Cysylltu â chyflenwad nwy neu drydan

Sut i gysylltu eich cartref neu fusnes bach â chyflenwad ynni, neu newid cysylltiad.

  1. Trefnu i gael cysylltiad nwy neu drydan

     

    Cysylltwch â'ch cwmni rhwydwaith lleol i gael eich cysylltu â'r prif bibellau.

    Gweithredwyr rhwydwaith sy'n berchen ar y pibellau nwy a'r ceblau pŵer sy'n cludo ynni i gartrefi a busnesau ac yn eu rhedeg. Gallwch ddefnyddio darparwr cysylltiadau annibynnol ar gyfer rhai cysylltiadau hefyd.

    Gall peiriannydd nwy neu drydanwr cofrestredig wneud rhywfaint o'r gwaith cysylltu (a elwir yn ‘waith sy'n destun cystadleuaeth’). Gall hyn helpu i leihau costau, felly mae'n werth gofyn am ddyfynbrisiau i rannu gwaith cysylltu yn gostau sy'n destun cystadleuaeth a chostau nad ydynt yn destun cystadleuaeth. Efallai y bydd angen i gwmnïau rhwydwaith gytuno ar y gwaith hwn neu ei arolygu.

    Bydd angen i chi ddewis cyflenwr ynni er mwyn cael gosod mesurydd. Y cyflenwr hwn fydd hefyd yn eich bilio am eich defnydd.

    Trefnwch hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn trefnu eich cysylltiad â'r gweithredwr rhwydwaith er mwyn osgoi oedi yn y broses. 

    Pryd y gallai fod angen cysylltiad arnoch

    • Wrth adeiladu eiddo neu safle busnes newydd
    • Wrth osod cynhyrchydd ynni ar y safle – lle gallech gynhyrchu eich gwres neu eich pŵer eich hun
    • Wrth symud i eiddo newydd lle nad yw'r nwy neu'r trydan yn gweithio
    • Os byddwch am symud mesurydd ynni.
  2. Costau cysylltu

    Bydd y cwmni rhwydwaith yn rhoi dyfynbris ar gyfer cost y gwaith i gysylltu eich cartref neu fusnes. 

    Fwy na thebyg y bydd angen i chi dalu am y cysylltiad ymlaen llaw. 

    Bydd eich dyfynbris yn dibynnu ar y canlynol:

    • faint o waith y mae'n rhaid iddo ei wneud a faint o amser y bydd yn ei gymryd
    • eich lleoliad
    • faint o ynni y bydd angen ei gyflenwi i'r eiddo.

    Caiff costau eu cyfrifo gan ddefnyddio ‘methodoleg codi tâl am gysylltu’. Gallwch ei gweld ar wefan eich gweithredwr rhwydwaith. 

    Ofgem sy'n cymeradwyo'r fethodoleg. Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw daliadau unigol.

  3. Yr hyn y mae'n rhaid i'ch gweithredwr rhwydwaith ei wneud

     

    • Rhoi telerau i chi ar gyfer cysylltiad ynni o fewn tri mis. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd y mae'n cyfrifo'r tâl cysylltu.
    • Rhoi gwybodaeth dryloyw i chi er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi gysylltu â'r prif bibellau a gwybod am ei broses gwyno. Er enghraifft, canllaw ar y broses gysylltu.
    • Eich digolledu os na fydd yn cyrraedd safonau perfformiad gwarantedig.
  4. Newid cysylltiad nwy neu drydan

    Os ydych am newid cysylltiad â'r prif bibellau, dylech gysylltu â'ch gweithredwr rhwydwaith yn gyntaf.

    Os ydych am symud eich mesurydd ynni. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr ynni.

    Mae'n anghyfreithlon symud eich mesurydd ynni eich hun.

Cymorth pellach

Os byddwch yn cael anawsterau â gweithredwr rhwydwaith neu os na allwch ddatrys mater, gwnewch gŵyn.

Gall Cyngor ar Bopeth helpu os bydd cysylltiad wedi'i wrthod i chi neu os byddwch yn cael trafferth trefnu un:

Gall Ofgem hefyd ddatrys anghydfodau â gweithredwyr rhwydwaith mewn rhai sefyllfaoedd. Gweler ein Canllaw ar benderfyniadau.

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:

Gall Ofgem hefyd ddatrys anghydfodau â gweithredwyr rhwydwaith mewn rhai sefyllfaoedd. Gweler ein Canllaw ar benderfyniadau.