Cwyno am Ofgem

Cwynion am gyflenwyr ynni

I gael help a chyngor ar sut i gwyno am eich bil ynni neu eich cyflenwr, cliciwch ar y botwm isod. 

Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn darparu gwasanaeth llinell gymorth ddiduedd yn rhad ac am ddim sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion ar 0808 223 1133.

 

Gweld ein canllaw

Gwneud cwyn

Mae'r wybodaeth isod yn esbonio sut i roi gwybod i Ofgem os oes gennych gŵyn am y ffordd rydym wedi gwneud rhywbeth neu os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Mae hefyd yn esbonio sut y byddwn yn delio â'ch cwyn.

Pryd i ddweud wrthym am eich cwyn

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn gwneud rhywbeth neu os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn geisio unioni pethau. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella ein gwasanaethau ar gyfer eraill.

Gellir gwneud cwynion am safon y gwasanaeth rydym wedi'i ddarparu, sut rydym wedi perfformio, sut rydym yn gweithredu neu'r ffordd rydym wedi dod i benderfyniad. Ein nod yw datrys cwynion yn brydlon ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth i sicrhau ein bod yn cyfeirio eich cwyn at faes cywir y busnes.

Ein nod yw datrys pob cwyn y tro cyntaf. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn am adolygiad gan uwch-reolwr.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni er mwyn ein helpu i ddeall eich cwyn ac ymchwilio iddi. Amlinellwch:

  • Beth sydd o'i le yn eich barn chi
  • Pryd ddigwyddodd hyn
  • Pwy wnaethoch chi ddelio ag ef
  • Sut yr hoffech i ni ddatrys y mater
  • Eich manylion cyswllt a ffafrir ar gyfer cysylltu â chi – e-bost, ffôn neu gyfeiriad post.

Beth y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn ceisio datrys unrhyw gŵyn yn gyflym ac yn esbonio beth rydym wedi'i wneud a pham. Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cwyn i ni a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.

Llinell amser

Beth sy'n digwydd

O fewn 2 ddiwrnod gwaith

Byddwn yn cydnabod eich cwyn.

O fewn 20 diwrnod gwaith

Byddwn yn ymchwilio ac yn ysgrifennu atoch gyda'n hymateb.

Os nad yw'n bosibl delio â'ch cwyn o fewn y cyfnod hwn, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y mater o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith.

Anfodlon ar yr ymateb

Os ydych yn credu bod ein hymateb yn anfoddhaol, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom neu ysgrifennu i'r cyfeiriad isod. 

Byddwn yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith o'r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod i ni.

Mynd â'r mater ymhellach

Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl hyn, gallwch gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i gael adolygiad annibynnol.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Mae'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) yn gorff annibynnol sy'n gallu camu i mewn os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb. Mae ganddo'r pwerau i ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus.

I wneud cwyn i'r PHSO, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at eich AS yn gyntaf. Gofynnwch iddo/iddi gyfeirio'r gŵyn at yr Ombwdsmon. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich AS, gweler Cysylltu â'ch AS.

 

E-bostiwch ni i wneud cwyn

Cwynion am y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (RHI)

Ar gyfer cwynion am gynlluniau'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy, gallwch ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost isod:

Neu ysgrifennwch at: Ofgem Complaint, Commonwealth House, 32 Albion Street, Glasgow, G1 1LH. 

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall (er enghraifft, perthynas, ffrind neu gynghorydd proffesiynol fel Cyngor ar Bopeth) gwyno ar eich rhan.

Delio ag ymddygiad afresymol

Rydym yn deall y gallwch deimlo'n rhwystredig neu wedi cynhyrfu, ond gall ymddygiad afresymol ei gwneud yn anodd i ni eich helpu. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Gwrthod darparu manylion cwyn
  • Gwadu neu newid datganiadau a wnaed yn gynharach
  • Defnyddio iaith sarhaus neu fygythiol
  • Mynnu cael ymatebion o fewn amserlen afresymol
  • Gormod o alwadau ffôn, negeseuon e-bost neu lythyrau manwl ar ôl i'r wybodaeth ddiweddaraf gael ei rhoi
  • Newid sylwedd cwyn dro ar ôl tro
  • Methu derbyn na allwn gynorthwyo ymhellach
  • Ceisiadau am wybodaeth y mae'r cwsmer eisoes wedi'i gweld neu ailagor mater sydd eisoes wedi cael ei ystyried.

Ymateb i ymddygiad afresymol

  • Bydd Ofgem yn rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau difrifol
  • Efallai y byddwn yn cysylltu i esbonio'r hyn rydym yn ei ystyried yn afresymol. Lle y bo angen, byddwn yn ysgrifennu at y cwsmer i ddweud pa gamau rydym yn eu cymryd a pham
  • Byddwn yn dod â galwadau ffôn i ben os bydd iaith neu ymddygiad yr unigolyn yn annerbyniol. Mae gan bob aelod o staff yr hawl i wneud y penderfyniad hwn
  • Caiff galwadau i'n Tîm Ymholiadau eu recordio. Rydym yn cadw unrhyw dystiolaeth o ymddygiad afresymol ar ffeiliau cwsmeriaid.

Apelio penderfyniad i gyfyngu ar gysylltiad

Efallai y bydd Ofgem yn dewis cyfyngu ar gysylltiad yn dilyn ymddygiad afresymol. Byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod pa gyfyngiadau sydd ar waith. Mae gan gwsmer yr hawl i apelio yn erbyn y cyfyngiadau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Bydd uwch-aelod o'r staff nad oedd yn rhan o'r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl a bydd yn rhoi gwybod am ei benderfyniad. 

Os yw cwsmer yn dal i fod yn anfodlon ar benderfyniad yr apêl, y cam nesaf yw cysylltu â'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.