Gwybod eich hawliau: toriadau mewn cyflenwad

Guidance

Dyddiad cyhoeddi

Sector diwydiant

  • Supply and Retail Market
  • Distribution Network

Mae'r canllaw hwn yn esbonio ein Safonau Ansawdd Gwasanaeth Gwarantedig, sef lefelau gwasanaeth y dylai pob cwmni dosbarthu sy'n cyflenwi trydan i chi eu bodloni. Mae’n cynnwys cyngor ar sut i wneud hawliad a phwy y dylech gysylltu â nhw os byddwch heb gyflenwad.

Mae Prydain Fawr wedi profi patrymau tywydd garw yn ddiweddar sydd wedi arwain at dorri cyflenwad cartrefi a busnesau ar adegau. Gall hyn effeithio ar lawer o weithgareddau bob dydd yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol - troi'r goleuadau ymlaen, gwefru ffonau symudol a chadw bwyd mewn oergell.

Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu buddiannau cwsmeriaid drwy sicrhau y darperir cyflenwad trydan dibynadwy ar eu cyfer, waeth beth fo'r tywydd. Dyna pam y mae gennym ein Safonau Ansawdd Gwasanaeth Gwarantedig, sef lefelau gwasanaeth y dylai pob cwmni dosbarthu eu bodloni. Os na fyddant yn bodloni'r lefel gwasanaeth ofynnol, yna gallai fod hawl gan gwsmeriaid gael taliad.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth yw'r safonau hyn, sut i wneud hawliad a phwy y dylech gysylltu â nhw os byddwch heb gyflenwad.