Ein strwythur a'n harweinyddiaeth

Ein strwythur

GEMA

Y corff sy'n ein llywodraethu yw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan a chyfeirir ato fel GEMA neu'r Awdurdod. Mae'n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol, a chadeirydd anweithredol.

Caiff aelodau'r Awdurdod eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac mae'n cynnwys pum Cyfarwyddwr Anweithredol.

Gweld manylion aelodau GEMA

Pwyllgor Gweithredol

Caiff ein Pwyllgor Gweithredol ei gadeirio gan ein Prif Swyddog Gweithredol ac mae'n gyfrifol am ein perfformiad cyffredinol.

Deg cyfarwyddwr o bob rhan o'n sefydliad yw aelodau'r pwyllgor.

Gweld manylion aelodau'r Pwyllgor Gweithredol

Gweld siart o'n strwythur sefydliadol

Pwerau a dyletswyddau GEMA

Ceir gwybodaeth lawn am bwerau a dyletswyddau’r Awdurdod, ei reolau a'i weithdrefnau a'i bwyllgorau amrywiol yn y cyhoeddiadau canlynol:

Cyfarfodydd

Mae'r Awdurdod yn cyfarfod o leiaf 10 gwaith y flwyddyn, bob mis fel arfer heblaw mis Ionawr a mis Awst. Gwneir llawer o'i waith gan ei Bwyllgorau a thrwy'r cyngor a roddir ganddynt i'r Awdurdod.

Ceir manylion llawn y materion a drafodir yn y cyfarfodydd hyn yn agendâu a chofnodion y Bwrdd

Mae dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer 2021 fel a ganlyn:

Mis

Dyddiad y cyfarfod

Ionawr

Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021 

Dydd Mercher 27 Ionawr 2021

Chwefror

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021

Mawrth

Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021

Dydd Mercher 31 Mawrth 2021

Ebrill

Dydd Mawrth 27 Ebrill 2021

Dydd Mercher 28 Ebrill 2021

Mai

Dydd Mawrth 25 Mai 2021 

Dydd Mercher 26 Mai 2021

Mehefin

Dydd Mawrth 29 Mehefin 2021

Dydd Mercher 30 Mehefin 2021

Gorffennaf

Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021

Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021

Awst

dim cyfarfod

Medi

Dydd Mawrth 28 Medi 2021

Dydd Mercher 29 Medi 2021

Hydref

Dydd Mawrth 19 Hydref 2021

Dydd Mercher 20 Hydref 2021

Tachwedd

Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021

Rhagfyr

dim cyfarfod