Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr er mwyn gwella ansawdd, cwmpas ac amlygrwydd eu data am gwynion defnyddwyr domestig.
Beth mae'n rhaid i gyflenwyr ei wneud?
Mae'n ofynnol i gyflenwyr gyhoeddi data ar eu cwynion domestig ar eu gwefannau yn chwarterol. Mae'n rhaid iddynt hefyd gyhoeddi eu '5 rheswm pennaf' am gwynion a'r camau y maent yn eu cymryd i wella'r ffordd maen nhw'n trafod cwynion cwsmeriaid.
Mae'r chwe chyflenwr mwyaf wedi cyhoeddi eu data ar gwynion domestig chwarterol ers 1 Hydref 2012, ac mae cyflenwyr llai wedi gwneud ers 1 Ebrill 2013.
Perfformiad mwy clir wrth ymdrin â chwynion
Mae Ofgem, Cyngor ar Bopeth a'r Ombwdsman yn cyhoeddi ystadegau cwynion. Mae'r ystadegau unigol yn dangos faint o gwynion mae cyflenwyr yn eu cael, faint y mae Cyngor ar Bopeth yn ymdrin â nhw, wedi'i bwysoli gan ddifrifwch y gŵyn, a faint sy'n cael eu hanfon at yr Ombwdsman wedi i'r cyflenwr fethu ymdrin â nhw. Mae hyn yn helpu i ddangos darlun llawn o gŵyn y cwsmer o'r dechrau i'r diwedd.
Yn ogystal â hyn, rydym wedi cyflwyno fformat cyffredinol sy'n orfodol ei ddefnyddio i gyflwyno gwybodaeth am gwynion.
Drwy'r graffiau isod, gallwch weld perfformiad cyflenwyr wrth ymdrin â chwynion defnyddwyr ar gyfer y chwe chyflenwr mawr ar gyfer pob chwarter ers 2013 ac ar gyfer y chwe chyflenwr annibynnol mwyaf ers 2014. Mae'r data ar gwynion wedi eu darparu gan bob cyflenwr. Nid Ofgem sydd wedi archwilio'r ffigurau. Rydym wedi ymchwilio i Scottish Power ac npower am dorri amodau Rheoliadau Safonau Trin Cwynion 2008.
I weld yr holl ffigurau a gyhoeddwyd gan gyflenwyr, ewch i'w gwefannau drwy'r ddefnyddio'r dolenni isod.
Cyflenwyr mwyaf
Cyflenwyr Annibynnol
Data ar gwynion wedi eu cyhoeddi gan gyflenwyr
Er mwyn gweld y wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi gan gyflenwyr, dewiswch o'r dolenni allanol canlynol:
- data ar gwynion British Gas
- data ar gwynion EDF Energy
- data ar gwynion E.ON Energy
- data ar gwynion npower
- data ar gwynion Scottish Power
- data ar gwynion SEE
- Utility Warehouse - Adroddiadau ar ymdrin â chwynion
- isupply energy - Adroddiad Blynyddol ar Gwynion
- Green energy UK - Cwynion
- Ecotricity - Data ar gwynion
- Loco2energy - Cwynion
- Sparkenergy - Perfformiad o ran cwynion
- Good Energy – Perfformiad o ran cwynion
- First Utility - Bodloni'ch disgwyliadau
- Utilita - Perfformiad o ran cwynion
- Flowenergy - Adrodd o ran cwynion
- Cooperative energy - Gwneud cwyn
- Yorkshire Gas & Power - data Cwynion
- Ovo Energy - Perfformiad o ran cwynion
- Green Star Energy - Cwynion cwsmeriaid
- Economy Energy - Perfformiad o ran cwynion
- Extra Energy - Perfformiad o ran cwynion
- Better Energy - Perfformiad o ran cwynion
- Zog Energy - Perfformiad o ran cwynion