Polisi preifatrwydd Ofgem

Addewid preifatrwydd Ofgem

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif.

Mae ein haddewid preifatrwydd yn berthnasol i'r ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth, ac mae'n golygu bod gennych reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd iddi. Mae'n seiliedig ar dri phrif faes:

Tryloywder

Os byddwn yn gofyn am eich gwybodaeth, byddwn:

  • yn sicrhau eich bod yn gwybod pam mae ei hangen arnom
  • dim ond yn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom
  • yn ei chadw'n ddiogel
  • yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rhannu ag eraill
  • dim ond yn ei chadw cyhyd ag y bydd ei hangen arnom
  • yn sicrhau nad yw ar gael at ddibenion masnachol (marchnata) heb gael caniatâd gennych. 

Dewis

Rydym yn parchu eich hawl i wneud penderfyniadau hyddysg ynglŷn â'ch gwybodaeth. Mae prosesu gwybodaeth yn deg yn golygu bod gennych reolaeth dros y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Mae rhagor o wybodaeth am y ffyrdd y gallwn eich helpu i wneud hyn isod.

Ymddiriedaeth

Dim ond er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir i chi, cyfathrebu â chi a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel y rheoleiddiwr ynni y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth. 

Yn gyfnewid am hynny, gofynnwn i chi roi gwybodaeth gywir i ni a dweud wrthym os bydd unrhyw newidiadau fel cyfeiriad newydd. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddibynadwy ac yn gyfredol.

Polisi preifatrwydd Ofgem

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys i wybodaeth a gasglwn am y canlynol: 

  • ymwelwyr i'n gwefan neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
  • pobl sy'n ymgysylltu ag unrhyw hysbysebion ar-lein gennym ni (fel drwy Google neu LinkedIn)
  • pobl sy'n ymgysylltu ag Ofgem fel rhan o'r broses o gyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr ac fel awdurdod cymwys o ran Diogelwch Rhwydweithiau a Gwybodaeth yn y marchnadoedd ynni
  • pobl sy'n gwneud ymholiadau ynghylch unrhyw gynlluniau amgylcheddol a weinyddir gan Ofgem ac sy'n gwneud ceisiadau ar gyfer y cynlluniau hynny
  • pobl sy'n tanysgrifio i'n gwasanaethau ar-lein e.e. ein ffrydiau RSS, e-gylchlythyrau, sianeli cyfryngau cymdeithasol, hysbysiadau e-bost neu sy'n gofyn am gyhoeddiad gennym
  • pobl sy'n e-bostio Ofgem
  • pobl sy'n cysylltu â ni mewn perthynas â cheisiadau am wybodaeth, cwynion ac ymholiadau cyffredinol
  • ymgeiswyr am swyddi a'n cyflogeion presennol a'n cyn-gyflogeion.

Y rheolydd sy'n gyfrifol am brosesu unrhyw wybodaeth bersonol fel yr amlinellir yn y polisi preifatrwydd hwn yw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Er hwylustod, mae'r polisi preifatrwydd hwn yn cyfeirio at swyddfa weinyddol GEMA, 'Ofgem', 'ni' ac 'ein' drwy'r polisi cyfan.

Gellir gweld cofrestriad Ofgem â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Rheolwyr.

Ni chaiff unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ei throsglwyddo y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Pan fyddwn yn defnyddio dulliau prosesu cwmwl i gefnogi ein gwaith o brosesu data, mae'r gweinyddion wedi'u lleoli o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni

Negeseuon e-bost a galwadau ffôn

Caiff unrhyw negeseuon e-bost sy'n dod i law, gan gynnwys atodiadau, eu monitro am gynnwys maleisus. Efallai y caiff cynnwys unrhyw gyfathrebu â ni (gan gynnwys galwadau ffôn) ei fonitro hefyd at ddibenion hyfforddiant neu er mwyn ymchwilio i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau.

Mae'n bosibl y bydd rhai o'n cynlluniau amgylcheddol hefyd yn recordio rhai galwadau ffôn at ddibenion hyfforddi, rheoli ansawdd, monitro ac atal twyll.

Ymgeiswyr am swyddi, cyflogeion presennol a chyn-gyflogeion

Pan fyddwch yn gwneud cais i weithio i ni, dim ond er mwyn prosesu eich cais a monitro ystadegau recriwtio y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni. Fel rhan o'n proses recriwtio allanol, mae'n bosibl y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu ag asiantau a enwebwyd.

Pan fyddwn yn datgelu gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall (er enghraifft, lle rydym am ofyn am eirda neu gael 'datgeliad' naill ai gan CIFAS, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu Disclosure Scotland), ni fyddwn yn gwneud hynny heb ddweud wrthych yn gyntaf, oni bai bod y datgeliad yn ofynnol o dan y gyfraith. 

Caiff gwybodaeth bersonol am ymgeiswyr aflwyddiannus ei chadw ar ffeil am chwe mis ar ôl i'r ymarfer recriwtio ddod i ben. Yna, caiff ei dinistrio neu ei dileu. Rydym yn cadw gwybodaeth ystadegol ddienw am ymgeiswyr er mwyn helpu i lywio ein gweithgareddau recriwtio, ond ni ellir adnabod unigolion o'r data hynny.

Pan fyddwch yn gweithio i ni, byddwn yn creu ffeil sy'n ymwneud â'ch cyflogaeth. Caiff y wybodaeth yn y ffeil hon ei chadw mewn man diogel a dim ond at ddibenion sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch cyflogaeth y caiff ei defnyddio. Mae'n bosibl y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon o fewn y gwasanaeth sifil, gan gynnwys:

  • Porth Dysgu'r Gwasanaeth Sifil
  • CThEM
  • adrannau eraill y llywodraeth at ddibenion secondio/datblygu drwy hyfforddiant recriwtio graddedigion, a/neu'r llwybr carlam 
  • gweinyddwyr pensiwn
  • grwpiau proffesiynol, e.e. ysgrifenyddiaeth Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth.  

Pan fydd eich cyflogaeth gyda ni wedi dod i ben, byddwn yn cadw eich ffeil tan na fydd ei hangen mwyach. Gellir ei chadw am resymau sy'n ymwneud â chyflog, pensiynau ac iechyd a diogelwch, am resymau meddygol neu am resymau eraill sy'n ymwneud â chyflogaeth, ac o bosibl am hyd at 20 mlynedd gan ddibynnu ar eich oedran pan fyddwch yn gadael Ofgem.

Eich hawliau

Os oes gennym wybodaeth amdanoch, mae gennych yr hawl i:

  • gael eich hysbysu am y wybodaeth ddata a ddelir gennym amdanoch
  • cael mynediad i'r wybodaeth a ddelir gennym amdanoch
  • sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chywiro os bydd yn anghyflawn neu'n anghywir 
  • gofyn i ni gyfyngu ar y modd y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth
  • gwrthwynebu i ffyrdd penodol y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
  • mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i wrthwynebu i Ofgem yn prosesu eich gwybodaeth.

I weld y gyfres lawn o hawliau defnyddwyr newydd sydd ar gael i chi o dan y GDPR, cyfeiriwch at wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch weld a oes gennym unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch drwy wneud 'cais am fynediad at ddata gan y testun' o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Os ydym yn dal gwybodaeth amdanoch byddwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi disgrifiad ohoni i chi
  • dweud wrthych pam ein bod yn ei dal
  • dweud wrthych pwy y gellid ei datgelu iddo
  • rhoi copi o'r wybodaeth i chi ar ffurf ddealladwy.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am y canlynol:

  • cytundebau sydd gennym â sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth
  • amgylchiadau lle gallwn drosglwyddo gwybodaeth bersonol heb ganiatâd er enghraifft, er mwyn atal a chanfod troseddau ac er mwyn llunio ystadegau dienw
  • ein cyfarwyddiadau i'r staff ar sut i gasglu, defnyddio a dileu data personol
  • sut rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a ddelir gennym yn gywir ac yn gyfredol.

Ceisiadau am wybodaeth

Pan fyddwn yn cael cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu gais arall am wybodaeth (e.e. o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004) neu gŵyn gennych, gallwn greu ffeil. Fel arfer, bydd hon yn nodi pwy yw'r sawl sy'n gwneud y cais neu'r gŵyn.

Dim ond er mwyn prosesu'r cais a chadarnhau lefel y gwasanaeth a ddarparwyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn casglu ac yn cyhoeddi ystadegau mewn perthynas â nifer y ceisiadau am wybodaeth neu nifer y cwynion sy'n dod i law, ond nid ar ffurf a fyddai'n nodi pwy ydych.

Caiff y wybodaeth bersonol yn y ffeiliau hyn ei chadw mewn amgylchedd diogel a dim ond cyflogeion Ofgem a all ei gweld. 

Caiff gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â cheisiadau am wybodaeth a chwynion i Ofgem ei dileu pan na fydd yn berthnasol mwyach ar gyfer ymchwiliadau a chamau gorfodi. Fel y cyfryw, ni chaiff ei chadw am fwy na 5 mlynedd.

Hawlfraint ac ymwadiad

Diogelir y deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon gan hawlfraint y Goron, oni nodir fel arall. Gallwch ddefnyddio gwybodaeth hawlfraint y Goron (heb gynnwys logos) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth hon at: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon, a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid sicrhau caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw i atgynhyrchu'r cyfryw ddeunydd.

Hyperddolenni a rhannu

Gall defnyddwyr fewnblannu deunydd fideo o'r wefan hon a gosod dolenni hyperdestun iddi.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau trydydd parti y darperir dolenni iddynt. Ni ddylid ystyried bod rhestru dolenni yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau y darperir dolenni iddynt.

Sianeli cyfryngau cymdeithasol Ofgem

Mae tîm cyfathrebu Ofgem yn cymedroli ein sianeli o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.

Twitter

Mae ein sianel Twitter @Ofgem yn gweithredu er mwyn i ni siarad â defnyddwyr am faterion sy'n uniongyrchol berthnasol iddynt.

Byddwn yn ymateb i gwestiynau cwsmeriaid a anfonir i @ofgem o @ofgem fel y bo'n briodol.

Efallai y byddwn yn eich dilyn ar Twitter - nid yw'r ffaith ein bod yn eich dilyn yn awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath.

LinkedIn

Rydym yn cynnal un dudalen cwmni LinkedIn ar gyfer pob rhan o Ofgem.

Rydym yn ei defnyddio er mwyn rhannu barn a blogiau.

Facebook

Rydym yn cynnal tudalen Facebook i gysylltu a rhannu newyddion â defnyddwyr yn ein sector.

YouTube

Rydym yn cynnal sianel YouTube sy'n dangos ein fideos.

Rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol

Nid ydym yn ymrwymo i ymateb i bob sylw, postiad na thrydariad unigol ar unrhyw lwyfan, ac ni allwn ymgysylltu ar faterion gwleidyddol.

Nid yw'r ffaith bod un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn 'hoffi' rhywbeth neu'n ail-drydar yn awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath.

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os na fydd yr adnodd gadael sylwadau ar safleoedd Twitter, Facebook, LinkedIn ac YouTube ar gael.

Byddwn yn dileu'r canlynol o unrhyw lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gennym:

  • sylwadau ymosodol, hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu ymfflamychol
  • sylwadau niwsans a gaiff eu hystyried yn sbam
  • gwybodaeth bersonol a roddir fel rhifau ffôn, manylion cyfeiriad ac ati.

Byddwn yn cydymffurfio â'r Telerau Defnydd a bennir gan bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol.

Swyddogaethau rheoleiddio a chynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr ac awdurdod cymwys a sefydlwyd o dan y Rheoliadau Diogelwch Rhwydweithiau a Gwybodaeth, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddatblygu rheolau i ddiogelu buddiannau defnyddwyr, monitro ac ymchwilio i weithgareddau unigolion a reoleiddir ac unigolion eraill sy'n rhan o weithgareddau masnachol sy'n ymwneud â'r sector ynni a chymryd camau gorfodi yn achos diffyg cydymffurfio â rheolau rheoleiddio a deddfwriaeth. Bydd y gwaith prosesu hwn yn cynnwys dadansoddi data yn ôl yr angen. 

Gall Ofgem rannu gwybodaeth bersonol ag asiantaethau/adrannau llywodraeth ganolog, y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth, Citizens Advice Scotland a chyrff eraill sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (yn y DU neu'r Undeb Ewropeaidd) at ddibenion sy'n cynnwys:

  • canfod neu atal troseddau;
  • diogelu aelodau'r cyhoedd (gan gynnwys mewn perthynas â cholled ariannol) rhag anonestrwydd, camarfer, anghymhwystra neu ymddygiad amhriodol difrifol, neu anaddasrwydd neu anghymhwystra unigolion sydd wedi'u hawdurdodi i ymgymryd ag unrhyw broffesiwn neu weithgaredd arall;
  • iechyd a diogelwch; 
  • sicrhau na chaiff cystadleuaeth ei hatal, ei chyfyngu na'i hystumio.

Cynlluniau Amgylcheddol a Chymdeithasol 

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn ein galluogi i weinyddu ein cynlluniau amgylcheddol, sef;

  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL)
  • Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig (DRHI)
  • Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO)
  • Tariff Cyflenwi Trydan (FIT)
  • Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig (NDRHI)
  • Rhwymedigaeth Tanwydd Nad yw'n Danwydd Ffosil (NFFO)
  • Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Gogledd Iwerddon (NI RHI)
  • Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy Gogledd Iwerddon (NI RO)
  • Derbynydd Opsiwn Pan Fetho Popeth Arall (OLR)
  • Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO)
  • Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO)
  • Gwarant Allforio Deallus (SEG)

Mae BEIS wedi enwi Ofgem fel gweinyddwr arfaethedig dau gynllun newydd: y Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd a'r Grant Gwres Glân. Fel rhan o'r broses o sefydlu'r cynlluniau hyn, byddwn yn prosesu gwybodaeth bersonol at ddibenion cynnal gwaith ymchwil i ddefnyddwyr.

Gall hyn gynnwys dadansoddi data

Gall prosesu eich data gynnwys ystyried ac ymchwilio i gwynion ac ymchwilio i gamau gorfodi. Os bydd yr amgylchiadau yn gofyn am hynny, gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol â'r canlynol:

  • adrannau allanol llywodraeth ganolog
  • gweinyddiaethau datganoledig
  • asiantaethau
  • heddluoedd
  • trwyddedeion
  • cyrff y diwydiant ynni.

Gall gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu fel rhan o'r broses o weinyddu'r cynlluniau er mwyn atal troseddau a gwrthsefyll camddefnyddio a chamgofnodi mewn perthynas â'r cynlluniau. Gallwn hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi gwybodaeth, llenyddiaeth neu wasanaethau i chi mewn perthynas â'n cynlluniau. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys dadansoddi data. 

Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu'n deg ac yn dryloyw pan fyddwch yn ffonio llinell gymorth unrhyw un o'n cynlluniau.

Gweler isod yr hysbysiadau Preifatrwydd ar gyfer y rhaglenni Amgylcheddol a Chymdeithasol y mae Ofgem yn eu gweinyddu:

cynlluniau Trydan Adnewyddadwy

cynllun Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig

cynllun Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig

cynllun Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Gogledd Iwerddon

cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni

Ymwadiad

Caiff y wefan a deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau'r llywodraeth (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti), eu darparu fel y maent, heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.

Ni chaiff y deunydd ar y wefan ei ystyried yn gyngor cyfreithiol neu broffesiynol ac ni ddylid ei ystyried felly. Dylai defnyddwyr geisio eu cyngor cyfreithiol neu broffesiynol eu hunain lle y bo'n briodol.

Nid ydym yn gwarantu y bydd darpariaeth y wefan neu fynediad at y deunydd sydd wedi'i gynnwys ar y wefan yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, y caiff diffygion eu cywiro, nac y bydd y wefan neu'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd o feirysau ac nid ydym yn gwarantu nac yn gwneud honiadau ynghylch swyddogaeth, cywirdeb neu ddibynadwyedd y wefan a'i chynnwys. I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio neu fethiant i ddefnyddio'r wefan ac unrhyw ddeunyddiau y gellir cael gafael arnynt drwy'r wefan, neu sy'n gysylltiedig â hynny, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm, elw neu gyfle, colled neu ddifrod i eiddo a hawliadau trydydd partïon hyd yn oed os ydym wedi cael ein hysbysu y gallai colled neu ddifrod o'r fath godi.

Dangosyddion a data'r farchnad manwerthu a chyfanwerthu

Mae dangosyddion a data perthnasol marchnad Ofgem wedi'u cyhoeddi gyda'r nod o hyrwyddo buddiannau defnyddwyr nwy a thrydan, e.e. drwy hwyluso sylwebaeth a thrafodaeth ymhlith cyfranogwyr ac academyddion y diwydiant. Ni fwriedir i'r data gael eu defnyddio at unrhyw ddiben masnachol ac ni ddylid dibynnu arnynt chwaith.

Er bod pob ymdrech rhesymol yn cael ei wneud i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir drwy'r dangosyddion marchnad hyn yn gywir, nid yw Ofgem yn gwarantu bod y wybodaeth yn gyfredol nac yn gywir. Caiff y wybodaeth a ddarperir drwy ddangosyddion marchnad Ofgem ei darparu heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ynghylch peidio â thorri hawliau, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.

Nid yw Ofgem yn gwarantu y bydd y dangosyddion marchnad a'r data cysylltiedig ar y wefan hon yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau. Hefyd, er y bydd Ofgem yn ceisio gwirio unrhyw wallau y tynnwyd ei sylw atynt yn brydlon, nid yw'n yn gwarantu y caiff diffygion eu gwirio, na bod y wefan hon na'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd o feirysau nac yn gwneud honiadau ynghylch swyddogaeth lawn, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunydd. Dylech gyfeirio at yr ymwadiad cyffredinol uchod a'r hysbysiad diogelu rhag feirysau isod.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Mae'n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy'n mynd ar goll, am unrhyw darfu ar ddata neu unrhyw ddifrod iddo nac am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol wrth ddefnyddio deunydd ar y wefan.

Y gyfraith a'r awdurdodaeth lywodraethol 

Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a'u dehongli'n unol â hi. Bydd unrhyw anghytundeb sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.

Cysylltu a chwynion

Cysylltu â ni

Os hoffech wneud y canlynol:

The Data Protection Officer

Ofgem

10 South Colonnade

Canary Wharf

London 

E14 4PU

Cwynion

Mae gennych hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os ydych am gwyno am y ffordd rydym wedi trin eich gwybodaeth, gallwch roi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am hyn yn:

Information Commissioner's Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Telephone: 0303 123 1113

Ar-lein: Trafod yn fyw