Canllaw ar dariff Economy 7

Bydd defnyddwyr ar dariff Economy 7 yn talu un gyfradd am y trydan y maent yn ei ddefnyddio yn ystod cyfnod allfrig penodol, a chyfradd uwch arall yn ystod oriau brig.

Sut mae'r tariff yn gweithio

Byddwch yn cael gwybod am saith awr allfrig eich tariff pan fyddwch yn cofrestru. 

Gan amlaf, bydd y cyfnod hwn yn rhedeg o hanner nos i 7am, ond gall amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad a'ch cyflenwr.

Newidiwch i dariff Economy 7

Gallai tariff Economy 7 eich helpu i arbed arian os ydych yn defnyddio mwy o drydan yn ystod y nos, er enghraifft ar gyfer gwresogyddion stôr trydan, neu i wefru cerbyd trydan (EV).

Gall y cyfraddau brig ac allfrig sydd ar gael amrywio, felly dylech chwilio am y fargen orau i chi. 

Os nad defnyddio llawer o drydan yn ystod y nos, yna mae'n debygol y bydd tariff cyfradd sengl yn fwy addas i chi.

Mesuryddion Economy 7

Er mwyn helpu i sicrhau bod eich biliau yn gywir, bydd angen mesurydd trydan arnoch sy'n cofnodi'ch defnydd yn ystod oriau brig ac allfrig ar wahân. Gall fod yn fesurydd dwy gyfradd (neu 'gyfradd ddeuol') arbennig, neu'n fesurydd deallus a all gynnig cyfraddau gwahanol yn ystod cyfnodau gwahanol.

Os ydych eisoes ar dariff Economy 7 ond nad ydych yn credu bod gennych y mesurydd cywir, cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl.

Newidiadau i fesuryddion trydan sy'n defnyddio technoleg Radio Teleswitch

Os oes gennych fesurydd Economy 7 neu fesurydd sy'n troi eich gwres neu'ch dŵr poeth ymlaen yn awtomatig, efallai bod gennych fesurydd sy'n defnyddio technoleg Radio Teleswitch (RTS). 

Mae'r dechnoleg sy'n cefnogi mesuryddion RTS yn dod i ben yn raddol. Ar hyn o bryd, y bwriad yw y bydd yn dod i ben yn llwyr ar 30 Mehefin 2025. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr i drefnu uwchraddio i fesurydd deallus newydd, a all gynnig tariffau tebyg i Economy 7. 

Darllenwch am y newidiadau a sut y maent yn effeithio ar aelwydydd yn ein canllaw i ddefnyddwyr ar fesuryddion trydan Radio Teleswitch.