Y rhwydwaith ynni: sut mae'n gweithio i chi

This page is available in English.

Beth yw’r rhwydwaith?

Bob blwyddyn rydym yn defnyddio digon o drydan ym Mhrydain i ferwi dros 2 triliwn o degellau. Rydym yn defnyddio mwy na dwbl hynny o nwy. Y rhwydwaith yw’r system sy'n dod â'r holl ynni hwn at eich cartrefi a busnesau. Mae'n cynnwys miloedd o filltiroedd o bibellau a gwifrau. Digon, mewn gwirionedd, os ydych yn ei ymestyn i gyd allan iddo gyrraedd y lleuad ac yn ôl.

Dyma sut mae'n gweithio.

Faint yw'r gost?

Mae bil tanwydd deuol ar gyfartaledd yn tua £1,300 y flwyddyn. O hyn, mae tua £300 yn mynd tuag at gostau’r rhwydwaith mae’n rhaid i’ch cyflenwr ei dalu i’r cwmnïau trawsyrru a dosbarthu. Rydym yn disgwyl y rhan hon i aros yn sefydlog tan 2020. 

Beth mae Ofgem yn ei wneud?

Rydym yn defnyddio rheolaethau prisiau i gyfyngu ar y tâl mae'r cwmnïau trawsyrru a dosbarthu yn codi. Rydym hefyd yn gosod targedau perfformio ar gyfer dibynadwyedd a gwasanaeth i gwsmeriaid. Fel hyn, gallwn ni sicrhau bod y cwmnïau yn gweithredu yn effeithlon ac yn cynnig gwerth am arian.

Er ein bod yn cyfyngu prisiau, mae'n rhaid i ni adael i'r cwmnïau godi digon o arian er mwyn talu am eu costau a chael adenillion rhesymol ar yr arian y maent yn buddsoddi.

Mae angen ein rheolaethau oherwydd bod y rhwydwaith yn fonopoli - nid ydych fel arfer yn cael dewis pa gwmni i’w ddefnyddio. Ar y llaw arall, nid ydym yn rheoleiddio'r prisiau a godir gan generaduron neu gyflenwyr. Mae hyn oherwydd eu bod yn rhan o farchnad gystadleuol: gallwch ddewis cyflenwr, a gall cyflenwyr ddewis lle maent yn prynu eu hynni.

Nid ydym yn ymdrin â chwynion unigol. Os ydych yn poeni am doriadau trydan, siaradwch â'ch cwmni dosbarthu trydan. Os ydych yn cael problemau gyda’ch bil, siaradwch â'ch cyflenwr.

Pam mae angen buddsoddi yn y rhwydwaith?

Mae buddsoddi yn golygu y gall cwmnïau fforddio i gynnal a chadw pibellau, gwifrau, is-orsafoedd ac offer arall. Mae hyn yn cadw eich cysylltiadau trydan a nwy yn ddibynadwy.

Adeiladwyd y rhwydwaith yn wreiddiol yn y 1950au a'r 1960au, ac mae llawer o fuddsoddiad wedi bod yn ddiweddar i ddod ag ef at safonau modern. Mae newidiadau mawr wedi bod ers 2005, er mwyn cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn ynni adnewyddadwy.

Pwy sy'n berchen ac yn rhedeg y rhwydwaith?

Roedd y  rhwydwaith yn arfer bod yn eiddo i'r wladwriaeth, ac yna fe’i breifateiddwyd yn 1986 ar gyfer nwy a 1990 ar gyfer trydan. Heddiw mae adrannau trawsyrru a dosbarthu nwy a thrydan yn eiddo i gwmnïau ar wahân, ac mae perchnogion gwahanol mewn gwahanol rannau o Brydain. Yr eithriad yw trawsyrru nwy, a weithredir gan y Grid Cenedlaethol.

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith trawsyrru nwy a thrydan?open key term pop-up

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu trydan?open key term pop-up

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu nwy?open key term pop-up

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith trawsyrru nwy a thrydan?

Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith trawsyrru nwy a thrydan? More.

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu trydan?

Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu trydan? More.

Map: Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu nwy?

Pwy sydd yn gweithredu'r rhwydwaith dosbarthu nwy? More.