Mathau o gontractau ynni busnes

Sut mae contractau ynni busnes yn wahanol i gontractau domestig (preswyl).

Mathau o gontract

Bydd y ffordd y byddwch yn defnyddio nwy a thrydan fel busnes yn wahanol i'r cwsmer preswyl arferol. Felly mae contractau ynni busnes yn wahanol, gyda chynigion yn amrywio ymysg cyflenwyr ynni busnes.

Mae'n bwysig eich bod yn deall pa fath o gontract sydd gennych fel y gallwch gadarnhau eich bod yn cael y fargen orau ar gyfer defnydd eich busnes. Os ydych yn ficrofusnes, bydd rhai rheolau'n gymwys sy'n effeithio ar y ffordd y cewch eich bilio hefyd.

Contract tybiedig ac allan o gontract

Fel arfer, bydd contract tybiedig yn gymwys os byddwch yn symud i eiddo busnes newydd ac nad ydych yn cytuno ar gontract. Gallech hefyd fod ar gontract tybiedig neu gontract allan o gontract os bydd eich contract presennol yn dod i ben ond bod y cyflenwr yn parhau i gyflenwi'r ynni a ddefnyddir gennych. Gallai hyn ddigwydd os na fydd y contract gwreiddiol yn nodi beth fydd yn digwydd ar ddiwedd contract neu os nad oes darpariaethau ar gyfer adnewyddu.

Fel arfer, mae contractau tybiedig a chontractau allan o gontract ymysg contractau drutaf cyflenwr. Mae'n werth chwilio am y fargen orau a chytuno ar gontract cyn gynted ag y byddwch yn cymryd eiddo neu'n agosáu at ddyddiad dod i ben er mwyn osgoi gorfod talu mwy.

Penodol

Codir cyfradd benodol fesul uned o ynni arnoch (a fesurir mewn kWh) ar gyfer cyfnod penodol y contract. Nid yw hyn yn golygu bod cyfanswm eich bil yn benodol. Bydd yn codi neu'n gostwng gyda'ch defnydd o ynni.

Amrywiadwy

Lle mae'r gyfradd a godir fesul uned o ynni (a fesurir mewn kWh) yn gysylltiedig â gweithgarwch y farchnad. Felly gallai eich cyfradd fesul uned o ynni newid drwy gydol eich contract.

Treiglo

Bydd hyn fel arfer yn gymwys os nad ydych wedi cytuno ar gontract gwahanol cyn y dyddiad y bydd eich contract presennol yn dod i ben ac nad oes unrhyw ddarpariaethau ar gyfer adnewyddu. Os ydych yn ficrofusnes, ni all y contract hwn bara mwy na 12 mis.

Sut mae contractau ynni busnes yn amrywio

Maent yn para'n hirach fel arfer

Yn aml, mae contractau ynni busnes yn para am hyd at bum mlynedd neu fwy gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn para rhwng un a thair blynedd. Fel arfer, byddwch yn rhwym wrth y contract nes i chi gyrraedd ffenestr newid cyflenwr yn y contract. Fel arfer, mae hyn yn agos at y dyddiad y daw'r contract i ben. Os na fyddwch yn rhoi rhybudd i'ch cyflenwr ynghylch newid arfaethedig yn ystod y cyfnod hwn, gallech dreiglo i gontract diofyn drud. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod pryd y bydd eich contract yn dod i ben a'r cyfnodau rhybudd sy'n ofynnol.

Nid oes cyfnod ailystyried fel arfer

Mae contractau ynni preswyl yn cynnig 14 diwrnod i chi ganslo o'r dyddiad y byddwch yn cytuno ar gontract os byddwch yn newid eich meddwl. Nid yw'r rhan fwyaf o gontractau ynni busnes yn cynnig hyn, er ei bod yn werth holi yn ei gylch. 

Nid oes angen i chi lofnodi contract ynni iddo fod yn gyfrwymol

Gallech gytuno ar gontract dros y ffôn. Mae'n werth gofyn i'r holl delerau gael eu hanfon yn ysgrifenedig cyn i chi gytuno ar gontract.

Contractau tanwydd unigol yw'r rhain fel arfer

Fel arfer, bydd angen i chi gael dyfynbrisiau ar wahân ar gyfer contractau nwy a thrydan wrth chwilio am y fargen orau, a chewch eich bilio ar wahân ar gyfer y ddau hefyd.

Costau brocer

Os byddwch yn defnyddio brocer ynni busnes gallai'r gyfradd a delir gennych gynnwys ei ffi, yn dibynnu ar gytundeb eich brocer â chyflenwr. Mae'n werth gofyn i holl delerau cytundeb brocer a chynnig y contract ynni gael eu hanfon yn ysgrifenedig cyn i chi gytuno iddynt, er mwyn sicrhau eich bod yn deall y telerau.

Cadarnhau eich hawliau ynni busnes

Rhagor o help

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau.

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth. 
  • Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth.

I gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni, ewch i'n tudalen Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf