Deall eich biliau trydan a nwy

Mae'r costau sydd wedi'u cynnwys yn eich biliau trydan a nwy yn cynnwys taliadau sefydlog a phrisiau uned.

Y costau sydd wedi'u cynnwys yn eich biliau trydan a nwy

Mae costau gwahanol wedi'u cynnwys yn eich biliau trydan a nwy. Y rhain yw:

  • cyfraddau fesul uned
  • taliadau sefydlog
  • trethi, fel TAW

Cyfradd pris uned yw'r gyfradd a godir fesul uned o drydan neu nwy rydych yn ei ddefnyddio. Caiff ei mesur mewn oriau cilowat (kWh).

Taliadau sefydlog trydan a nwy

Cost a gaiff ei chynnwys ym mhob bil trydan a nwy yw'r tâl sefydlog. Caiff y gost hon ei gosod gan eich cyflenwr. Mae'r tâl sefydlog hefyd wedi'i gynnwys yn y cap ar brisiau ynni rydym yn ei adolygu a'i osod bob tri mis. Bydd eich cyflenwyr yn codi'r gost hon arnoch bob diwrnod, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflenwr a lle rydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth.

Mae'r tâl yn cwmpasu'r gost o gynnal y rhwydwaith cyflenwi ynni, cymryd darlleniadau mesurydd a chefnogi cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol gan y llywodraeth.

Nid yw rhai cyflenwyr yn cynnwys tâl sefydlog yn eu tariffau. Yn hytrach, maent yn cynnig tariff sy'n gweithio mewn ffordd debyg, ond byddwch yn talu ychydig yn fwy am yr un neu ddwy uned gyntaf a enwir yn awr cilowat (kWh) o ynni y byddwch yn ei ddefnyddio.

Beth yw ystyr y costau

Costau cyfanwerthol

Yr hyn rydych yn ei dalu am yr ynni a brynir i gyflenwi eich cartref neu eich busnes. Maent yn cyfrif am ryw draean o'ch bil ynni. Mae cyflenwyr yn prynu ynni gan gynhyrchwyr trydan a nwy ar y farchnad gyfanwerthol.

Gall prisiau ar y farchnad gyfanwerthu godi a gostwng yn gyflym iawn. Maent yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn fyd-eang gyda thanwydd fel nwy, olew, glo ac, yn gynyddol, tanwydd adnewyddadwy.

Mae galw hefyd yn effeithio ar y pris. Mae prisiau cyfanwerthol fel arfer yn is pan fydd y galw'n isel a phan fydd argaeledd tanwydd yn uchel. Byddant yn codi pan fydd y gwrthwyneb yn wir.

Yn aml, bydd cyflenwyr yn prynu ynni ymlaen llaw ar gyfer eu tariffau, rhai cymaint â dwy i dair blynedd. Fel arfer, byddant yn prynu ynni ar gyfer tariffau cyfnod penodol yn agosach at yr adeg y byddant yn eu lansio.

Mae'r gwahaniaethau hyn yn golygu na fydd newidiadau mewn prisiau cyfanwerthol yn effeithio ar bob tariff yn yr un ffordd ar yr un pryd.

Costau rhwydwaith

Dyma'r costau ar gyfer y pibelli nwy a'r ceblau trydan sy'n cludo ynni ledled y wlad i'ch cartref neu eich busnes.

Mae cwmnïau rhwydwaith yn codi pris a reoleiddir gan Ofgem ar eich cyflenwr am ddefnyddio eu rhwydwaith ynni. Mae'r arian hwn yn mynd tuag at gynnal a chadw, rhedeg ac uwchraddio'r rhwydweithiau.

Mae costau rhwydwaith yn amrywio o un flwyddyn i'r llall. Er enghraifft, er mwyn adlewyrchu defnydd neu sut y mae angen i ni ddyrannu costau ar rannau gwahanol o'r rhwydwaith.

Mae costau rhwydwaith yn cynnwys taliadau ‘cydbwyso’. Caiff cyflenwad a galw ei gydbwyso fesul eiliad ar gyfer trydan, ac yn ddyddiol ar gyfer nwy. Mae'r taliadau hyn yn amrywio dros amser.

Costau rhwymedigaethau cymdeithasol ac amgylcheddol

Mae'n rhaid i gyflenwyr mwy helpu i dalu am bolisïau ynni'r llywodraeth. Gallai'r costau hyn gwmpasu cynlluniau i gyflenwi gwelliannau i effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi a busnesau, helpu pobl sy'n agored i niwed ac annog pobl i fanteisio ar dechnoleg adnewyddadwy.

Costau uniongyrchol eraill

Mae'r rhain yn cwmpasu costau ar gyfer pethau fel:

  • gwasanaethau trydydd parti, fel comisiynau gwerthiannau a broceru
  • cynnal a chadw a gosod mesuryddion
  • gwaith gweinyddol gan wasanaethau data a setlo fel Elexon ac Xoserve
  • costau ehangach rhaglenni mesuryddion deallus

Costau gweithredu a maint elw cyflenwyr

Pan fydd cyflenwyr yn pennu eu prisiau, byddan nhw hefyd yn ceisio cwmpasu eu costau gweithredu, yn ogystal â gwneud elw.

Mae costau gweithredu yn cwmpasu pethau fel gwasanaeth cwsmeriaid, bilio a chostau cyffredinol rhedeg busnes ynni.

Maint yr elw yw enillion cyffredinol cyflenwr cyn didynnu llog, treth a chostau eraill.