Hawlio iawndal am faterion cyflenwad ynni

Mae'n bosibl y gallwch hawlio iawndal os byddwch yn cael problemau â'ch cyflenwad ynni.

Cadarnhewch a ydych yn gymwys i gael iawndal

Cwmnïau rhwydwaith sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cyflenwad grid a thrwsio toriadau yn y pŵer.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad nwy neu drydan yn diffodd. Mae'r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar p'un a oedd y toriad yn y cyflenwad wedi'i gynllunio, yr hyd y gwnaeth barhau, neu ai'r cwmni rhwydwaith oedd ar fai ai peidio.

Mae gwefan Powercut 105 hefyd yn esbonio beth i'w wneud yn ystod toriad yn y cyflenwad.

Os bydd eich cyflenwad wedi'i dorri oherwydd mesurydd ynni diffygiol neu os byddwch yn rhedeg allan o gredyd yn eich mesurydd rhagdalu, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni.

Iawndal ar gyfer toriadau yn y pŵer mewn tywydd arferol

Mae gan eich cwmni rhwydwaith lleol 24 awr i adfer cyflenwadau os caiff eich pŵer ei dorri, os bydd un nam yn effeithio ar fwy na 5,000 o gartrefi.

Os bydd eich cyflenwad wedi torri am 12 awr neu fwy gallwch hawlio £90 fel cwsmer domestig neu £175 fel cwsmer annomestig.

Gallwch gael £40 pellach am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb gyflenwad, hyd at gyfanswm o £300.

Os bydd toriad yn eich cyflenwad fwy na phedair gwaith mewn blwyddyn, am o leiaf dair awr ar bob achlysur, gallwch hawlio £90 arall fel cwsmer domestig neu annomestig.

Mae'r flwyddyn yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth.

Iawndal am doriadau yn y pŵer mewn tywydd difrifol

Mae lefel eich iawndal yn dibynnu ar gategori'r tywydd difrifol a hyd eich diffyg cyflenwad pŵer.

Swm yr iawndal y gallwch ei hawlio mewn storm

Storm categori 1

Gallwch hawlio £80 am doriad yn eich pŵer sy'n para 24 awr.

Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio.

Storm categori 2

Gallwch hawlio £80 am doriad yn eich pŵer sy'n para 48 awr.

Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio.

Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd y toriad yn y cyflenwad yn digwydd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.

Iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd

Gallwch hawlio o leiaf £40 os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd oherwydd gwaith sydd wedi'i gynllunio heb i'ch gweithredwr rhwydwaith eich hysbysu saith diwrnod ymlaen llaw. Gallwch hawlio £20 os bydd y cyflenwad yn diffodd oherwydd gwaith wedi'i gynllunio heb i'ch gweithredwr rhwydwaith eich hysbysu bum diwrnod ymlaen llaw.

Rydych yn gymwys i hawlio o leiaf £60 am bob 24 awr y bydd eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd mewn achosion o doriadau heb eu cynllunio. Mae taliadau a darpariaethau ychwanegol ar gael i aelwydydd sydd ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, megis gwresogi amgen.

Gallwch hawlio mwy o iawndal os bydd eich cyflenwad wedi'i ddiffodd am fwy na 24 awr. Bydd y swm yn codi yn dibynnu ar ba mor hir y bydd eich cyflenwad wedi'i ddiffodd.

Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i doriadau mewn cyflenwad heb eu cynllunio, neu o fewn mis i doriadau mewn cyflenwad wedi'u cynllunio lle na roddwyd rhybudd i chi.

Gallwch hawlio drwy eich cwmni rhwydwaith lleol.

Ein rôl

Os bydd problemau'n codi, byddwn am sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu hadfer yn gyflym.

Byddwn yn monitro pa mor dda y mae cwmnïau rhwydwaith yn gwneud hyn a pha mor dda y maent wedi paratoi i ddelio ag effeithiau ar y rhwydwaith.

Os byddwn o'r farn nad yw cwmnïau yn bodloni eu rhwymedigaethau i gwsmeriaid, byddwn yn gweithredu.