Mae llawer o gyflenwyr yn cynnig mesurau arbed ynni wedi eu cymhorthdalu i gwsmeriaid drwy gynlluniau sydd wedi eu cefnogi gan y llywodraeth i annog defnydd effeithlon o ynni.
Gall fod yn fwy ynni effeithlon helpu i leihau eich biliau, i gadw eich tŷ yn gynnes ac i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Rydym yn egluro'r cynlluniau yma, gyda phwy y dylid siarad ynglŷn â gwneud cais a sut y gallwch gael cyngor a chymorth ychwanegol.
Cynlluniau effeithlonrwydd ynni blaenorol
Tariff Cyflenwi Trydan
Pwy sy'n ei redeg?
Ofgem yn gweinyddu rhan o'r cynllun, ond mae cyflenwyr trydan penodol yn trafod ceisiadau a thaliadau.
Beth ydyw?
- Taliad rheolaidd gan gyflenwr trydan os ydych yn cynhyrchu eich trydan eich hun o ffynhonnell adnewyddadwy.
- Gall cartrefi, busnesau a grwpiau cymunedol oll wneud cais.
- Mae'r swm yn dibynnu'n bennaf ar ba dechnoleg y byddwch yn ei defnyddio a faint o drydan y gallwch ei gynhyrchu.
Sut y gallaf ei gael?
- Gwnewch gais i gyflenwr trydan – am restr o'r cwmnïau sy'n cymryd rhan, gweler ein hadran ar y Tariff Cyflenwi Trydan (nid oes rhaid mai chi sy'n berchen arno).
- Cyn gwneud cais, mae angen cymeradwyaeth arnoch naill ai drwy'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu ('MCS') neu achrediad o dan ROO-FIT. Mae p'un sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y dechnoleg byddwch yn ei defnyddio a faint o drydan byddwch yn ei gynhyrchu.
Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy: Domestig ac Annomestig
Mae dwy ran i'r cynllun hwn: domestig ac annomestig.
Mae gan y ddwy eu prosesu gwneud cais eu hunain, ynghyd â thariffau, meini prawf ymuno a rheolau gwahanol.
Pwy sy'n ei redeg?
Ofgem yn rhedeg y ddwy ran, yn seiliedig ar bolisi a rheoliadau wedi eu llunio gan y llywodraeth.
Beth ydyw?
- Taliad am gynhyrchu gwres o ffynhonnell adnewyddadwy a'i ddefnyddio i gynhesu eich cartref neu'ch busnes.
- Cewch gyfradd tariff ei thalu i chi am bob uned o ynni rydych yn ei chynhyrchu.
- Caiff taliadau domestig eu talu dros gyfnod o saith mlynedd.
- Caiff taliadau annomestig eu talu dros gyfnod o 20 mlynedd.
Sut y gallaf ei gael?
Yn gyntaf, gweler ein hadrannau ar:
Gallwch wedyn wneud cais i Ofgem, gweinyddwyr y cynllun, gan ddefnyddio'r manylion y byddwch yn eu gweld ar-lein.
Y Fargen Werdd
Pwy sy'n ei redeg?
Nid yw Ofgem yn gweinyddu'r cynllun llywodraeth hwn – mae'n cael ei redeg gan Gorff Goruchwylio a Chofrestru'r Fargen Werdd.
Beth ydyw?
Ffordd o ariannu gwaith a fydd yn gwneud eich cartref neu'ch busnes yn fwy ynni effeithlon.
Bydd rhai mathau o waith uwchraddio, megis gwell inswleiddio, yn lleihau eich biliau ynni. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu talu am y gwaith gosod o'r arbedion y byddwch yn eu gwneud ar filiau o ganlyniad i'r Fargen Werdd.
Sut y gallaf ei gael?
- Dechreuwch drwy gael Asesiad y Fargen Werdd. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am hyn.
- I ddod o hyd i aseswr, ewch i: gdorb.decc.gov.uk/consumersearch.
Os yw'r asesiad yn argymell gwelliannau, gallwch wneud trefniadau i gael arian ac am y gwaith gosod.
Rhwymedigaeth y Cwmni Ynni
Pwy sy'n ei redeg?
Ofgem sy'n gweinyddu'r cynllun.
Beth ydyw?
- Rhwymedigaeth ar gwmnïau ynni i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.
- Mae mesurau yn cynnwys inswleiddio llofftydd a waliau, a boeleri mwy effeithlon. Gall cwmnïau ddewis pa gartrefi maent yn eu trin a faint i'w ariannu.
- Mae arbedion carbon a chost y mesurau hyn yn cyfrif tuag at rwymedigaethau'r Cwmni.
Sut y gallaf ei gael?
- Gweler ein hadran ar Rwymedigaeth y Cwmni Ynni
- Siaradwch â chwmni ynni (nid oes rhaid mai eich cwmni eich hun ydyw)
- Siaradwch â gosodwr.
- Siaradwch â'r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed (opens external website)
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Pwy sy'n ei redeg?
Ofgem yn monitro cwmnïau ynni o dan y cynllun hwn.
Beth ydyw?
- Gostyngiad untro o £140 i'ch bil. Gallech fod yn gymwys os ydych yn cael elfen Credyd Gwarant Credyd Pensiwn.
- Mae rhai cyflenwyr hefyd yn cynnig gostyngiad i grwpiau eraill, megis pobl anabl neu blant ifanc. Mae'r manylion yn amrywio, felly holwch eich cyflenwr trydan.
- Nid yw pob cyflenwr yn cynnig yr ad-daliad, er bod y cwmnïau mwy o faint yn gwneud hynny.
Sut y gallaf ei gael?
- I gael gwybod a ydych yn gymwys, ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor ar Arbed (opens external website).
- Os ydych yn cael pensiwn mae'n bosibl y byddwch yn cael eich talu'n awtomatig. Fel arall bydd eich cyflenwr yn gofyn i chi wneud cais, ac yn gosod terfyn amser am hyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein rôl i ddarparu cynlluniau penodol y llywodraeth a rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn yn Rhaglenni Amgylcheddol.
Cael rhagor o gyngor am arbed ynni
Gallwch gael rhagor o gyngor a chymorth am effeithlonrwydd ynni drwy'r canlynol:
- Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni (opens external website)
- Home Energy Scotland (opens external website) - yn yr Alban
- Cynllun Nyth Cartrefi Clyd (opens external website) - yng Nghymru
- Llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr (opens external website)