Newid eich mesurydd trydan Radio Teleswitch

Dysgwch am yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i'r gefnogaeth ar gyfer mesuryddion Radio Teleswitch (RTS) ddod i ben yn 2025.

Bydd y dechnoleg sy'n cefnogi mesuryddion RTS yn dod i ben ar 30 Mehefin 2025. Heb y dechnoleg i roi gwybod i fesuryddion RTS pryd i newid rhwng cyfraddau brig ac allfrig, efallai na fyddant yn gweithio'n iawn mwyach, a gall hynny olygu na fydd cyflenwad gwres a dŵr poeth y defnyddiwr yn gweithio yn ôl yr arfer.

Os oes gennych fesurydd RTS, bydd eich cyflenwr trydan yn cysylltu â chi i drefnu i'w uwchraddio i fesurydd deallus cyn y dyddiad hwn.

Rhaid iddynt sicrhau bod gennych fesurydd addas ac na fydd unrhyw darfu ar eich gwasanaeth. 

Rydym yn disgwyl i gyflenwyr trydan newid pob mesurydd RTS cyn i'r dechnoleg sy'n cefnogi RTS ddod i ben ym mis Mehefin 2025, ac rydym yn asesu eu cynnydd wrth newid y mesuryddion hyn yn agos. 

Dysgwch a oes gennych fesurydd RTS 

Mae'n bosibl bod gennych fesurydd RTS: 

  • os yw'n newid rhwng cyfraddau tariff brig ac allfrig
  • os yw'n troi eich gwres neu'ch dŵr poeth ymlaen yn awtomatig
  • os caiff eich cartref ei gynhesu drwy ddefnyddio gwresogyddion trydan neu stôr 
  • os nad oes cyflenwad nwy i'ch ardal, gan gynnwys tai mewn ardaloedd gwledig a blociau fflatiau uchel iawn.

Cysylltwch â'ch cyflenwr trydan os nad ydych yn siŵr o hyd pa fesurydd sydd yn eich cartref.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr, dilynwch y camau ar ein tudalen canfod eich cyflenwr ynni.

Uwchraddio i fesurydd deallus

Bydd mesurydd deallus yn rhoi gwasanaeth sy'n debyg i'ch mesurydd RTS. Mae manteision eraill hefyd, gan gynnwys:

  • darlleniadau trydan yn cael eu cyflwyno'n awtomatig
  • tariffau ar gyfer 'mesuryddion deallus yn unig'
  • y gallu i fonitro faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio
  • biliau cywir yn seiliedig ar y trydan rydych wedi'i ddefnyddio, nid amcangyfrifon

Darllenwch fwy am gael mesurydd deallus.

Os na allwch uwchraddio

Mewn rhai achosion, efallai na fydd eich cyflenwr yn gallu cynnig mesurydd deallus i chi ar hyn o bryd. 

Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid iddynt sicrhau bod gennych fesurydd addas ac nad oes unrhyw darfu ar eich gwasanaeth.

Dylech gysylltu â'ch cyflenwr i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael i chi.

Os nad ydych eisiau mesurydd deallus

Uwchraddio i fesurydd deallus yw'r dewis gorau i gwsmeriaid RTS. Os byddwch yn dewis peidio ag uwchraddio:

  • gall eich gwres a'ch dŵr poeth gael eu gadael ymlaen neu i ffwrdd yn barhaus
  • gall eich gwresogyddion stôr trydan wefru ar yr adeg anghywir o'r diwrnod, gan arwain at filiau uwch o bosibl
  • efallai na fydd eich cyflenwr yn gallu cadarnhau eich defnydd o drydan yn ystod oriau brig ac allfrig, ac efallai y bydd eich costau trydan yn uwch nag o'r blaen
  • bydd eich dewis o dariffau yn fwy cyfyngedig

Siaradwch â'ch cyflenwr i gael rhagor o wybodaeth.

Ceisiwch gyngor gan Gyngor ar Bopeth

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth i gael cyngor diduedd am ddim ar eich cyflenwad ynni.

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn energyadvice.scot.