Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith

Gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich cyflenwr nwy neu drydan.

Help

Pwy i gysylltu â nhw os bydd toriad pŵer

Ffoniwch 105 am ddim. Cewch eich cysylltu â llinell frys eich gweithredwr rhwydwaith trydan lleol.

Pwy i gysylltu â nhw os byddwch yn arogleuo nwy

Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith ar 0800 111 999.

Canfod cyflenwr nwy neu drydan

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich cyflenwr ynni presennol ar fil ynni diweddar. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein os nad ydych yn cael biliau papur.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaethau isod.

Canfod gweithredwr rhwydwaith nwy neu drydan

Mae cwmnïau gwahanol (‘gweithredwyr rhwydwaith’) yn rhedeg meysydd o'r rhwydwaith ynni.

Mae rhai cwmnïau annibynnol hefyd yn berchen ar feysydd o'r rhwydwaith a gaiff eu rhedeg gan weithredwyr lleol eraill. Fel arfer, maent yn cysylltu prosiectau tai a masnachol newydd â'r rhwydwaith.

Pwy yw fy ngweithredwr rhwydwaith?

Y gwahaniaeth rhwng gweithredwyr rhwydwaith a chyflenwyr ynni

Mae gweithredwyr rhwydwaith yn wahanol i gyflenwyr ynni. Maent yn berchen ar y pibellau a'r gwifrau sy'n cludo nwy a thrydan ac yn eu rhedeg.

Ceir dau fath: 

  • Gweithredwyr rhwydweithiau trawsyrru. Maent yn berchen ar y rhwydwaith pwysedd a foltedd uchel sy'n trawsyrru ynni ledled y wlad o'r man y caiff ei gynhyrchu ac yn ei redeg.
  • Gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu. Maent yn berchen ar y rhwydwaith ‘dosbarthu’ lleol ac yn ei redeg. Maent yn dod ag ynni i gartrefi a busnesau ar bwysedd a foltedd is o'r rhwydwaith trawsyrru.

Efallai y bydd angen i chi siarad â'ch gweithredwr rhwydwaith os:

Ni all helpu â chwestiynau am filiau ynni. Bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr ynni.