Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i leihau eich biliau nwy a thrydan. Mae'n dangos ffyrdd o leihau eich defnydd o ynni, a ffyrdd o dalu llai am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Sut y gallaf ddefnyddio llai o ynni?
Cynnal gwiriad ynni cartref
Gall gwneud gwelliannau i'ch cartref fel inswleiddio gwell leihau eich biliau ynni.
I weld pa wahaniaeth y gallant ei wneud, dechreuwch drwy gynnal gwiriad ynni cartref. Am ragor o fanylion, gweler: hec.est.org.uk.
Ymchwiliwch i grantiau a budd-daliadau i'ch helpu i arbed ar gostau gwresogi ac inswleiddio eich cartref
Hefyd, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni a Home Energy Scotland. Gall y llinellau cymorth hyn roi cyngor ar fudd-daliadau, grantiau ar gyfer inswleiddio cartrefi, tariffau gostyngol ac opsiynau talu arbennig. Neu rhowch gynnig ar adnodd cyfrifo grantiau ynni'r llywodraeth.
- Y Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni ar 0300 123 1234 (ar gyfer Cymru a Lloegr)
- Home Energy Scotland ar 0808 808 2282 (ar gyfer yr Alban)
- Adnodd cyfrifo grantiau ynni GOV.UK
Ymchwiliwch i gynlluniau effeithlonrwydd ynni'r llywodraeth
Yna ymchwiliwch i fentrau'r llywodraeth a all eich helpu i dalu am welliannau i'r cartref:
- Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni a'r Fargen Werdd.
- Yng Nghymru, Nyth.
- Yn yr Alban, Home Energy Efficiency Programme Scotland (HEEPS).
- Ffoniwch 0300 123 1234 ar gyfer Cymru a Lloegr a 0808 8082282 ar gyfer yr Alban.
Sut i osgoi gwastraffu ynni
- Defnyddiwch amserydd ar eich system gwres canolog. Trefnwch i'r gwres a'r dŵr poeth ddod ymlaen pan fydd eu hangen yn unig.
- Os oes gennych danc dŵr poeth, gosodwch thermostat y tanc ar 60oC (140oF).
- Caewch eich llenni pan fydd yn nosi er mwyn atal y gwres rhag dianc drwy'r ffenestri. Sicrhewch nad oes drafftiau hefyd.
- Cofiwch ddiffodd goleuadau pan fyddwch chi'n gadael ystafell.
- Defnyddiwch fylbiau golau sy'n arbed ynni.
- Peidiwch â gadael teclynnau mewn modd segur na gadael gliniaduron na ffonau symudol yn y plwg gwefru yn ddiangen.
- Wrth ddefnyddio peiriant golchi llestri, golchi dillad neu sychu dillad, ceisiwch ei lenwi. Mae llwyth cyfan yn defnyddio llai o ynni na dau lwyth hanner llawn.
- Ceisiwch ferwi'r dŵr sydd ei angen arnoch yn unig.
- Trowch dapiau i ffwrdd yn iawn - mewn un wythnos yn unig, gall tap dŵr poeth sy'n diferu wastraffu digon o ddŵr poeth i lenwi hanner baddon.
- Sychwch eich dillad yn yr awyr agored pan fydd hi'n braf
Sut i dalu llai am y nwy a'r trydan a ddefnyddiwch
Gwnewch yn siŵr eich bod ar y tariff gorau
Eich cyflenwr
Siaradwch â'ch cyflenwr neu edrychwch ar ei wefan i weld pa dariffau sydd ar gael ganddo. Rhaid i'ch bil gynnwys gwybodaeth bersonol am dariff rhataf eich cyflenwr a faint y gallwch ei arbed. Bydd y bil hefyd yn rhoi costau amcangyfrifedig i chi ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cyflenwyr eraill
Defnyddiwch wefan cymharu prisiau i weld a all cyflenwr arall wneud cynnig gwell i chi.
- Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymharu prisiau ynni yn Cymharu tariffau nwy a thrydan: gwefannau cymharu a achredir gan Ofgem.
- Gweler hefyd Sut i newid cyflenwr ynni a siopa am gynnig gwell.
Holi a ydych yn gymwys i gael ad-daliad neu ostyngiad
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Mae rhai cyflenwyr ynni yn cynnig ad-daliad a chymorth i bobl o oedran pensiwn, pobl anabl, pobl â phroblemau iechyd difrifol neu sydd ar incwm isel.
Ffoniwch eich cyflenwr i weld a ydych yn gymwys, neu, i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Gallai hwn fod rhwng £100 a £300 er mwyn eich helpu i dalu eich biliau gwresogi os cawsoch eich geni ar 5 Ionawr 1952 neu cyn hynny. Y Taliad Tanwydd Gaeaf yw hwn. Fel rheol, byddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad yn y Dreth Gyngor na Budd-dal Plant). Os ydych yn gymwys ond nad ydych yn cael eich talu'n awtomatig, bydd angen i chi ei hawlio.
Holwch a ydych yn gymwys drwy ffonio'r llinell gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf ar 08459 151515.
Gostyngiadau dulliau talu
Gallech arbed arian ar eich biliau drwy ddewis newid o ddulliau rhagdalu, talu mewn arian parod neu drwy siec i ddebyd uniongyrchol misol neu chwarterol. Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr yn cynnig gostyngiad os byddwch yn dewis talu drwy ddebyd uniongyrchol, a gall eich helpu i osgoi colli taliadau.
- Darllenwch ein canllaw Debydau Uniongyrchol: Beth sydd angen i chi ei wybod
Help i leihau eich biliau nwy a thrydan
Os oes angen cyngor arnoch am eich biliau ynni, ewch i'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr:
- Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
- cysylltwch â nhw ar 03454 04 05 05 (Cymraeg) neu 03454 04 05 06 (Saesneg).
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.