mi wneud unrhyw beth unwaith rwyf ar y cynllun?

Pan fyddwch yn cofrestru ar y cynllun rydych hefyd yn cytuno i gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau parhaus. I bob pwrpas, eich cyfrifoldebau mewn cysylltiad â chi eich hun, eich eiddo a'ch system wresogi yw'r rhain.

Darllenwch ein gwe-dudalen Rhwymedigaethau parhaus i weld beth sy'n ofynnol ohonoch.

Rydym hefyd yn cynnal gwiriadau ar ffurf archwiliadau er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn cydymffurfio â rheolau'r cynllun. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ofynnol ohonoch os caiff eich system wresogi ei dewis, gweler ein gwe-dudalen 'Gwiriadau archwilio'.

Agor MyRHI

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf