Drwy’r tariffiau gwahanol y mae taliadau’r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) yn cael eu cyfrifo. Mae pobl sydd yn ymuno â’r cymhelliant a dilyn y rheolau yn derbyn taliadau bob chwarter am saith mlynedd. Mae’r cyfraddau yn cael eu dewis gan yr Adran Fusnes, Egni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS). Cyn-enw’r adran yma oedd yr Adran Egni a Newid Hinsawdd (DECC).
Ymateb gan y llywodraeth yn dilyn ymgynhoraid ar newidiadau i’r RHI
Yn ddiweddar fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi ei ymateb i’r ymgynghoriad ar ddiwygiad yr RHI sy’n cynnwys cyhoeddiad ar newidiadu i’r tariffiau. Am fwy o wybodaeth, gallwch ddarllen ein tudalen newidiadau i'r cymhelliant.
Newidiad i’r tariff Biomas: Ionawr 1af 2017
Fe wnaeth BEIS gyhoeddi ar Dachwedd 30ain fod y sbardun ar gyfer gostyngiad tariff biomas wedi cael ei basio. Mae hwn yn golygu fod y tariff biomas o 4.48 ceiniog am bob kWh wedi cael ei gostwng gan 10% i 4.21 ceiniog am bob kWh ar gyfer pob cais newydd sy’n cael ei wneud. Os fe wnaethoch ymuno â’r cymhelliant cyn Ionawr 1af ni fyddwch yn cael eich effeithio a mi fydd eich tariff yn aros yr un peth.
Nid oes newid i dariffiau y pwmpiau aer neu’r systemau gwres solar.
Ceisiadau a gyflwynwyd | Boeleri a ffyrnau biomas (C/kWh) | Pympiau gwres o'r aer (C/kWh) | Pympiau gwres o'r ddaear (C/kWh) | Systemau thermol solar (C/kWh) |
---|---|---|---|---|
01/10/2016 - 31/12/2016* | 4.68c | 7.51c | 19.33c | 19.74c |
01/01/2017 - 31/03/2017* | 4.21c | 7.51c | 19.33c | 19.74c |
01/04/2017-30/06/2017* | Os caiff unrhyw newidiadau tariff newydd eu gwneud o ganlyniad i ddisgyniad, byddai'r cyhoeddiad nesaf gan yr Adran Fusnes, Egni a Strategaeth Ddiwylliannol yn cael ei wneud erbyn Mawrth 1af 2017. |
* caiff y tariffau hyn eu haddasu yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
Camau Nesaf
Am fwy o wybodaeth, gweler:
- Termau hanfodol ar gyfer y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI)
- Adroddiadau cyhoeddus a data: Y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI)
- Llyfrgell dogfennau: Y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI)
- Arolygiadau a Chwynion
- Gyda phwy y dylid cysylltu