Llyfryn Ynni Y Fargen Orau 2013-14

Correspondence and other
Dyddiad cyhoeddi
Sector diwydiant
Supply and Retail Market

Mae rhaglen Ynni – Y Fargen Orau yn anelu at hysbysu defnyddwyr ynni domestig am ffyrdd newydd o leihau eu costau ynni: drwy newid tariff, dull o dalu a/neu gyflenwr, ymgymryd â mesurau effeithlonrwydd ynni a darparu cyngor ar ddyled. Mae'r rhaglen hon, a gaiff ei rhedeg gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr a Chanolfan Cyngor ar Bopeth yn yr Alban, yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr ynni domestig a gweithwyr rheng flaen (cyflogedig a gwirfoddol) fynychu sesiwn wybodaeth ar sut i gael gwell bargen ar eu biliau ynni.

Llyfryn Ynni Y Fargen Orau 2013-14 yw'r prif adnodd cynghori ar gyfer cynghorwyr a defnyddwyr yn ystod ymgyrch Ynni - Y Fargen Orau 2013-14. Mae'n esbonio:

  • Sut i leihau eich costau ynni drwy newid tariff, dull o dalu neu gyflenwr
  • Ble i fynd i gael help os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni

Sut i arbed arian a defnyddio llai o ynni yn y cartref