Debyd uniongyrchol: Beth sydd angen i chi ei wybod
Guidance
Debyd uniongyrchol yw un o'r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o dalu biliau ynni. Mae dros 50% o gwsmeriaid yn talu eu biliau ynni yn y ffordd hon ac efallai y bydd eich cyflenwr yn cynnig gostyngiad os byddwch yn talu drwy'r dull hwn.
Mae Ofgem am i chi ddeall sut i fanteisio i'r eithaf ar dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir a'ch bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan eich cyflenwr.
Lawrlwythwch ein canllaw isod, fel y gallwch gyfeirio ato pan ddaw'n amser i adolygu eich taliadau Debyd Uniongyrchol.