Canllawiau i ddefnyddwyr ar fesuryddion rhagdalu

Mae'n cynnwys os oes gennych fesurydd rhagdalu, os byddwch yn newid cyflenwyr a mesuryddion rhagdalu ar gyfer ad-adalu dyledion.

Os bydd eich cyflenwr ynni yn ceisio eich symud i fesurydd rhagdalu

Mae'n rhaid i gyflenwyr ynni ddilyn ein rheolau cyn y gallant eich symud i fesurydd rhagdalu neu osod mesurydd o'r fath yn eich cartref. Darllenwch y rheolau y mae'n ofynnol iddynt eu dilyn am gosod mesurydd rhagdalu heb ganiatâd y cartref.

Os oes gennych fesurydd rhagdalu

Gall mesurydd rhagdalu, a elwir hefyd yn ‘fesurydd talu wrth ddefnyddio’ fod yn ffordd ddefnyddiol ac effeithiol o reoli cyllidebau a'r swm a gaiff ei wario ar nwy neu drydan.

Gellir hefyd ei ddefnyddio i gronni credyd yn ystod cyfnodau lle byddwch yn defnyddio llai o ynni, er enghraifft, yn ystod misoedd cynhesach y flwyddyn.

Os oes gennych fesurydd rhagdalu byddwch yn dal i dalu taliadau sefydlog. Bydd hefyd angen credyd ar eich mesurydd er mwyn sicrhau y bydd eich cyfarpar yn gweithio fel arfer os na fyddwch gartref.

Defnyddio mesurydd rhagdalu

Mae'n bwysig cael mynediad i'ch mesurydd bob amser. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ofyn i'ch cyflenwr ei symud. Mae'n anghyfreithlon symud mesurydd eich hun.

Gellir codi tâl arnoch am ei symud, ond mae am ddim os byddwch wedi cofrestru gyda'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Darllenwch ganllawiau Cyngor ar Bopeth ar sut i symud eich mesurydd nwy neu drydan neu os byddwch yn cael trafferth cyrraedd eich mesurydd rhagdalu neu ychwanegu credyd iddo.

Os na ellir symud eich mesurydd, dylai mesurydd arall gael ei osod a fydd yn eich galluogi i dalu am ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio. Bydd hyn yn gymwys os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu y byddai'n ddrwg i'ch iechyd pe byddai eich cyflenwad ynni'n cael ei dorri neu os yw'n anodd i chi ychwanegu credyd, neu ddeall neu ddefnyddio'r mesurydd.

Newid cyflenwyr a thariffau

Gallwch newid cyflenwyr os oes gennych fesurydd rhagdalu a bod gennych ddyled o lai na £500. Darllenwch sut y gallwch newid cyflenwr neu dariffau ynni.

Os na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd

Dylech gysylltu â'ch cyflenwr ar unwaith os na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd. Mae ein rheolau yn golygu bod yn rhaid iddo gynnig cymorth. Mae hyn yn cynnwys credyd cymorth ychwanegol os byddwch mewn sefyllfa fregus ac nad oes gennych lawer o opsiynau talu a chredyd cymorth ychwanegol wrth i chi weithio ffyrdd o dalu allan.

Bydd angen i chi ad-dalu'r credyd gan eich cyflenwr y tro nesaf y byddwch yn ychwanegu credyd.  Bydd yn rhaid i gyflenwyr gydweithio â chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio.

Gallwch ofyn am:

  • adolygiad o'ch taliadau a'ch ad-daliadau o ddyledion
  • seibiannau talu neu ostyngiadau
  • mwy o amser i chi dalu
  • arian o gronfeydd caledi
  • Cofrestriad Gwasanaeth â Blaenoriaeth – gwasanaeth cymorth am ddim os byddwch mewn sefyllfa fregus

Gallwch gael help os na allwch fforddio talu eich biliau. Gallwch hefyd gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth ar gael credyd dros dro, beth i'w wneud os byddwch yn rhedeg allan o gredyd, sgamiau a sut i siarad â chynghorydd ynni os na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu.

Mae Ofgem, Energy UK a Cyngor ar Bopeth wedi llunio canllawiau i gyflenwyr er mwyn helpu i wella'r ffordd maent yn cefnogi pobl mewn sefyllfaoedd bregus gan gynnwys dyled y gaeaf hwn. Dysgwch pa gyflenwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer yr Ymrwymiad Bregusrwydd ar gyfer Dyledion dros dymor y gaeaf 2023.

Mae llawer o gyflenwyr hefyd wedi cofrestru ar gyfer ymrwymiad bregusrwydd Energy UK. Mae hyn yn golygu na fyddant byth yn datgysylltu cyflenwad ynni eich cartref yn fwriadol:

  • os oes gennych blant o dan chwech oed sy'n aros gyda chi ar unrhyw adeg o'r flwyddyn
  • os oes gennych blant o dan 16 oed sy'n aros yn ystod y gaeaf (1 Hydref hyd at 31 Mawrth)
  • os na allwch ddiogelu eich lles chi neu les aelodau eraill o'ch cartref oherwydd eich oedran, eich iechyd, eich anabledd neu ansicrwydd ariannol difrifol

Cynllun Lle i Anadlu

Gallech gael cyfnod o hyd at 60 diwrnod gan gredydwyr i ganolbwyntio ar gael cyngor ar ddyled a sefydlu datrysiad dyled drwy wneud cais i'r Breathing Space, a elwir weithiau yn ‘Gynllun Seibiant o Ddyled’.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, caiff pob un o'r credydwyr eu hysbysu ac ni allant barhau ag unrhyw weithgaredd casglu neu orfodi. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rheolaidd os gallwch fforddio gwneud hynny.

Gofynnwch am gyngor ar ddyled a gwnewch gais am gynllun Breathing Space gyda'r Elusen Dyledion StepChange.

Os nad ydych yn hapus am wasanaeth eich cyflenwr neu os na all ddatrys y broblem, gallwch gwyno am eich cyflenwr.

Mesuryddion rhagdalu ar gyfer ad-dalu dyled

Rhaid i gyflenwyr gynnig ffyrdd gwahanol i chi dalu ôl-ddyledion, ac mae symud i fesurydd rhagdalu yn un opsiwn.

Dim ond os bydd yn ddiogel ac y gallwch gyrraedd y mesurydd rhagdalu a'i ddefnyddio y gall cyflenwr ei osod i chi.

Os bydd y ddyled yn cael ei had-dalu

Mae'n rhaid i gyflenwyr gysylltu â chi ar ôl i'r ddyled gael ei had-dalu ac asesu p'un ai mesurydd rhagdalu yw'r dull talu mwyaf addas a dewisol o hyd. Os byddwch yn penderfynu symud o fesurydd rhagdalu, rhaid i'r cyflenwr gytuno pan fyddwch yn pasio unrhyw archwiliadau credyd gofynnol.

Gosod mesurydd rhagdalu heb ganiatâd y cartref

Mae'r rheolau mewn trwyddedau nwy a thrydan yn nodi bod yn rhaid i gyflenwyr osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd y cartref mewn ffordd deg a chyfrifol, ac mai dim ond pan fetho popeth arall y dylid eu defnyddio.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio, cysylltwch â'ch cyflenwr ar unwaith. Dylech drafod eich amgylchiadau ag ef a dweud wrtho a oes pobl hŷn neu blant yn byw yn y cartref ac os oes ganddynt gyflyrau meddygol.

Y llynedd, gwnaethom ofyn a ellid oedi'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd y cartref er mwyn ad-dalu dyled. Roedd hyn oherwydd ein pryderon am ymddygiad cyflenwyr yn eu gosod mewn cartrefi. Mae rheolau newydd wedi dod i rym sydd wedi cael eu symud i'r trwyddedau nwy a thrydan safonol. Mae'n rhaid i bob cyflenwr ynni eu dilyn.

Rheolau y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn

Cyn y gellir gosod mesurydd rhagdalu'n anwirfoddol, rhaid i gyflenwyr wneud y canlynol:

  • ceisio cysylltu â chwsmer 10 gwaith o leiaf cyn y gellir gosod mesurydd rhagdalu
  • cynnal ymweliad lles â'r safle cyn gosod mesurydd rhagdalu
  • ymatal rhag gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol ar gyfer y cwsmeriaid sy'n wynebu'r risg uchaf gan gynnwys:
    • cartrefi y mae angen iddynt gael cyflenwad parhaus am resymau iechyd, gan gynnwys dibyniaeth ar gyfarpar meddygol wedi'i bweru.
    • cartrefi gyda deiliaid hŷn, 75 oed a throsodd (os nad oes unrhyw gymorth arall yn y cartref)
    • cartrefi gyda phlant dan 2 oed
    • cartrefi gyda phreswylwyr sydd â phroblemau iechyd difrifol gan gynnwys salwch terfynol neu'r rheini sydd â dibyniaeth feddygol ar gartref cynnes (er enghraifft oherwydd salwch fel emffysema, broncitis cronig neu glefyd y crymangelloedd)
    • lle nad oes gan unrhyw un yn y cartref y gallu i ychwanegu credyd at y mesurydd oherwydd analluedd corfforol neu feddyliol
  • asesu cwsmeriaid y gallant fod yn ei chael hi'n anodd talu eu bil ynni lle mae plant dan 5 oed yn byw yn y cartref, neu lle mae gan bobl sy'n byw yn y cartref:
    • gyflyrau meddygol neu iechyd difrifol eraill, er enghraifft clefydau niwrolegol  fel clefyd Parkinson, clefyd Huntingdon neu barlys yr ymennydd, problemau maeth fel camfaethiad a chyflyrau sy'n cyfyngu ar symudedd fel osteoporosis, nychdod cyhyrol neu sglerosis ymledol
    • cyflyrau iechyd meddwl difrifol neu ddatblygol difrifol, er enghraifft iselder clinigol, clefyd Alzheimer, dementia, anableddau ac anawsterau dysgu neu sgitsoffrenia
    • sefyllfaoedd dros dro, fel beichiogrwydd neu brofedigaeth
  • rhaid i gynrychiolydd y cyflenwr arweiniol sy'n bresennol ym mhob gosodiad gwarant neu ymweliad lles â'r safle wisgo cyfarpar sain neu gamerâu corff i weld a oes meysydd bregus cyn gosod mesurydd rhagdalu neu switsh rheoli o bell anwirfoddol. Bydd pob deunydd sain a fideo ar gael i'w archwilio
  • rhoi credyd o £30 fesul mesurydd (neu gyfnod cyfatebol heb gysylltiad) ar bob gosodiad gwarant a switsh o bell fel credyd neu fesur byrdymor i ddileu'r risg y bydd cwsmeriaid heb gyflenwad ar adeg gosod y mesurydd rhagdalu
  • ailasesu'r achos unwaith y bydd cwsmer wedi ad-dalu dyledion sy'n ddyledus. Rhaid i gyflenwyr gysylltu â'r cwsmer i gynnig asesiad o b'un ai mesurydd rhagdalu yw'r dull talu mwyaf addas a dewisol i ddefnyddwyr o hyd; os bydd unrhyw gwsmer sydd â mesurydd rhagdalu wedi clirio ei ddyled ac am symud oddi ar ei fesurydd rhagdalu (gan ddeall unrhyw newidiadau yn y tariff y bydd yn ei dalu), rhaid i'r cyflenwr gytuno pan fydd y cwsmer yn pasio unrhyw archwiliadau credyd gofynnol

Rhaid i gyflenwyr wneud rhai pethau penodol cyn y gallant osod mesurydd rhagdalu i adennill arian sy'n ddyledus iddynt heb ganiatâd y cartref. Dim ond os bydd mesuryddion rhagdalu wedi'u harchwilio ac y cadarnhawyd eu bod yn bodloni'r holl ofynion yn y rheolau y gallant eu gosod. Gwiriwch pa gyflenwyr ynni a all osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd y cartref.

Gall cyflenwr newid eich mesurydd drwy gael gwarant neu drwy newid eich mesurydd deallus o bell. Dim ond ar ôl cymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun talu â chi y gall wneud hyn. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid gwneud hyn er mwyn osgoi datgysylltu eich cyflenwad.

Gall gwarant gostio hyd at £150 a gellir ei ychwanegu at y ddyled bresennol. Ni fydd yn rhaid i bobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus penodol dalu'r gost hon.

Rhaid i gyflenwr osod mesurydd deallus wrth osod mesurydd rhagdalu. Dim ond os bydd rhesymau technegol y bydd yn gosod mesurydd traddodiadol. Darllenwch am gael mesurydd deallus.