Cymorth ac arweiniad gyda'ch biliau a'ch cyflenwr ynni

Ni yw'r rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr. Yma gallwch ddod o hyd i'n canllawiau ynghylch cyflenwadau nwy a thrydan yn y cartref. 

Rydym yn deall, yn yr hinsawdd sydd ohoni, bod defnyddwyr yn wynebu llawer o heriau gyda chostau byw a phrisiau ynni uchel. Rydym wedi rhoi cymorth ac arweiniad i chi ddeall pa help y mae gennych hawl iddo a sut i ymdopi yn y cyfnod heriol hwn.

Cadarnhau eich hawliau ynni. Cael cyngor os bydd angen help ychwanegol arnoch, os byddwch yn cael anawsterau â'ch cyflenwad ynni neu os byddwch am gwyno. Arbed arian a bod yn fwy gwyrdd o ran eich defnydd o ynni gyda'n hawgrymiadau ar newid cyflenwr, grantiau gan y llywodraeth, budd-daliadau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni.