Er mwyn gwneud cais am RHI Domestig, mae angen i'ch system gwresogi adnewyddadwy fod yn un o'r pedwar o fathau o dechnoleg sy'n gymwys ar gyfer y cynllun. Mae'n rhaid iddo hefyd fodloni gofynion technegol penodol a darparu gwres ar gyfer defnydd a ganiateir.
Pa dechnolegau adnewyddadwy sy'n gymwys?
Ceir pedwar math o dechnoleg adnewyddadwy cymwys. Mae'r rhain fel a ganlyn:
- boeleri biomas yn unig, a ffyrnau peledi biomas
- pympiau gwres o'r aer
- pympiau gwres o'r ddaear
- plât gwastad a phaneli solar thermol tiwb gwacáu
Gwirio eich cynnyrch
Yn ogystal â bod yn un o'r pedwar math o dechnoleg cymwys, dylech wirio bod math a model eich cynnyrch yn ymddangos ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys (PEL).
Cynhyrchion sydd 'i'w penderfynu' ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys:
Os yw eich system wresogi o dan y pennawd 'i'w benderfynu' ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys, golyga hyn nad ydym eto wedi derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom gan wneuthurwyr y cynnyrch. Gweler ein tudalen cyhoeddiadau Rhestr o Gynnyrch Cymwys am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
Gwirio'r defnydd o'r gwres
Fe welwch o'r tabl isod bod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir defnyddio'r gwres a gynhyrchir ar ei gyfer.
Biomass boiler
Gofynion cymhwysedd | Defnydd cymwys | Defnydd anghymwys |
---|---|---|
Rhaid iddo ddefnyddio hylif ar gyfer gwresogi gofod (ee ystafell) |
Gwresogi gofod (ee ystafell), neu wresogi gofod a dŵr poeth ar gyfer eiddo domestig |
Wedi'i ddylunio i gynhyrchu gwres i goginio bwyd |
Rhaid ei ddylunio a'i osod ar gyfer defnyddio tanwydd biomas solet. |
Nid oes rhaid i systemau biomas wresogi dŵr i fod yn gymwys ond gallant wneud hynny | |
Rhaid iddo gydymffurfio â gofynion Air qualityopen key term pop-up |
Biomass stove
Gofynion cymhwysedd | Defnydd cymwys | Defnydd anghymwys |
---|---|---|
Rhaid ei chynllunio a'i gosod i'w defnyddio gyda pheledi coed. (Nid yw ffwrn sy'n llosgi coed yn gymwys). | Gwresogi gofod (ee ystafell), neu wresogi gofod a dŵr poeth ar gyfer eiddo domestig | Wedi'i dylunio'n bennaf ar gyfer cynhyrchu gwres i goginio bwyd. Am ragor o wybodaeth ewch i cooker stovesopen key term pop-up |
Rhaid iddi ddefnyddio cyfnewidydd gwres wedi'i lenwi â hylif, sydd wedi'i amgau yn y system. |
Nid oes rhaid i systemau biomas wresogi dŵr i fod yn gymwys ond gallant wneud hynny | |
Rhaid iddi gydymffurfio â gofynion ansawdd aer |
Air source heat pump
Gofynion cymhwysedd | Defnydd cymwys | Defnydd anghymwys |
---|---|---|
Rhaid iddo ddefnyddio cywasgydd sy'n defnyddio trydan. | Gwresogi gofod (ee ystafell), neu wresogi gofod a dŵr poeth ar gyfer eiddo domestig | Wedi'i dylunio ar gyfer defnyddio gwres o'r aer a allyrrir o gyfarpar neu adeilad wrth gynhyrchu gwres |
Rhaid iddo ddefnyddio hylif ar gyfer gwresogi gofod (ee ystafell) |
Nid oes rhaid i bympiau gwres o'r aer wresogi dŵr i fod yn gymwys ond gallant wneud hynny | Pwmp gwres o'r aer gyda ffactor perfformiad tymhorol sy'n is na 2.5 |
Rhaid iddo gael isafswm 'ffactor perfformiad tymhorol' (SPF) o 2.5 |
Ground source heat pump
Gofynion cymhwysedd | Defnydd cymwys | Defnydd anghymwys |
---|---|---|
Rhaid iddo ddefnyddio cywasgydd sy'n defnyddio trydan | Gwresogi gofod (ee ystafell), neu wresogi gofod a dŵr poeth ar gyfer eiddo domestig | Bod â rhes dolen ddaear a rennir â phympiau gwres mewn eiddo cymwys eraill |
Rhaid iddo ddefnyddio hylif ar gyfer gwresogi gofod (ee ystafell) |
Nid oes rhaid i bympiau gwres o'r ddaear wresogi dŵr i fod yn gymwys ond gallant wneud hynny | |
Rhaid iddo gael ffactor perfformiad tymhorol o 2.5 o leiaf |
Solar thermal
Gofynion cymhwysedd | Defnydd cymwys | Defnydd anghymwys |
---|---|---|
Plât gwastad neu diwb gwacáu yn unig | Gwresogi dŵr poeth ar gyfer eiddo domestig yn unig |
Gwresogi gofod (ee ystafell) neu wresogi pwll nofio (ystyrir bod pwmp gwresogi mewnol, ee rheilien tywel yn wresogi gofod). |
Storfeydd thermol sy'n cyfrannu at wresogi gofod. | ||
Unrhyw ddefnydd nad yw'n gwresogi dŵr poeth domestig | ||
Cynhyrchu trydan |
Noder, mae'n rhaid i wresogi gofod gael ei gynhyrchu drwy gyfrwng hylif, fel rheiddiadur. Gwresogi dŵr poeth at ddibenion domestig yn unig.
I gael rhagor o wybodaeth am y math o system wresogi, darllenwch Adran 3, 'Gofynion ar gyfer systemau gwresogi' yn ein Canllaw Hanfodol i Ymgeiswyr.
Camau Nesaf
Am fwy o wybodaeth, gwelwch: