Ymgeiswyr

Os ydych yn ystyried gwneud cais am y cynllun Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) Domestig, mae'r adran hon ar eich cyfer chi.

Os nad ydych wedi gosod technoleg gwresogi adnewyddadwy eisoes, edrychwch ar y siart llif isod. Mae'n eich helpu i ddeall y gofynion ymuno er mwyn i chi allu sicrhau eich bod chi, eich eiddo a'ch system wresogi arfaethedig yn eu diwallu. Gall amser a dreulir ar ymchwil cyn dewis eich offer a'ch gosodwr effeithio ar p'un a gewch eich cymeradwyo pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych wedi gosod system gwresogi adnewyddadwy yn barod, mae gennych hyd at 12 mis i wneud cais i'r cynllun o'r dyddiad y cafodd ei gomisiynu. Y dyddiad comisiynu yw'r dyddiad y mae eich gosodwr yn profi ac yn cymeradwyo'r system (gallwch ddod o hyd iddo ar eich tystysgrif Cynllun Ardystio Microgynhyrchu). Bydd dal angen i chi ddarllen ein Canllaw Hanfodol i Ymgeiswyr cyn gwneud cais a chofiwch edrych ar ein Rhestr o Gynnyrch Cymwys i weld a yw eich cynnyrch yn cydymffurfio â rheolau'r cynllun.

Unwaith y byddwch wedi'ch cymeradwyo i ymuno â'r RHI Domestig, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r rheolau am y saith mlynedd y byddwch yn derbyn taliadau. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n ofynnol ohonoch drwy ddarllen ein tudalennau gwe am archwilio a rhwymedigaethau parhaus.