Egluro mesuryddion rhagdalu

Eich hawliau ar fesuryddion rhagdalu ac a ydych yn wynebu risg o gael eich datgysylltu.

Cymorth ar gyfer mesuryddion rhagdalu

Ni fydd cyflenwyr ynni yn datgysylltu eich nwy neu drydan os byddwch yn colli taliad nes bydd eich cyflenwr wedi ceisio dod o hyd i ffyrdd i chi ad-dalu'r arian hwnnw. Mae ein rheolau yn golygu bod yn rhaid i gyflenwyr gynnig cynlluniau talu y gallwch eu fforddio.  

Ffoniwch eich cyflenwr os ydych yn poeni. Mae'r rhan fwyaf wedi ymrwymo i Ymrwymiadau Bregusrwydd a luniwyd ar y cyd ag Ofgem a chorff masnach y diwydiant Energy UK i helpu cartrefi sydd mewn sefyllfa fregus.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig arweiniad ar beth i'w ddisgwyl os bydd eich cyflenwr yn gosod mesurydd rhagdalu.

Cael help os na allwch fforddio eich biliau

Cael help os na allwch fforddio talu eich biliau

Anhawster yn ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu

Os ydych yn poeni na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu, cysylltwch â'ch cyflenwr ar unwaith. 

Mae ein rheolau yn golygu bod yn rhaid i gyflenwyr gynnig cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys:

  • credyd brys os bydd eich mesurydd yn rhedeg yn isel neu'n rhedeg allan
  • credyd ‘oriau cyfeillgar’ os bydd y mannau ychwanegu credyd wedi cau a bod eich mesurydd yn rhedeg yn isel. Gallwch fanteisio ar hwn dros nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc
  • credyd cymorth ychwanegol os byddwch mewn sefyllfa fregus ac nad oes gennych lawer o opsiynau talu
  • credyd cymorth ychwanegol wrth i chi weithio allan ffyrdd o dalu os byddwch mewn sefyllfa fregus. Er enghraifft, os na allwch adael eich cartref oherwydd y pandemig.

Bydd angen i chi ad-dalu'r credyd gan eich cyflenwr y tro nesaf y byddwch yn ychwanegu credyd. Gallwch ofyn i gytuno ar y trefniadau hyn mewn cynllun talu.

Bydd yn rhaid i gyflenwyr gydweithio â chi i gytuno ar gynlluniau talu y gallwch eu fforddio. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun rydych wedi cytuno arno o'r blaen.

Gallwch ofyn am:

  • adolygiad o'ch taliadau a'ch ad-daliadau o ddyledion
  • seibiannau talu neu ostyngiadau 
  • mwy o amser i chi dalu
  • arian o gronfeydd caledi
  • Cofrestriad Gwasanaeth â Blaenoriaeth – gwasanaeth cymorth am ddim os ydych mewn sefyllfa fregus.

Anhawster o ran cyrraedd eich mesurydd rhagdalu

Mae'n rhaid i'ch cyflenwr sicrhau y gallwch gyrraedd eich mesurydd. Mae'n anghyfreithlon symud mesurydd eich hun. 

Rhaid iddo geisio ei symud os byddwch yn cael anhawster i'w gyrraedd. Mae hyn am ddim fel arfer, ond bydd yn dibynnu ar eich sefyllfa. Mae am ddim os ydych ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth.   

Os na ellir symud eich mesurydd, rhaid gosod mesurydd deallus neu fesurydd traddodiadol yn ei le sy'n gadael i chi dalu ar ôl i chi ddefnyddio'r ynni. Bydd hyn yn gymwys os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu ei bod:

  • yn ddrwg i'ch iechyd os gallai eich cyflenwad ynni gael ei dorri
  • yn anodd i chi ychwanegu credyd, neu ddeall neu ddefnyddio'r mesurydd.

Mesuryddion rhagdalu i ad-dalu dyled

Rhaid i gyflenwyr gynnig amrywiaeth o ffyrdd o ad-dalu dyled. Un opsiwn posibl yw drwy fesurydd rhagdalu.

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gallant osod mesurydd rhagdalu ar gyfer dyled:

  • os yw'n ddiogel, yn ymarferol ac yn hawdd i chi ei ddefnyddio a'i gyrraedd 
  • drwy warant llys mewn perthynas â defnydd ynni parhaus ac ad-dalu dyled. Dim ond ar ôl i gyflenwr gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun talu â chi y gall osod mesurydd rhagdalu drwy orfodaeth. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid gwneud hyn er mwyn osgoi datgysylltu eich cyflenwad.

Ni all cyflenwyr osod mesurydd rhagdalu drwy orfodaeth dan warant ar gyfer pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus iawn os na fyddant am gael un, na chodi tâl am gostau gwarant ar ddyledion. Ac ni allant ddefnyddio gwarantau ar bobl y byddai'r profiad yn drawmatig iawn iddynt. 

Ceir cap o £150 i bawb arall ar daliadau gwarant ar ddyledion. 

Cynllun Lle i Anadlu

Cynllun am ddim gan y llywodraeth yw Lle i Anadlu (a elwir weithiau'n Gynllun Seibiant Dyledion), a allai gadw credydwyr draw am hyd at 60 diwrnod er mwyn i chi ganolbwyntio ar gael cyngor ar ddyledion a threfnu ffordd o'u talu.

Os byddwch yn gwneud cais a'ch bod yn gymwys, hysbysir pob un o'r credydwyr a rhaid iddynt roi'r gorau i unrhyw weithgarwch casglu neu orfodi. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rheolaidd os gallwch fforddio gwneud hynny.

Gall StepChange eich helpu i wneud cais

Os byddwch yn cael gwybod y gallech gael eich datgysylltu oherwydd dyled

Rhaid i gyflenwyr gymryd pob cam rhesymol i osgoi datgysylltu cyflenwad ynni oherwydd dyled. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid gwneud hyn a dylid ei osgoi lle bynnag y bo modd. Mae rheolau caeth yn gymwys.

Ni all cyflenwyr eich datgysylltu:

  • os ydych mewn dyled i gyflenwr blaenorol
  • os ydych yn fethdalwr ac mae'r ddyled ar gyfer y cyfnod cyn i chi fynd yn fethdalwr
  • os oes arnoch ddyled am wasanaeth neu gyfarpar gan gyflenwr, ac nid am eich defnydd o nwy neu drydan.

Yn y gaeaf (1 Hydref – 31 Mawrth), rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i osgoi eich datgysylltu:

  • os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
  • os ydych yn anabl
  • os oes gennych salwch cronig.

Ni allant ddatgysylltu eich cyflenwad yn y gaeaf os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth a'ch bod naill ai:

  • yn byw ar eich pen eich hun 
  • yn byw gyda phlant dan 18 oed.

Mae llawer o gyflenwyr wedi llofnodi ymrwymiad bregusrwydd. Mae hyn yn addo na fyddant byth yn eich datgysylltu'n fwriadol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn: 

  • os oes gennych blant dan chwech oed
  • os oes gennych blant dan 16 oed yn y gaeaf (1 Hydref – 31 Mawrth)
  • os na allwch ddiogelu eich lles chi neu les aelodau eraill o'ch cartref oherwydd eich oedran, eich iechyd, eich anabledd neu ansicrwydd ariannol difrifol.

Os byddwch yn colli cyflenwad oherwydd problem rhwydwaith (fel toriad yn y pŵer) neu waith wedi'i gynllunio ar y grid, darllenwch ein cyngor ar doriad yn y pŵer a phroblemau â'r cyflenwad.

Cymorth pellach

Os nad ydych yn fodlon ar ymateb eich cyflenwr i anhawster â mesurydd rhagdalu, gwnewch gwyn. 

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os nad ydych yn siŵr beth yw'ch opsiynau a bod angen mwy o gymorth arnoch chi. Os ydych mewn sefyllfa fregus, gallai rhywun yn yr Uned Cymorth Ychwanegol  ddelio â'ch achos. 

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu: