Dechrau tudalen contract ynni busnes

Y mathau o gontractau ynni busnes, defnyddio brocer, a beth i'w wneud os na fyddwch yn fodlon ar eich cyflenwr ynni busnes.

Trosolwg

Mae angen  i fusnesau bach, gan gynnwys microfusnesau, mentrau bach a chanolig eu maint neu fusnesau mawr ddechrau contract ynni busnes ar gyfer yr ynni a ddefnyddir gan eu busnes. 

Gall contractau ynni busnes bara am hyd at bum mlynedd ac fel rheol, bydd gennych gontract ar gyfer pob math o ynni a ddefnyddiwch. Ni fydd y rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn gadael i chi newid cyflenwyr cyn diwedd y contract. 

Caiff y swm o ynni y mae eich busnes yn ei ddefnyddio ei gofnodi gan gyflenwyr bob hanner awr. Mae hyn yn rhan o broses a elwir yn ‘setliad’. Mae hyn yn golygu y gall cyflenwyr gyfrifo faint o ynni y mae eich busnes yn ei ddefnyddio yn lle rhoi amcangyfrif. Mae'r broses setliad ond yn gymwys i rai busnesau. Edrychwch i weld a yw dau ddigid cyntaf eich Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd neu Rif Cyflenwi ar eich bil trydan yn dechrau gyda 05, 06, 07 neu 08. Os ydyw, mae eich cyflenwr yn cymryd darlleniadau bob hanner awr o'ch mesurydd. 

Gallwch ddechrau contract busnes eich hun neu ddefnyddio trydydd parti fel brocer ynni. Bydd broceriaid ynni yn codi ffi am eu gwasanaeth, 

Contractau ynni busnes

Contract tybiedig

Byddwch yn cael eich rhoi ar gontract tybiedig pan fyddwch yn symud i safle busnes newydd ac yn defnyddio trydan neu nwy cyn cytuno ar gontract gyda chyflenwr. 

Bydd eich cyflenwr ynni yn eich symud i gontract tybiedig yn ddiofyn os bydd eich hen gontract ynni'n dirwyn i ben ac os na fydd yn dweud beth fydd yn digwydd ar ôl iddo ddod i ben.    

Allan o gontract

Dyma'r cyfraddau y byddwch yn eu talu os bydd eich contract yn dweud beth fydd yn digwydd pan ddaw eich contract i ben. Mae cyfradd allan o gontract yn wahanol i gontract tybiedig. 

Contract cyfradd sefydlog

Byddwch yn talu pris sefydlog am bob uned o ynni a ddefnyddiwch  , sy'n cael ei mesur fesul Cilowat yr  awr dros gyfnod eich contract. Os bydd prisiau ynni yn codi, byddwch yn dal i dalu'r un pris am bob uned o ynni a ddefnyddiwch. Ond os bydd prisiau ynni'n gostwng, bydd y pris a dalwch yn aros yr un peth. Gall rhai contractau gynnwys amod sy'n golygu y gall eich cyflenwr newid y gyfradd a dalwch yn ystod y contract. Edrychwch i weld a yw'ch contract yn cynnwys unrhyw amodau eraill. 

Contract Amrywiadwy

Byddwch yn talu symiau gwahanol am yr ynni a ddefnyddiwch yn seiliedig ar gost yr ynni. Mae hyn yn golygu y gall y swm a dalwch fynd i fyny neu i lawr yn ystod cyfnod eich contract. 

Contract treigl neu fytholwyrdd  

Os na fyddwch yn newid eich contract cyn iddo ddod i ben, bydd eich cyflenwr yn treiglo eich contract yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn aros ar yr un telerau ac amodau â'ch contract ynni busnes cyfredol. Ni all microfusnesau gael contract treigl o fwy na 12 mis. 

Os byddwch yn symud i gontract newydd, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflenwr cyn i'r contract presennol ddod i ben. 

Defnyddio brocer ynni   

Gallwch ddefnyddio brocer ynni i'ch helpu i ddod o hyd i gontract ynni ar gyfer eich busnes. Byddant yn codi a ffi arnoch am y gwasanaeth hwn.

Gall broceriaid ynni hefyd eich helpu i ddeall eich biliau ynni busnes, grantiau y gallech fod yn gymwys i'w cael i helpu eich busnes i fod yn fwy ynni effeithlon, a rhoi cyngor ar ffyrdd o wneud arbedion effeithlonrwydd ynni i'ch busnes. Mae'n bosibl y bydd ffi am y cyngor hwn. 

Gallwch ddod o hyd i frocer drwy chwilio am un neu gall rhai gysylltu â chi'n uniongyrchol. Cyn dewis brocer, dylech wneud y canlynol: 

  • dweud wrth y brocer am ofynion ynni eich busnes, er enghraifft, os hoffech ddefnyddio ynni gwyrdd yn unig neu gyflenwyr rydych chi am eu defnyddio neu beidio â'u defnyddio
  • gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth mae eu ffioedd yn ei gynnwys, er enghraifft, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd am eich contract ymlaen llaw, ond gall rhai broceriaid godi ffi gwasanaeth sydd wedi'i chynnwys yn y bil ynni. 
  • gwiriwch gyda pha gyflenwyr maent yn gweithio er mwyn iddynt allu cynnig yr holl gynigion sydd ar gael i chi.
  • gwiriwch delerau ac amodau eu gwasanaeth, darllenwch sut i osgoi telerau annheg mewn contractau gwerthu ar GOV.UK
  • gwiriwch a fyddant yn anfon eich telerau ac amodau atoch cyn i chi gytuno ar gontract ynni busnes, os byddwch yn cytuno ar gontract dros y ffôn, bydd yn gyfreithiol rwymol  ac ni allwch newid eich meddwl

Gallwch hefyd wirio pa mor dda y mae eich cyflenwr ynni busnes yn trafod cwynion ar dabl cynghrair perfformiad cyflenwyr ynni annomestig Cyngor ar Bopeth.      

Problemau gyda'ch brocer ynni  

Os nad ydych yn fodlon ar eich brocer ynni  , dylech geisio datrys y broblem gyda nhw. 

Os ydych yn ficrofusnes, dylai eich brocer fod wedi'i gofrestru ar gynllun gwneud iawn amgen. Mae'r cynllun yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau annibynnol ac yn gweithio gyda broceriaid a microfusnesau gan gynnig datrysiadau diduedd. Gallwch fynegi eich cwyn am eich brocer naill ai drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Ombwdsmon neu Gymdeithas y Cyfryngwyr Cyfleustodau (UIA). Gwiriwch gyda'ch brocer pa gynllun maent wedi cofrestru ag ef.   

Problemau gyda'ch cyflenwr    

Microfusnesau

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr, dylech siarad â'ch cyflenwr a'ch brocer os oes gennych un er mwyn ceisio datrys y broblem. Os na allwch ddatrys y broblem, gallwch geisio ei datrys drwy'r Ombwdsmon Ynni.

Mentrau bach a chanolig eu maint neu fusnesau mawr 

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr, gallwch fynd â'r mater i'r llysoedd sifil i'w ddatrys.